Datganiad i'r wasg

Neges Flwyddyn Newydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ar gyfer 2018

Alun Cairns yn edrych ymlaen at flwyddyn o gyfleoedd newydd I Gymru.

Alun Cairns

Alun Cairns

Mae pob Blwyddyn Newydd yn rhoi cyfle i ni ystyried beth rydyn ni wedi’i gyflawni dros y 12 mis ac i edrych ymlaen at y flwyddyn sydd o’n blaenau.

Yn 2017, bu Cymru unwaith eto yn amlwg ar y llwyfan rhyngwladol gan ddangos ei bod yn lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr pan ddaeth gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd. Cafodd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd y flwyddyn honno ei ddarlledu mewn 200 o wledydd a daeth hyd at 170,000 o gefnogwyr o bob rhan o’r byd i’r ddinas, a gadael â neges glir a chadarnhaol am bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Yn sicr hefyd, bu 2017 yn flwyddyn arloesol i’r Deyrnas Unedig o ran ein hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol.

Dechreusom y flwyddyn drwy ysgrifennu pennod newydd yn hanes datganoli yng Nghymru wrth i Fil Cymru gael Cydsyniad Brenhinol. Ym mis Mawrth, cafodd Erthygl 50 ei gweithredu, gan roi’r penderfyniad a oedd wedi’i gymryd gan bobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ar waith. A daeth y flwyddyn i ben wrth i ni ddod i gytundeb ar gam cyntaf y trafodaethau a fydd yn ein tywys at drafodaethau ar fasnach a diogelwch yn 2018. Dyma’r flwyddyn y gwelwyd Llywodraeth y DU yn ategu ei huchelgais i sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn economi Cymru a meithrin y sector preifat, drwy fuddsoddi’n helaeth mewn seilwaith.

Mae’r penderfyniad i leihau’r tollau ar bontydd afon Hafren cyn eu dileu yn llwyr, cyflwyno trenau o’r radd flaenaf ar brif lein y Great Western, ac arian ar gyfer band eang cyflym iawn, i gyd yn gamau hanfodol ar gyfer sicrhau twf economaidd, cytbwys a hirdymor.

Hefyd rydym wedi parhau i ddangos bod y Llywodraeth hon yn sefyll yn gadarn ar ochr busnesau. Bwriad Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth yw meithrin cryfderau Cymru mewn meysydd megis awyrofod, technoleg a gwyddorau bywyd, ac rydw i eisiau sicrhau ein bod ymdrechu i’r eithaf i gael y manteision gorau posibl i Gymru o’r cynlluniau a’r heriau mawr y mae’n eu cyflwyno.

Ac wrth gwrs, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi’r ffordd ymlaen ar gyfer cyfres gynhwysfawr ac uchelgeisiol o Fargeinion Dinesig i Gaerdydd ac Abertawe, mae’n bwrw ymlaen â bargen twf ar gyfer Gogledd Cymru ac yn cychwyn trafodaethau ar fargen twf i’r Canolbarth.

Pwrpas y bargeinion hyn yw creu rhwydwaith o bwerdai economaidd rhanbarthol sy’n gallu meithrin cysylltiadau a pherthnasoedd a fydd o fudd i bawb.

Dyma pam mae ein cyhoeddiad ynghylch dileu’r tollau ar bontydd Hafren mor bwysig – fy mhrif nod wrth ddod yn Ysgrifennydd Gwladol – anfon neges uniongyrchol at fusnesau, cymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddweud ein bod yn ymrwymedig i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.

Ac er mwyn adeiladu ar hyn, un o’m gorchwylion cyntaf yn y Flwyddyn Newydd fydd cynnal Uwchgynhadledd ar 22 Ionawr yn y Celtic Manor i ddod â phartneriaid lleol o Dde Cymru a De Orllewin Lloegr at ei gilydd i drafod sut y gallwn fynd ati i gryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy economi.

Felly, os oedd 2017 yn flwyddyn o gynnydd i Gymru a’r Deyrnas Unedig, 2018 fydd y flwyddyn lle bydd yn rhaid i ni gael y weledigaeth a’r dewrder i fanteisio ar y cyfleoedd mae hyn i gyd yn eu cyflwyno.

Dyma hefyd yr her a roddwn i Lywodraeth Cymru pan ddaw seiliau cadarnach ar gyfer datganoli yng Nghymru i rym ar 1 Ebrill flwyddyn nesaf. Bydd y model ‘cadw pwerau’ newydd ar gyfer datganoli yng Nghymru yn nodi’n glir beth sydd wedi’i ddatganoli, sef yr hyn y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano, a beth sydd wedi’i gadw’n ôl - beth fydd y Senedd yn gyfrifol amdano. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o benderfyniadau yn mynd i ddwylo Gweinidogion Cymru ac yn rhoi adnoddau newydd pwysig iddynt eu defnyddio i ddatblygu economi Cymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell ledled Cymru.

Fel llais Llywodraeth y DU yng Nghymru, a llais Cymru yn San Steffan, bydd fy adran yn parhau i weithio’n agos gydag adrannau ar draws Whitehall i sicrhau bod cwmnïau a buddsoddwyr yn gweld Cymru fel partner masnachu uchelgeisiol sy’n edrych y tu hwnt i ffiniau’r wlad. Dyna’r neges a roddais i arweinwyr busnes ar fy nheithiau diweddar i Japan a Qatar, lle bûm yn siarad â nifer o fuddsoddwyr - buddsoddwyr presennol a darpar fuddsoddwyr - am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. A dyna’r neges ar gyfer 2018.

Ni fydd Llywodraeth y DU yn brin o egni, mentergarwch na brwdfrydedd wrth gyflawni dros Gymru. Yn 2018, byddwn yn parhau i reoli ein heconomi’n ofalus, adeiladu gwlad sy’n gweithio i bawb ac economi sy’n barod at y dyfodol.

Dyna sut y byddwn yn diogelu ac yn amddiffyn ein ffyniant ac yn ei wella.

Ar ran fy nghyd-weinidogion, dymunaf flwyddyn newydd dda, iach a llewyrchus i chi yn 2018.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 January 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.