Ysgrifennydd Cymru’n galw am fwy o bwerau i gymunedau lleol
Mewn anerchiad o bwys i’w thraddodi gerbron Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC) heddiw (18 Medi 2013), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn galw ar Gynulliad Cymru i wneud mwy i rymuso cymunedau Cymru drwy arfogi cynghorau lleol â’r hyn sydd ei angen arnynt i gyflawni ar ran y bobl a wasanaethant.
Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol SLCC yn Venue Cymru Llandudno, bydd Mr Jones yn tanlinellu ymrwymiad cryf Llywodraeth y DU i roi pŵer i bobl a chymunedau er mwyn iddynt allu gwneud y penderfyniadau sy’n addas ar gyfer eu hamgylchiadau.
Disgwylir iddo dynnu sylw at y gwahaniaethau yn y ffordd y mae Cymru a Lloegr yn ystyried lleoliaeth, ac edrych ar beth mwy y gellid ei wneud i wthio pŵer i lawr i’r lefel leol yng Nghymru.
O ‘Eco Ysgolion’ ym Mhont-y-pŵl, i ddigwyddiadau elusennol yn Llai, bydd Mr Jones yn nodi enghreifftiau da o gynghorau lleol yn cyflawni gwasanaethau a phrosiectau o bwys i’r bobl yn eu cymunedau.
Ond bydd Mr Jones yn dweud y bydd gofyn i gynghorau cymuned gael eu grymuso i wneud mwy, a bydd yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i archwilio’r cynlluniau sy’n cael eu gweithredu’n llwyddiannus yn Lloegr, ac ystyried mabwysiadu’r rhain yng Nghymru.
Dyma fydd ganddo i’w ddweud
Cynghorau cymuned Cymru a swyddogion cyfatebol mewn Cynghorau Sir sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau dros [eich] cymunedau,” a bydd yn annog y Cynulliad i ddefnyddio ei bwerau “i roi llais i bobl leol mewn materion sydd o bwys iddynt hwy.
Daw araith Mr Jones union flwyddyn cyn y gofynnir i bobl yr Alban benderfynu rhwng parhau mewn undeb neu fod yn annibynnol. Yn ystod ei anerchiad, bydd yn tanlinellu ei farn bod “pedair cenedl y DU yn well ac yn gryfach gyda’i gilydd.”
NODIADAU I OLYGYDDION
1.Bydd Mr Jones yn rhoi’r anerchiad yng nghynhadledd Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Mercher 18 Medi. 2.Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Swyddfa’r Wasg Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204.