Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Fusnes

Heddiw (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr), bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn Nhŷ…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (dydd Mawrth, 14 Rhagfyr), bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadeirio cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn Nhŷ Gwydyr, Llundain.

Sefydlwyd y grŵp gan Ysgrifennydd Cymru gyda’r bwriad o edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru a gwrando ar farn arweinwyr ym myd busnes yng Nghymru. Bydd yr wybodaeth yn cael ei hadrodd yn ol i Grŵp Cynghori ar Fusnes y DU, sy’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog.

Croesawodd Mrs Gillan a David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, gynrychiolwyr o bob rhan o’r sbectrwm busnes yng Nghymru er mwyn clywed o lygad y ffynnon eu barn am yr amgylchedd busnes yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Ni fyddai’r grŵp hwn wedi gallu cael ei ffurfio ar adeg bwysicach, yn enwedig o ystyried y ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy’n cadarnhau bod Cymru wedi syrthio ymhellach y tu ol i weddill y DU o safbwynt ffyniant, ac mai yng Nghymru y mae nifer o’r ardaloedd tlotaf yn y DU o hyd. 

“Yn y cyfarfod cychwynnol hwn, roeddwn am ganolbwyntio ar farn aelodau’r Grŵp Cynghori ar Fusnes ynghylch beth yw prif gryfderau a gwendidau’r amgylchedd busnes yng Nghymru, a sut gallwn ei ddatblygu er mwyn sicrhau twf yn y dyfodol.

“Mae’r Grŵp Cynghori ar Fusnes yn fy ngalluogi i drafod sut mae busnesau Cymru’n ymdopi ‘ar lawr gwlad’, ac yn rhoi cyfle i’r aelodau rannu’r materion sydd, yn eu tyb nhw, yn effeithio ar economi Cymru ac yn effeithio’n uniongyrchol arnynt hwythau ym myd busnes.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Er bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn gwella i bob golwg, bu cynnydd syfrdanol yn y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc drwy Gymru dan y Lywodraeth flaenorol. Mae hynny’n sicr yn ddigon i’n hatgoffa pa mor bwysig yw gallu darparu swyddi i’n pobl ifanc.”

Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn cynnwys:

  • David Rosser, CBI Cymru
  • Russell Lawson, Ffederasiwn y Busnesau Bach (FBI) Cymru
  • Steve Thomas, Airbus
  • Phil Orford, Fforwm Busnesau Preifat
  • Dylan Jones Evans, Prifysgol Cymru
  • Graham Hillier, Toyota
  • Colin Orr Burns, Dragon LNG
  • Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru
  • Yr Athro Wayne Powell, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth
  • Paul Gorin, Smart Solutions Recruitment

Roedd aelodau eraill o’r Grŵp wedi ymddiheuro heddiw. Cytunodd yr aelodau y dylai’r Grŵp Cynghori ar Fusnes gyfarfod bob chwarter, a bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal fis Mawrth.

Cyhoeddwyd ar 14 December 2010