Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru yn hwb aruthrol i’r economi: Ysgrifennydd Cymru’n cyhoeddi trydaneiddio rheilffyrdd Abertawe a’r Cymoedd

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan a’i chydweithwyr yn y Cabinet i gyhoeddi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer trydaneiddio…

Heddiw ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan a’i chydweithwyr yn y Cabinet i gyhoeddi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd o Gaerdydd i Abertawe ac yng Nghymoedd De Cymru.

Fel rhan o’i Datganiad Gweithredu Lefel Uchel (DGLU), sy’n datgan beth mae’r Llywodraeth eisiau ei gyflawni o rwydwaith y rheilffyrdd yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2019, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi y bydd sawl rheilffordd, gan gynnwys Glynebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg, yn ogystal a’r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn cael eu trydaneiddio.

Gan groesawu’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd:

“Bydd mwy na £350 miliwn yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru ac mae’n dod yn sgil y buddsoddiad o £1 biliwn mewn trydaneiddio Prif Lein Great Western o Lundain i Gaerdydd, a’r buddsoddiad o £500 miliwn yn y cyswllt gorllewinol i Heathrow.

“Bydd Cymru’n elwa’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o bron i £2 biliwn o raglen Llywodraeth y DU i foderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd, a dyma’r cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol mewn perthynas a seilwaith Cymru ers degawdau.”

Bydd y buddsoddiad hefyd yn cyllido cynlluniau llai a fydd yn gwella mynediad mewn gorsafoedd, y rhwydwaith cludo nwyddau ac amseroedd siwrneiau’r teithwyr. Hefyd mae trydaneiddio lein Abertawe a’r Cymoedd yn golygu y bydd dwy ran o dair o boblogaeth Cymru ar lwybr tren wedi’i drydaneiddio.

Bydd trydaneiddio’r rheilffyrdd hefyd yn gostwng y costau gweithredol tymor hir, yn arwain at fanteision amgylcheddol, siwrneiau cyflymach, mwy o seddau ac yn cefnogi adfywiad economaidd a thwf mewn swyddi yn Ne Cymru.

Daw’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn trafodaethau manwl rhwng yr Adran Drafnidiaeth, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.

Wrth ddathlu’r cyhoeddiad yng ngorsaf drenau Abertawe, dywedodd Mrs Gillan:

“Mae llywodraeth ar ol llywodraeth wedi methu buddsoddi’n sylweddol yn ein rheilffyrdd ni. Mae’r penderfyniad heddiw’n dynodi newid mawr. Rydw i wedi dweud dro ar ol tro bod yr achos dros drydaneiddio i Abertawe a’r Cymoedd yn fusnes anorffenedig, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn tanlinellu fy mhenderfyniad i i sicrhau bod system reilffordd fodern ac effeithlon yn bodoli yng Nghymru, yn addas i’r unfed ganrif ar hugain.

“Mae fy ffocws i’n mynd y tu hwnt i wledydd unigol. Bydd ein penderfyniad ni yr wythnos ddiwethaf i adeiladu’r estyniad i Heathrow yn cysylltu De Cymru am y tro cyntaf a phrif ganolfan awyr y DU a chyrchfannau rhyngwladol, ac yn sicrhau amseroedd teithio cyflymach fyth rhwng Llundain a Chaerdydd. Mae hwn yn arwydd mor glir a phosibl o’n hymrwymiad ni i fuddsoddi yn ein seilwaith trafnidiaeth, gan bontio’r bwlch rhwng rhannau o’r DU ac adeiladu ar ein agenda Twf.”

Bydd trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd, ynghyd a gwelliannau i Brif Lein Great Western, yn ehangu’r dalgylch posibl ar gyfer busnesau sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru.

Bydd nid yn unig yn darparu gwell mynediad i gyfleoedd gwaith a chanolfannau addysgol yng Nghaerdydd a thu hwnt i rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ond hefyd bydd yn gwneud y Cymoedd eu hunain yn fwy atyniadol ar gyfer buddsoddiad newydd drwy gyfuno system drafnidiaeth fodern, addas i bwrpas gyda gweithlu mawr sydd ar gael a gofod swyddfa am bris cystadleuol.

Ychwanegodd Mrs Gillan:

“Rydyn ni am weld teithwyr, buddsoddwyr a busnesau’n elwa o fanteision y buddsoddiad sylweddol hwn, nid yn unig yn ei rheilffyrdd ond yn ei gweithlu.

“Mae trydaneiddio yn y Cymoedd yn elfen fawr o greu marchnad lafur integredig yn Ne Cymru, ac ar draws economi ehangach Glannau Hafren o bosibl.

“Mae’n rhaid i ni greu’r amodau cywir fel bod busnesau Cymru’n gallu ffynnu ac mae’r buddsoddiad hwn yn cyfleu neges glir bod Cymru ar agor i fusnes. Mae’n tanlinellu’r cyfleoedd arwyddocaol a chadarnhaol ar gyfer datblygiad economaidd yng Nghymru yr wyf i wedi cyfeirio atyn nhw yn fy nhrafodaethau rheolaidd gyda’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

“Ar ddydd Gŵyl Dewi y llynedd cyhoeddwyd buddsoddiad o £1 biliwn gennym ni mewn trydaneiddio Prif Lein Great Western o Lundain i Gaerdydd ac rydw i’n gobeithio y bydd y buddsoddiad heddiw yn creu balchder a hyder newydd ymhlith pobl Cymru yn ei seilwaith.

“Bydd trydaneiddio’r rheilffordd i ail ddinas Cymru ac i Gymoedd De Cymru yn rhoi cyfle i bobl yr ardaloedd hyn gyflawni eu potensial drwy wella cysylltedd a marchnadoedd llafur a chynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi a buddsoddiad. Mae’n golygu y gall cymunedau’r cymoedd edrych ymlaen at ddyfodol disglair a ffyniannus.

“Mae gwell cysylltedd rheilffordd yn elfen hanfodol o greu economi lwyddiannus yng Nghymru a gallwn edrych ymlaen yn awr at system reilffordd fodern ac effeithlon yng Nghymru.”