Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn canmol ysbryd cymunedol llewyrchus mewn Menter Gymdeithasol yng Ngogledd Cymru.

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol Menter Gymdeithasol yng Ngogledd Cymru am ymgorffori’r math o ysbryd cymunedol sydd wrth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi canmol Menter Gymdeithasol yng Ngogledd Cymru am ymgorffori’r math o ysbryd cymunedol sydd wrth galon gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymdeithas Fawr.

Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, bod Crest Co-operative yn enghraifft go iawn o bŵer y trydydd sector yn newid bywydau pobl er gwell. Mae’r prosiect, sydd wedi’i leoli yng Nghyffordd Llandudno, ond sydd ar waith ledled Gogledd Cymru, yn trefnu cynllun rhannu bwyd sydd wedi’i anelu at helpu pobl ddigartref ac agored i niwed a chreu cyfleoedd lleoliad gwaith ar gyfer oedolion sydd ag anawsterau dysgu.

Mae’r prosiect hefyd yn rhedeg siop gymunedol a chynllun casglu ar ochr y ffordd, sy’n rhoi budd i dros 30,000 o bobl yn ardal Conwy. Bu’r Gweinidog ar daith o amgylch warws ‘FareShare’ Crest ddydd Gwener diwethaf, lle cafodd gwrdd ag oedolion a chanddynt anableddau dysgu a oedd yn cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith a chefnogaeth. Bu’n ymweld a’r siop gymunedol hefyd.

Mr. Meddai Mr Jones: “Rwy’n falch bod prosiectau fel Crest Co-operative yn cyfrannu’n fawr at eu cymunedau cyfagos, ac yn chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o’u hadfywio. Mae Crest Co-operative yn chwarae rhan anferth o ran helpu pobl agored i niwed a newid bywydau ac mae’n gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy iawn hefyd - o gyfeirio bwyd o safleoedd tirlenwi, i ailgylchu tecstilau.

“Dyma’r math o weledigaeth flaengar y mae’r Llywodraeth am ei gweld - pobl yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn arwain y ffordd er mwyn gwella eu cymunedau.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae Cymdeithas Fawr yn ymwneud ag ysgwyddo cyfrifoldeb dros y pethau pwysig a gweithredu. Os ydym am wneud adferiad cymdeithasol yn realiti, y gymuned ddylai fod a’r pŵer i benderfynu, nid gwleidyddion a biwrocratiaid.”  

Nodiadau

Gallwch weld gwefan Crest Co-operative yn www.crestcooperative.co.uk

Cyhoeddwyd ar 14 February 2011