Datganiad i'r wasg

Ygrifennydd Cymru'n cadeirio panel ar bwerau'r Llywodraeth ar ôl Brexit

Alun Cairns yn cynnal y seithfed mewn cyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr busnes a diwydiant Cymru

Heddiw, (dydd Iau 19 Ebrill), bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadeirio panel o arbenigwyr o fyd busnes, gweithgynhyrchu, ffermio a’r sector gwirfoddol i archwilio sut dylid defnyddio pwerau a oedd ym meddiant yr Undeb Ewropeaidd yn flaenorol i helpu Cymru i ffynnu mewn byd ôl-Brexit.

Mae’r cyfarfod yn un o gyfres barhaus i sicrhau bod barn byd busnes a diwydiant Cymru ar Brexit yn cael ei chlywed gan ffigurau canolog Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y sesiwn 90 munud yn edrych ar faterion a fydd yn cynnwys sut dylid arfer y pwerau sy’n dychwelyd o’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol; sut gallai fframweithiau o’r fath weithredu yn y ffordd orau’n ymarferol, a sut gellid gweithredu pwerau ar lefel ddatganoledig.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’r economi yn parhau i dyfu - mae ffigurau cyflogaeth yr wythnos hon yn tanlinellu’r ffaith honno - ac rydym yn dal i ddenu buddsoddiad oherwydd ein seilwaith cryf a’n gweithlu medrus.

Ond er mwyn parhau i wneud hynny, mae angen i ni roi sicrwydd ac eglurder ynghylch y ffordd orau o defnyddio pwerau ar ôl Brexit. Rwyf eisiau clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n gyrru economi Cymru, a bydd panel heddiw yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut gallwn ni roi Cymru mewn sefyllfa i ffynnu ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r cynrychiolwyr a wahoddwyd i’r cyfarfod o nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Siambr Fasnach; Sefydliad y Cyfarwyddwyr; y Ffederasiwn Busnesau Bach; NFU Cymru; CBI Cymru; Cymdeithas y Tirfeddianwyr; Grŵp Admiral ac Airbus.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 19 April 2018