Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi Wythnos y Prifysgolion
Mae Wythnos y Prifysgolion yn gyfle gwych i ddwyn sylw at y manteision a rydd Addysg Uwch i’r economi a Chymdeithas, meddai Ysgrifennydd Cymru…
Mae Wythnos y Prifysgolion yn gyfle gwych i ddwyn sylw at y manteision a rydd Addysg Uwch i’r economi a Chymdeithas, meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Cynhelir Wythnos y Prifysgolion rhwng 13 a 19 Mehefin a nod yr ymgyrch genedlaethol hon yw dangos y manteision y mae Addysg Uwch yn eu darparu. Yn ystod ymgyrch eleni bydd thema wahanol ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos - Rhannu Syniadau Mawr, Syniadau Mawr ar gyfer Busnes, Syniadau Mawr ar gyfer Cymdeithas, Syniadau Mawr ar gyfer y Dyfodol a Syniadau Mawr Ar Waith.
Dywedodd Mrs Gillan: “Pwrpas ymgyrch yr wythnos hon yw dathlu’r manteision eang y mae Prifysgolion yn eu darparu nid yn unig i fyfyrwyr ond i economi a chymdeithas y DU. Mae gan Addysg Uwch rol bwysig yn ysgogi twf economaidd - o ymchwil arloesol i ddarparu gweithwyr hyfedr y mae eu hangen ar fusnesau i ddatblygu a ffynnu.
“Mae themau ymgyrch eleni hefyd yn dwyn sylw at y manteision ehangach i gymdeithas ac yn dangos sut y mae prifysgolion yn rhyngweithio a’u cymunedau lleol. Mae Addysg Uwch yn agor y drysau i gyfleoedd newydd sbon ac rwyf wrth fy modd yn cefnogi ymgyrch eleni.
“Er bod Addysg Uwch wedi’i datganoli, edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer byd gwaith. Rwyf am weld prifysgolion Cymru yn denu ac yn cadw’r myfyrwyr gorau ac yn cystadlu a’r gorau yn y wlad o ran safonau academaidd.”
Nodiadau
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Wythnos y Prifysgolion yn: http://www.universitiesweek.org.uk/Pages/default.aspx