Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cyhoeddi ymweliad masnach a buddsoddi â Japan

Rhoi hwb i gysylltiadau busnes rhwng y Deyrnas Unedig a Japan ar frig yr agenda yn ystod tridiau'r ymweliad

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn teithio i Japan yr wythnos hon (1-4 Awst) ar gyfer cyfres o gyfarfodydd gyda busnesau i drafod y potensial mawr ar gyfer mewnfuddsoddi pellach yn y Deyrnas Unedig.

Daw’r ymweliad yn fuan iawn ar ôl cyfres o ymweliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol â chwmnïau Japaneaidd sydd â phresenoldeb yng Nghymru yn barod. Ym mis Mehefin, ymwelodd Mr Cairns â chwmni technoleg moduron Nidec yn y Drenewydd, ac ym mis Gorffennaf cyfarfu â swyddogion gweithredol yn Panasonic yng Nghaerdydd, gyda’r nod o roi’r sicrwydd a’r diogelwch mwyaf posibl i fusnesau rhyngwladol a leolir yng Nghymru wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae fy ymweliad â Japan yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awyddus i weithio’n agos gyda busnesau o bob rhan o’r byd, er mwyn dangos y potensial enfawr ar gyfer buddsoddi sydd ar gael iddynt yma, ac er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â phresenoldeb yma’n barod yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i ehangu a thyfu.

Mae cwmnïau o Japan yn buddsoddi dros £40 biliwn yn y Deyrnas Unedig, ac mae ein perthynas fasnachol yn gryfach nag erioed. Rydym eisiau gweld y bartneriaeth honno’n parhau i dyfu a ffynnu.

Roeddwn i eisiau blaenoriaethu ymweld â’r partner masnachu pwysig hwn i anfon neges glir bod y Deyrnas Unedig yn agored ar gyfer busnes, fel y bydd bob amser.

Yn ystod ei daith, bydd Mr Cairns yn trafod cryfhau cysylltiadau economaidd rhwng y Deyrnas Unedig a Japan gyda Llysgennad Prydain i Japan, ac yn cwrdd â swyddogion gweithredol o Panasonic, Sony a Toyota i gynnig y sicrwydd y bydd Cymru yn dal i fod y wlad uchelgeisiol sy’n edrych tuag allan, fel y bu erioed, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn cyfarfod â Hitachi - rhiant gwmni Pŵer Niwclear Horizon a Hitachi Rail Europe.

Cyn mynd ar yr awyren, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y cynlluniau i ehangu un o feysydd awyr rhyngwladol prysuraf y byd. Mae Heathrow yn gweithredu fel dolen gyswllt hanfodol ar gyfer buddsoddi o’r tu allan yn y Deyrnas Unedig, a bydd Mr Cairns yn cwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol y maes awyr, John Holland-Kaye, cyn mynd ar daith o gwmpas y tŵr rheoli a’r rhedfeydd lle mae dros 200,000 o deithwyr yn esgyn ac yn glanio’n ddyddiol.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Mae fy ymweliad â Japan yn barhad o’m hymrwymiad i ymgysylltu â chwmnïau byd-eang yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig gyfan. Rydym yn falch o gael cymaint o gwmnïau rhyngwladol yn cyflogi ein set sgiliau lleol a chyfrannu at dwf economaidd lleol.

Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym eisiau parhau i fod yn bŵer dylanwadol ar lwyfan y byd, gan weithio gyda phartneriaid rhyngwladol i sicrhau diogelwch a ffyniant.

Er mwyn tynnu sylw at y cysylltiadau diwylliannol cryf rhwng Japan a Chymru, bydd Mr Cairns hefyd yn traddodi araith mewn cinio i ddathlu pen-blwydd y Clwb Hiraeth yn 35 oed - grŵp a sefydlwyd yn 1982 gan Uwch Weithredwyr a oedd yn gweithio yng Nghymru ac a ddychwelodd i Japan gyda hoffter enfawr o’r wlad.

Cyhoeddwyd ar 1 August 2017