Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn falch o glywed bod Uned Gynllunio Trac Cyflym Atebol Newydd yn cael ei chreu

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd system trac cyflym ddemocrataidd newydd yn cael ei chreu …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd system trac cyflym ddemocrataidd newydd yn cael ei chreu er mwyn gwneud penderfyniadau am brosiectau seilwaith mawr megis ffermydd gwynt ar y mor a gorsafoedd pŵer niwclear.

Mae Greg Clark, y Gweinidog Datganoli, wedi cadarnhau y bydd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith yn cael ei ddiddymu fel y nodwyd yng Nghytundeb y Glymblaid.

Bydd Uned Cynllunio Seilwaith Mawr yn cael ei sefydlu yn yr Arolygiaeth Gynllunio, ac yn sgil hynny, Gweinidogion, nid comisiynwyr nad ydynt wedi eu hethol, fydd yn penderfynu ar brosiectau seilwaith newydd.  Gyda’r system newydd, bydd modd defnyddio arbenigedd o Gymru i bwyso a mesur buddiannau sy’n benodol i Gymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a leolir yno, pan fydd hynny’n briodol ac yn rhesymol.   

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mr Jones:  “Bydd cyhoeddiad heddiw yn rhoi system atebol o wneud penderfyniadau ar waith ar gyfer prosiectau seilwaith mawr sy’n hanfodol ar gyfer twf ein heconomi yn y dyfodol.  Bydd yr hen system anatebol yn awr yn cael ei disodli gan system a fydd yn symlach ac yn fwy tryloyw, sy’n bendant yn newyddion da i gymunedau drwy’r DU gyfan, gan gynnwys Cymru.

“Y corff newydd hwn fydd yn penderfynu am ddyfodol Wylfa B er enghraifft, a bydd yr holl Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol a geir yn y dyfodol yn awr yn gorfod cael eu cadarnhau gan y Senedd. Mae hefyd yn gwbl briodol y bydd arbenigedd o Gymru’n cael lle yn y system newydd yng nghyd-destun prosiectau sy’n ymwneud a Chymru. Bydd y cam hwn i wella atebolrwydd yn hollbwysig wrth i ni fynd ati i adfywio economi’r DU dros y misoedd nesaf.”

Cyhoeddwyd ar 29 June 2010