Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiannau derbynwyr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2021

Cydnabuwyd derbynwyr o bob rhan o Gymru.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi canmol pobl o Gymru sydd wedi derbyn gwobrau yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.

Mae’r rhestr yn cydnabod y gwaith a’r cyflawniadau ystod eang o bobl ryfeddol ledled y Deyrnas Unedig o bob cefndir.

Mae’r derbynwyr o Gymru yn 2021 yn cynnwys pobl sydd wedi gweithio ar reng flaen y pandemig Covid-19, enwau cyfarwydd o’r byd chwaraeon a gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser i helpu eraill.

Yn mynegi ei ddiolch o galon am eu “cyflawniadau ysbrydoledig” llongyfarchodd Mr Hart bawb a oedd yn derbyn gwobrau.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mewn blwyddyn eithriadol o heriol, mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn canmol cyflawniadau ysbrydoledig rhai o’r bobl wirioneddol ryfeddol.

Mae’r gwobrau yma yn dathlu’r bobl allweddol yn eu cymunedau ledled Cymru, gan roi’n ôl yn anhunanol i’r rhai o’u cwmpas drwy eu gwaith a’u bywydau personol.

Rwy’n falch iawn o weld llu o dderbynwyr o Gymru o bob cefndir yn cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i elusennau, chwaraeon, addysg ac – yn ystod pandemig byd-eang – gwaith anhygoel yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Hoffwn estyn fy niolchgarwch i bob person a anrhydeddwyd am eu hymdrechion. Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn anrhydedd.

Ymhlith y rhai yng Nghymru a dderbyniodd wobrau, oedd cyn-bêl-droediwr Dinas Abertawe a Chymru Alan Curtis a dderbyniodd MBE am ei wasanaethau i bêl-droed, Dr Tamas Szakmany, a enillodd MBE am ei wasanaethau i’r GIG yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19, y codwyr arian elusennol Brian Frederick Keylock a Lorna Keylock o Aberhonddu a dderbyniodd BEMs a’r Athro Laurence Alison o Ogledd Cymru a rhoddwyd MBE am wasanaethau i ymdrin â digwyddiadau critigol ac i’r GIG yn ystod y pandemig.

Darganfyddwch y rhestr llawn o Dderbynwyr Anrhydedd y Flwyddyn Newydd 2021 yma.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2020