Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld dinas Caerdydd yn ei blodau yn sioe’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol

Heddiw (8fed Ebrill 2011), roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn cwrdd ag arbenigwyr ac arddangoswyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (8fed Ebrill 2011), roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym Mharc Bute yng Nghaerdydd yn cwrdd ag arbenigwyr ac arddangoswyr Garddwriaethol Cymru yn Sioe Arddwriaethol Frenhinol gyntaf y tymor.

Cafodd Ysgrifennydd Cymru, sy’n arddwr amatur brwdfrydig ei hun, ei thywys o amgylch y Sioe Arddwriaethol Frenhinol gan Lywydd y Sioe, Elizabeth Banks, a bu’n ymweld a phebyll blodau’r sioe, gerddi’r sioe, y pebyll a’r stondinau masnach yn y Sioe Arddwriaethol Frenhinol.

Mae’r digwyddiad eleni yn fwy nag erioed, gydag wyth gardd sioe a’r nifer uchaf erioed o ysgolion yn cystadlu. Bydd sioe Caerdydd hefyd yn cynnwys elfennau teimladwy, gyda gardd ‘Blwch Shelter’ yn codi arian i wledydd sydd wedi dioddef trychinebau ac mae cennin Pedr ‘Welsh Warrior’ yn cael ei lansio er cof am y Milwr o’r Fenni, Richard Hunt o 2il Fataliwn Catrawd Frenhinol Cymru a gafodd ei ladd yn Afghanistan.

 Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’r arddangosfeydd rwyf wedi’u gweld heddiw wedi bod yn syfrdanol, gan ddangos doniau ac ymroddiad anhygoel yr arddangoswyr sy’n cymryd rhan. Gyda’r tywydd ardderchog y mae Cymru wedi’i gael yn ystod y Gwanwyn hwn, rwy’n siŵr y bydd y sioe yn llwyddiant ysgubol, nid yn unig i’r trefnwyr, ond i’n heconomi leol hefyd. 

“Dylai pawb sydd a diddordeb mewn garddio a garddwriaeth fynd i weld y Sioe Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd, neu hyd yn oed y rheini sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored. Rwy’n falch iawn fod y sioe yn cael ei chynnal yng ngerddi trawiadol Castell Caerdydd. Unwaith eto, rydyn ni wedi dangos bod Cymru yn lle gwych i gynnal digwyddiadau mawr, ac rwy’n llongyfarch pawb sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant y Sioe Arddwriaethol Frenhinol.”

Cyhoeddwyd ar 8 April 2011