Ysgrifennydd Cymru’n mynychu cyfarfod o’r Cydbwyllgor Gweinidogion
Mynychodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfarfod cyntaf o’r Cydbwyllgor Gweinidogion ers ffurfio’r gweinyddiaethau newydd ar ol …
Mynychodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfarfod cyntaf o’r Cydbwyllgor Gweinidogion ers ffurfio’r gweinyddiaethau newydd ar ol yr etholiadau i’r deddfwrfeydd datganoledig ar 5 Mai. Cynhaliwyd y cyfarfod yn 10 Stryd Downing dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog.
Cyhoeddwyd Hysbysiad Cydbwyllgor y Gweinidogion yn dilyn y cyfarfod:
Hysbysiad Cydbwyllgor Gweinidogion
8 Mehefin 2011 ** **
- Heddiw, cynhaliwyd Cyfarfod Llawn y Cydbwyllgor Gweinidogion yn rhif 10 Stryd Downing, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS. Dyma’r cyfranogwyr: o Lywodraeth EM, y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Michael Moore AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Owen Paterson AS a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Danny Alexander; o Lywodraeth yr Alban, Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Alex Salmond, Aelod o Senedd yr Alban, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Thwf Cynaliadwy, John Swinney, Aelod o Senedd yr Alban, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Fusnes Seneddol, Bruce Crawford, Aelod o Senedd yr Alban; o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrhydeddus Peter Robinson, Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol, a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness AS, Aelod o’r Cynulliad Deddfwriaethol; ac o Lywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC.
2. Dyma oedd y tro cyntaf i’r Cydbwyllgor Gweinidogion gyfarfod ers ffurfio’r gweinyddiaethau newydd ar ol yr etholiadau i’r deddfwrfeydd datganoledig ar 5 Mai.
3. Y ddwy brif eitem ar yr agenda oedd, yn gyntaf, blaenoriaethau’r gweinyddiaethau newydd a chydweithio’n llwyddiannus ar draws y pedair gweinyddiaeth; ac, yn ail, cyflwr yr economi a chyllid cyhoeddus.
4. Wrth drafod yr eitem gyntaf, bu’r Gweinidogion yn trafod eu blaenoriaethau hwy, yn benodol blaenoriaethau’r tair gweinyddiaeth a gafodd eu hethol yn ddiweddar yng Nghymru, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban. Wrth fwrw ymlaen a’r blaenoriaethau hyn, cytunodd y Gweinidogion fod yr egwyddorion a sefydlwyd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y pedair gweinyddiaeth yn 1999 yn parhau i ddarparu sylfaen hanfodol ar gyfer sicrhau perthynas iach rhwng y gweinyddiaethau. Gwnaethant hefyd gadarnhau eu hymrwymiad i gydweithio ar sail cyfathrebu da, cydweithredu agos a pharch at ei gilydd, fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
5. Wrth drafod yr ail eitem, bu’r Gweinidogion yn trafod yr hinsawdd economaidd bresennol. Gwnaethant gytuno ar bwysigrwydd cydweithio’n agos ar faterion sydd o ddiddordeb cyffredin, er mwyn cyflawni’r nodau o sicrhau’r adferiad a chynnal twf economaidd. Cytunwyd y byddai’n bwysig cynnal dialog rheolaidd a chadarnhaol ar y materion hyn, gan gynnwys yng nghyfarfod Pedairochrog y Gweinidogion Cyllid, sydd i’w gynnal ar 14 Gorffennaf.
6. Cytunodd y cyfarfod ar ddiwygiadau i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan ddarparu ar gyfer ychwanegiadau i’r protocol osgoi anghydfodau a datrys anghydfodau. Byddai’r diwygiadau yn galluogi’r Cydbwyllgor Gweinidogion gomisiynu ar sail dadansoddiad o faterion yn ymwneud ag anghytundebau ac anghydfodau nas datryswyd, a gynhelir gan drydydd parti annibynnol, y cytunir arno. Aeth y cyfarfod ymlaen i drafod y cynnydd a wnaed hyd yma i ddatrys anghydfodau y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd. Wrth drafod mater yr anghydfod ynglŷn a chyllido’r Gemau Olympaidd, cytunodd y cyfarfod i ystyried y mater ymhellach er mwyn edrych ar ffyrdd y gellir gwneud cynnydd.
7. Cytunodd y cyfarfod hefyd ar yr Adroddiad Blynyddol amgaeedig, sy’n crynhoi gweithgareddau Cydbwyllgor y Gweinidogion ers y Cyfarfod Llawn diwethaf ym mis Mehefin 2010. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan pob gweinyddiaeth.