Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn amlinellu ei egwyddorion ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru

Alun Cairns: "Fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru er mwyn cael sicrwydd economaidd i bobl sy’n byw yng Nghymru "

Mae pethau’n dechau tawelu ar ôl yr etholiadau, a rhaid i ni droi’n sylw at y problemau a’r heriau yng Nghymru.

Fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru er mwyn cael sicrwydd economaidd i bobl sy’n byw yng Nghymru.

Ddydd Gwener, bûm yn siarad â chydweithwyr ym Mae Caerdydd ac yn cadarnhau fy nodau o hyn ymlaen.

Yn fy marn i mae gan Lywodraeth newydd Cymru bum blaenoriaeth glir wrth gydweithio â San Steffan.

  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi ddal i ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Tata Steel.
  • Gwireddu potensial Gogledd Cymru: un o’r pethau cyntaf a wnes i ar ôl dod yn Ysgrifennydd Gwladol oedd trefnu cyfarfod ar gyfer arweinwyr cynghorau, arweinwyr addysg uwch a grwpiau busnes i drafod beth y gallai bargen ar gyfer twf yng Ngogledd Cymru ei gyflawni. Sefydlwyd Pwerdy’r Gogledd er mwyn meithrin cysylltiadau busnes mewn ardal sy’n ymestyn o Ogledd Cymru i Newcastle. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi pwerau i gymunedau a phobl leol i’w helpu i wireddu eu potensial a hybu twf.
  • Gwelliannau i’r M4: mae Llywodraeth y DU wedi tanysgrifennu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru o hyd at £500 miliwn i helpu i sicrhau gwelliannau. Mae manteision economaidd mynd i’r afael â thagfeydd yr M4 yn amlwg ond yn rhyfedd iawn mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dawel ar wahân i ambell ffrae fewnol ynglŷn â phryd neu hyd yn oed os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen. Mae angen i ni sicrhau bod hyn yn digwydd yn fuan.
  • Y refferendwm Ewropeaidd: mae angen i bobl o wahanol bleidiau gwleidyddol ddod at ei gilydd ac egluro ein cred gyffredin y bydd Cymru’n ffynnu drwy aros mewn Undeb Ewropeaidd diwygiedig. Mae taflen Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei dosbarthu i bob cartref yng Nghymru cyn bo hir yn amlinellu ein rhesymau dros aros. Bydd y ffordd y byddwn yn pleidleisio ar 23 Mehefin yn cael effaith fawr arnom am ddegawdau. Mae angen i ni roi gwleidyddiaeth pleidiau o’r neilltu er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yng Nghymru’n gwneud dewis sy’n seiliedig ar ffeithiau.
  • Manteisio ar y cyfleoedd a gynigir ym Mil Cymru yn y dyfodol i sicrhau Senedd go iawn i Gymru, â mwy o bwerau a Llywodraeth a fydd yn gyfrifol am godi arian yn ogystal â gwario arian.

Mae gwleidyddiaeth Cymru yn rhy aml o’r hanner wedi gweld teyrngarwch llwythol a thuedd i wrthwynebu dim ond er mwyn gwrthwynebu y naill ben a’r llall o’r M4. Mae’n bryd i ni gael agwedd bragmataidd newydd.

Wrth i ni agosáu at gam nesaf datganoli yng Nghymru, fy neges i i Lywodraeth newydd Cymru yw bod angen i ni roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a symud ymlaen â’r gwaith mawr o gyflawni prosiectau a fydd o fudd gwirioneddol i fywydau pobl. Os gallwn wneud hyn, yna pobl Cymru fydd yr enillwyr go iawn yn yr etholiad hwn.

Nodiadau i Olygyddion

Cyhoeddwyd fersiwn hirach o’r erthygl hon yn y Sunday Times

Cyhoeddwyd ar 9 May 2016