Datganiad i'r wasg

Elusennau chwilio ac achub Cymru’n derbyn £230k gan Lywodraeth y DU

Alun Cairns: “Gwirfoddolwyr chwilio ac achub yw arwyr tawel Cymru"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyhoeddwyd heddiw (29 Ionawr) bod dwy elusen chwilio ac achub yng Nghymru wedi derbyn bron i £230,000 gan Lywodraeth y DU er mwyn gwella diogelwch ar draws dyfrffyrdd, arfordiroedd a mynyddoedd Cymru.

Mae Cymdeithas Achub Ardal Hafren yn Sir Fynwy wedi derbyn £221,046 a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yng Nghonwy wedi derbyn £6,000 i brynu offer achub cwbl fodern.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae ein helusennau chwilio ac achub yn dibynnu ar fyddin o wirfoddolwyr anhunanol sy’n rhoi eu hunain mewn perygl yn rheolaidd mewn tywydd eithafol er mwyn achub pobl eraill. Nhw yw arwyr tawel Cymru ac maen nhw’n haeddu pob cefnogaeth bosib.

Dyma pam rwyf wrth fy modd bod Cymdeithas Achub Ardal Hafren a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru wedi derbyn y cyllid yma i gydnabod y rôl amhrisiadwy maen nhw’n ei chwarae mewn cadw Cymru’n ddiogel.

Roedd y grantiau’n rhan o gronfa gwerth £750,000 i 20 o elusennau cychod achub ledled y DU. Bydd y cynllun yn darparu hyd at £1 miliwn y flwyddyn, eleni ac yn ystod y pedair blynedd nesaf, ar gyfer prosiectau sy’n darparu offer ar gyfer elusennau achub bywyd.

Cyhoeddwyd y cynllun fel rhan o Ddatganiad Cyllideb 2014 a bydd y grantiau ar gyfer 2014/15 yn cael eu dyfarnu cyn diwedd mis Mawrth 2015. Bydd ail rownd o’r cynllun grantiau’n dechrau yn ystod yr haf eleni.

Mae Cymdeithas Achub Ardal Hafren yn darparu gwasanaeth chwilio ac achub 24/7 yn Aber Afon Hafren. Dyma’r gwasanaeth cwch achub annibynnol mwyaf yn y DU, gyda 12 o gychod gweithredol ac oddeutu 170 o bersonél.

Mae Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn gofalu am ardal o ganolbarth i ogledd Cymru ac ar draws i Sir Caer, gan gynnwys Aberdyfi, Aberglaslyn, Llanberis, Gogledd Ddwyrain Cymru, Dyffryn Ogwen a De Eryri.

Cyhoeddwyd ar 29 January 2015