Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld sut mae Blaenau Gwent yn gweithio tuag at Ddyfodol Mwy Disglair

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi cwrdd a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Blaenau Gwent i glywed sut maent yn adfywio’r ardal…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wedi cwrdd a chynrychiolwyr o Gyngor Sir Blaenau Gwent i glywed sut maent yn adfywio’r ardal leol ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y gweithle.

Aeth Mr Jones ar daith o amgylch y ganolfan hyfforddi yn y Ganolfan Adnoddau Busnes yn Nhredegar, gan gwrdd a rhai o’r bobl ifanc sy’n elwa ar y cynlluniau hyfforddi a ddarperir yno.  Ar ol y daith o amgylch y ganolfan, bu Mr Jones yn ymweld a’r hen safle gwaith dur yng Nglynebwy i weld sut mae’r ardal, drwy ymgynghori’n agos a’r gymuned leol, yn cael ei gweddnewid.

Meddai Mr Jones:  “Mae Blaenau Gwent wedi dioddef yn enbyd yn sgil cau’r hen safle gwaith dur, ond rwyf wedi cael fy mhlesio’n arw gan angerdd ac uchelgais y Cyngor i adfywio’r ardal leol ac i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gamu ymlaen mewn bywyd.  Drwy weithio gyda busnesau, maent wedi gallu cynnig hyfforddiant pwrpasol sy’n diwallu anghenion y cyflogwyr yn ogystal a rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y gweithle.

“Bydd y buddsoddiad yn yr hen safle gwaith dur yn sicrhau dyfodol mwy disglair i’r ardal, ac mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr haf eisoes wedi rhoi hwb aruthrol i’r safle.  Roeddwn yn falch o glywed sut bu’r gymuned leol yn chwarae rhan allweddol, wrth weithio o fore gwyn tan nos i wneud yn siŵr bod y safle’n barod ar gyfer yr Eisteddfod.   

“Mae’r datblygwyr sy’n gweithio ar y safle yn amlwg wedi sylweddoli pwysigrwydd cael cefnogaeth y gymuned leol, ac rydym eisoes yn gweld hyn wrth i amryw o brosiectau, megis yr ardal dysgu yn yr awyr agored, gael eu datblygu gyda chyfraniad pobl leol. 

“Mae’r prosiectau rwyf wedi’u gweld yn enghreifftiau gwych o’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei annog drwy’r cynllun Y Gymdeithas Fawr - pobl leol yn cymryd camau i roi hwb i’w cymunedau lleol.  Byddaf yn son wrth fy nghydweithwyr yn Whitehall am y gwaith gwych a wneir ym Mlaenau Gwent.”

Cyhoeddwyd ar 17 September 2010