Datganiad i'r wasg

Heddluoedd Cymru i recriwtio swyddogion newydd ymysg y 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol

Llywodraeth y DU yn cadarnhau targed recriwtio ar draws y pedwar llu heddlu yng Nghymru

  • Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Cartref ei gweledigaeth ar gyfer plismona yn ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol

  • Bydd pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn gallu recriwtio swyddogion heddlu ym mlwyddyn gyntaf y cynnydd na welwyd ei debyg

  • 6,000 o heddlu newydd yn rhan o’r targedau recriwtio uchelgeisiol i gadw ein strydoedd yn ddiogel, yn cynnwys 302 o swyddogion heddlu drwy’r pedwar llu yng Nghymru.

  • “Mae’r cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, p’un ai ydyn nhw’n byw yn y ddinas neu yn y wlad” - Ysgrifennydd Cartref

Heddiw cadarnhaodd y Swyddfa Gartref y targedau recriwtio heddlu ar gyfer blwyddyn gyntaf yr ymgyrch i gynyddu eu niferoedd o 20,000 yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mae cynyddu nifer yr heddlu’n flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, sy’n darparu £750 miliwn i helpu’r heddlu i recriwtio hyd at 6,000 o swyddogion heddlu ychwanegol erbyn diwedd 2020-21, sef y cam cyntaf yn yr ymgyrch newydd hon i gynyddu niferoedd heddlu. Mae hyn yn deillio o’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn yr Adolygiad Gwariant.

Bydd heddluoedd yng Nghymru’n gallu recriwtio cyfanswm o 302 o swyddogion heddlu newydd. Dyma’r niferoedd a fydd yn cael eu recriwtio yn y flwyddyn gyntaf:

  • Bydd Heddlu De Cymru’n gallu recriwtio 136 o swyddogion heddlu newydd sy’n gynnydd o 4.6%

  • Bydd Heddlu Gogledd Cymru’n gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd sy’n gynnydd o 4.3%

  • Bydd Heddlu Gwent yn gallu recriwtio 62 o swyddogion heddlu newydd sy’n gynnydd o 4.7%

  • Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gallu recriwtio 42 o swyddogion heddlu newydd sy’n gynnydd o 3.7%

Cyflwynodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei gweledigaeth ar gyfer plismona ddoe wrth gadeirio ail gyfarfod y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o blith swyddogion heddlu rheng flaen ac arweinwyr yr heddlu.

Meddai Priti Patel, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Mae’r cyhoedd yn dweud yn glir eu bod eisiau gweld mwy o swyddogion heddlu ar eu strydoedd, p’un ai ydyn nhw’n byw yn y ddinas neu yn y wlad.

Dyma flaenoriaeth y bobl a dyma’n union beth mae’r Llywodraeth yn ei ddarparu.

Mae’n golygu y bydd mwy na 300 o swyddogion heddlu ychwanegol drwy Gymru, gan helpu i leihau troseddau a chadw cymunedau’n ddiogel.

Meddai Kevin Foster, Gweinidog Cymru yn Llywodraeth y DU:

Bydd y pedwar llu yng Nghymru’n elwa ar yr adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw, gan eu galluogi i fynd i’r afael â throseddu’n fwy effeithiol a helpu i gadw pobl a chymunedau’n ddiogel.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir bod rhoi mwy o swyddogion heddlu ar ein strydoedd fel rhan o’n hymgyrch recriwtio mwyaf mewn degawdau yn flaenoriaeth i ni.

Bydd yr holl swyddogion heddlu a gaiff eu recriwtio fel rhan o’r 20,000 yn ychwanegol at y rhai a gyflogwyd i lenwi swyddi gwag presennol. Maent hefyd yn ychwanegol at y swyddogion heddlu ychwanegol sydd eisoes yn cael eu recriwtio oherwydd y cynnydd o £1 biliwn mewn cyllid i’r heddlu ar gyfer 2019-20, sy’n cynnwys arian o dreth y cyngor ac ar gyfer trais difrifol.

Bydd cyllid y Llywodraeth ar gyfer recriwtio yn 2020-21 yn cynnwys yr holl gostau cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant ac offer.

Ddoe clywodd y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yng Ngorffennaf i sbarduno’r ymgyrch recriwtio a materion plismona o bwys eraill, fod yr holl luoedd eisoes yn recriwtio a bod y wefan ar gyfer yr ymgyrch, ‘Be a Force For All’, wedi’i gweld fwy na 215,000 o weithiau.

Roedd Ffederasiwn yr Heddlu a Chymdeithas Arolygon yr Heddlu yn bresennol yn y bwrdd am y tro cyntaf, gan sicrhau ymrwymiad yr Ysgrifennydd Gwladol i swyddogion heddlu rheng flaen a’u huwch reolwyr gael eu cynrychioli.

Meddai John Apter, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn yr Heddlu:

Roedd y cyfarfod ddoe yn adeiladol, ac mae’n bwysig ein bod ni, fel y gymdeithas staff heddlu fwyaf, yn bresennol i sicrhau bod ein haelodau’n cael eu cynrychioli.

Mae’n hen bryd inni fuddsoddi mewn plismona ac am y tro cyntaf gwyddom y niferoedd gwirioneddol o swyddogion heddlu ychwanegol fydd gan bob llu yn y flwyddyn nesaf.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar y modelau fformwla ariannu bresennol ac er nad yw’r dull yma’n berffaith, rwy’n derbyn mai hwn yw’r unig ateb sydd ar gael i sicrhau’r niferoedd yn gyflym yn y flwyddyn gyntaf.

Bellach mae angen i ni sicrhau bod y fformwla’n cael ei hailystyried yn y blynyddoedd nesaf i sicrhau dyraniad tecach o swyddogion heddlu ar draws bob llu, ond mae’n sicr yn ddechrau cadarnhaol a bydd yn rhoi hwb angenrheidiol i fy aelodau a’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

Cyhoeddwyd targedau recriwtio heddiw’n dilyn sefydlu Cronfa Strydoedd Mwy Diogel gwerth £25 miliwn.

Gall Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd wneud cais am arian i atal byrgleriaeth a lladrata mewn mannau lle mae’r lefel uchaf o droseddu trwy gynlluniau a allai gynnwys ymyriadau i wella diogelwch cartrefi, fel gosod gwell cloeon a rhoi gatiau ar strydoedd cefn, a sicrhau bod strydoedd wedi’u goleuo’n well yn y nos, er enghraifft

Mae hefyd yn estyniad o’r cynllun treialu gan y Swyddfa Gartref i’w gwneud yn symlach i luoedd ddefnyddio pwerau stopio a chwilio trais difrifol Adran 60 a chyhoeddi pecyn gweithredu gwerth £20 miliwn i fynd i’r afael â gangiau cyffuriau sy’n gweithredu o amgylch y sir.

Hefyd cyhoeddodd y Swyddfa Gartref £10 miliwn o gyllid i gynyddu nifer y swyddogion heddlu sy’n cario gynnau Taser i’w cadw eu hunain a’r cyhoedd yn ddiogel a dywedodd y bydd cynlluniau ar gyfer cyfamod yr heddlu’n canolbwyntio ar ddiogelwch corfforol yr heddlu, eu hiechyd a’u llesiant a chefnogaeth ar gyfer eu teuluoedd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddwyd ar 9 October 2019