Datganiad i'r wasg

Mwy Na Haneru Costau Swyddfa Cymru Ar Gyfer Teithio Ar Drenau

Heddiw (dydd Gwener 15 Hydref) datgelodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, fod Swyddfa Cymru wedi mwy na haneru ei chostau ar gyfer teithio…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (dydd Gwener 15 Hydref) datgelodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, fod Swyddfa Cymru wedi mwy na haneru ei chostau ar gyfer teithio ar drenau yn ystod y chwe mis diwethaf.

Ar ol ei phenodi’n Ysgrifennydd Cymru ar 12 Mai, Mrs Gillan oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i wahardd ei hadran rhag teithio gyda thocynnau dosbarth cyntaf.   Ers hynny, mae holl staff a gweinidogion Swyddfa Cymru, gan gynnwys Mrs Gillan, wedi bod yn teithio gyda thocynnau dosbarth safonol.

Meddai Mrs Gillan: “Yn ystod y cyfnod allweddol hwn lle mae’n rhaid gwneud arbedion effeithlonrwydd ac mae pob un ohonom yn wynebu penderfyniadau anodd i alluogi’r DU i oresgyn y smonach ariannol a adawyd gan y Llywodraeth flaenorol, mae’n bwysig arwain drwy esiampl a gwneud popeth posibl i ddileu unrhyw gostau diangen i’r pwrs cyhoeddus.

“Felly rwy’n falch iawn ein bod, ers cyflwyno rheol teithio gyda thocynnau tren dosbarth safonol ar gyfer holl staff Swyddfa Cymru, y Gweinidog David Jones a minnau, wedi mwy na haneru costau Swyddfa Cymru ar gyfer teithio ar drenau o’u cymharu a’r llynedd.

“Yn ystod y chwe mis ers mis Ebrill, mae costau Swyddfa Cymru ar gyfer teithio ar drenau wedi lleihau dros 53 y cant, sydd £43,798 yn llai na’r un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn dangos yr arbedion sylweddol y gellir eu gwneud dim ond drwy wneud newidiadau bach i’n ffordd o weithio yn y llywodraeth.”

Nodyn

  • Cyfanswm costau Swyddfa Cymru ar gyfer teithio ar drenau rhwng Ebrill a Medi 2010:           £39,516
  • Cyfanswm costau Swyddfa Cymru ar gyfer teithio ar drenau rhwng Ebrill a Medi 2009:           £83,314
  • Cyfanswm yr arbedion:           £43,798
  • Mae Swyddfa Cymru yn gweithredu drwy ddwy swyddfa yng Nghaerdydd a Llundain, ac felly mae’n rhaid i’r staff deithio rhwng y ddwy ganolfan, a rhaid i’r Gweinidogion deithio rhwng Llundain a Chaerdydd a lleoliadau eraill yng Nghymru.
  • Cyn Mai 2010, roedd swyddogion ar lefel Uwch Swyddog Gweithredol neu uwch, neu’r rheini a oedd yn teithio gyda Gweinidogion, yn cael teithio gyda thocynnau tren dosbarth cyntaf.
Cyhoeddwyd ar 15 October 2010