Ysgrifennydd Cymru’n mynychu ‘Gwobrau Gwnaed yng Nghymru’
Heddiw, mynychodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y ‘Gwobrau Gwnaed yng Nghymru’ yn Holland House yng Nghaerdydd. Mae’r Gwobrau wedi eu cynllunio…

Heddiw, mynychodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y ‘Gwobrau Gwnaed yng Nghymru’ yn Holland House yng Nghaerdydd. Mae’r Gwobrau wedi eu cynllunio i ddathlu’r goreuon sydd gan weithgynhyrchu yng Nghymru i’w cynnig.
Wrth siarad yn y seremoni meddai Mrs Gillan:
“Mae’r Gwobrau Gwnaed yng Nghymru yn ffordd wych o gydnabod uchelgais a llwyddiant ymhlith busnesau ar draws Cymru. Rwyf wrth fy modd y cefais wahoddiad i fynychu’r seremoni wobrwyo heddiw ac i glywed drosof fy hun am waith cwmniau yng Nghymru.”
“Mae’r arloesi sy’n cael ei gydnabod gan y cynllun gwobrwyo yn ysbrydoliaeth a hoffwn longyfarch pob un o’r enillwyr; maent yn esiamplau clodwiw o sut all Cymru gyfrannu at dechnolegau newydd a thwf y sector preifat”
“Mae gan gwmniau bach a chanolig yng Nghymru rol hollbwysig i’w chwarae mewn cefnogi economi’r wlad a rwyf yn glir bod Llywodraeth y DU yma i helpu cwmniau i lwyddo.”