Ysgrifennydd Cymru yn annog Cymru i ddechrau’r gystadleuaeth Chwe Gwlad yn hyderus
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn annog tim rygbi Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant…

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn annog tim rygbi Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant yn wynebu Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd nos yfory.
Mae Mrs Gillan yn gobeithio y caiff tim Cymru gystadleuaeth Chwe Gwlad lwyddiannus fel rhan o’r paratoadau at gystadleuaeth cwpan Rygbi’r Byd yr Hydref hwn.
Dywedodd Mrs Gillan: “Fel Ysgrifennydd Cymru, byddaf yn cefnogi tim Cymru yr holl ffordd. Er 2005, mae gan Gymru hanes da iawn yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm, ac rwy’n siŵr y bydd y gefnogaeth gan y dorf yn rhoi’r hwb y mae ei angen ar y Cymry i barhau a’r duedd honno.”
Ar ol gem Lloegr, bydd Cymru yn wynebu’r Alban yn Murrayfield, yr Eidal yn Rhufain, Iwerddon yng Nghaerdydd ac yn gorffen y gystadleuaeth ym Mharis yn erbyn Ffrainc.