Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn cyhoeddi ehangu safle Ispen yn Wrecsam gwerth miliynau o bunnoedd

Alun Cairns: Mae twf parhaus presenoldeb Ipsen yn Wrecsam yn dangos ei hymrwymiad i'r gogledd ac i'r gweithlu medrus

  • Cwmni gofal iechyd a gwyddorau bywyd Ipsen yn buddsoddi £22 miliwn yn ei safle yng Ngogledd Cymru
  • Ipsen yn addo ymrwymo i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ymweld â Gogledd Cymru heddiw (17 Tachwedd 2017) i groesawu buddsoddiad £22 miliwn gan gwmni gofal iechyd byd-eang Ipsen yn ei safle yn Wrecsam.

Mae’r cyhoeddiad yn cadarnhau ymrwymiad y sefydliad i’r maes gofal iechyd yn y DU, ac yn cryfhau enw da Cymru ymhellach fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gwyddorau bywyd.

Ipsen yw’r trydydd cyflogwr mwyaf yn yr ardal gyda thua 400 o weithwyr. Bydd y cyhoeddiad heddiw yn gweld y busnes yn Wrecsam yn ehangu i gynyddu’r gwaith ymchwil a gweithgynhyrchu gyda llinell bacio newydd ac amgylchedd swyddfa newydd.

Gwyddorau bywyd yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Gyda throsiant o tua £2 biliwn, mae’n cyflogi tua 11,000 o bobl mewn 350 o gwmnïau.

Mae cryfder y DU mewn gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesedd hefyd yn ffocws allweddol strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn mynd ar daith o gwmpas ConvaTec yng Nglannau Dyfrdwy, cwmni cynhyrchion meddygol a thechnolegau byd-eang.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Ipsen yn un stori o lwyddiant mawr yng Ngogledd Cymru. Wrth iddyn nhw barhau i ehangu, mae’n brawf clir o gyfraniad sylweddol gwyddorau bywyd ac arloesedd yn y meysydd arbenigol hyn i’r rhanbarth ac i economi Cymru.

Mae twf parhaus presenoldeb Ipsen yn Wrecsam yn dangos ei ymrwymiad parhaus i Ogledd Cymru a’i weithlu medrus. Mae’n gyfnod cyffrous i’r cwmni a’r sector yng Nghymru wrth i ni edrych i sefydlu ein hunain fel canolfan ragoriaeth o safon ryngwladol mewn ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd.

Mae Ipsen yn gwerthu nwyddau mewn 115 o wledydd ledled y byd, wedi gweithredu yn Wrecsam ers 1995, gyda mwy na 25 mlynedd o brofiad wrth weithgynhyrchu a datblygu nwyddau gofal arbenigol arloesol.

Mae’r safle yn Wrecsam yn cynhyrchu un o nwyddau strategol allweddol Ipsen, sef Dysport®, sy’n cael ei gymeradwyo mewn 80 o wledydd ac mewn nifer o achosion therapiwtig fel parlys yr ymennydd, sbastigedd a dystonia ceg y groth.

Dywedodd Aidan Murphy, Uwch Is Lywydd, Datblygu a Gweithgynhyrchu Biotech yn Ipsen:

Rydym wrth ein bodd gyda’r cyhoeddiad heddiw wrth i ni gymryd camau pwysig i gyflymu’r rhaglen ehangu sydd ar y gweill yn Wrecsam lle bydd y cynhyrchu yn cynyddu’n sylweddol i adlewyrchu’r uchelgais a’r galw.

Mae cynhyrchu Dysport® yn parhau i fod yn broses gymhleth iawn, mae’n anodd ei gopïo ac mae’n defnyddio technoleg arbenigol ac unigryw.

Yr ydym yn ffodus i weithio gyda grŵp o unigolion medrus iawn ar draws pob rhan o’r sefydliad yn Wrecsam, ac yn gwybod bod yr ehangu yn atgyfnerthu safle’r cwmni fel cyfleuster gweithgynhyrchu meddygaeth fodern wedi’i leoli yma yn y DU.

Dywedodd Ewan McDowall, Rheolwr Cyffredinol Ipsen UK & Ireland, am y buddsoddiad parhaus yn y DU,

Mae’r DU yn parhau i arloesi mewn gofal iechyd, gwyddorau bywyd a thechnoleg, a bydd Ipsen yn parhau i fuddsoddi a chefnogi’r twf.

Mae’r amgylchedd gwleidyddol mewn cyfnod o ansicrwydd. Fodd bynnag, mae Ipsen yn hyderus bod y DU yn parhau i fod yn lleoliad pwysig ar gyfer Ipsen ar draws ymchwil, datblygu, gweithgynhyrchu, ac wrth gwrs mynediad cleifion at feddyginiaethau.

Edrychwn ymlaen at gynyddu’r cyfleoedd i gydweithio ag arbenigwyr ar draws pob cam o ddatblygiad meddygaeth, gweithgynhyrchu a dosbarthu – gan nad oes amser gan y cleifion.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae Ipsen yn fewn-fuddsoddwr pwysig yng Nghymru. Wrth i ni baratoi i adael yr UE, mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo drwy ein Strategaeth Ddiwydiannol i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn un o’r llefydd gorau yn y byd i wneud busnes.

Cyhoeddwyd ar 17 November 2017