Datganiad i'r wasg

Swyddfa Cymru’n cynnal cynhadledd weinidogaethol i baratoi’r ffordd ar gyfer band eang cyflym iawn ledled Cymru

Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio a Chynulliad Cymru er mwyn cyflwyno addewid y Strategaeth Band Eang Cenedlaethol y bydd pobl ledled Cymru’…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio a Chynulliad Cymru er mwyn cyflwyno addewid y Strategaeth Band Eang Cenedlaethol y bydd pobl ledled Cymru’n gallu defnyddio band eang cyflym iawn erbyn 2015, meddai Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, heddiw.

Cynhaliodd Mrs Gillan a David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y gynhadledd band eang gyntaf o’i bath gyda Gweinidog Band Eang y DU, Ed Vaizey, Dirprwy Brif Weinidog Cynulliad Cymru, Ieuan Wyn Jones a’r Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, Lesley Griffiths. 

Roedd y cyfarfod yn dilyn cyhoeddi’r Strategaeth Band Eang Cenedlaethol ddoe, gyda chefnogaeth gan gyllid o £830 miliwn er mwyn sicrhau bod Cymru a gweddill y DU yn cael y rhwydwaith mynediad band eang gorau yn Ewrop a ‘chanolfan ddigidol’ ym mhob cymuned erbyn diwedd oes y Senedd hon.

Yn dilyn y cyfarfod, meddai Mrs Gillan: “Bydd y cynnydd da rydym wedi’i wneud heddiw, ynghyd a’r cydweithio effeithiol rhwng swyddogion San Steffan a Chaerdydd mewn perthynas a strategaeth y band eang cyflym iawn, yn helpu i sicrhau bod Cymru’n elwa’n llawn o’n hymroddiad i gael y rhwydwaith band eang gorau yn Ewrop a hefyd yn galluogi i Gynulliad Cymru fwrw ei waith arloesol ei hun yn y maes hwn yn ei flaen.

“Mae rhwydwaith band eang cyflym iawn a chryf yn allweddol i dwf economaidd y wlad ac i ddatblygiad ein diwydiannau creadigol. Rydym am weld Cymru a gweddill y DU yn cael y system band eang orau yn Ewrop erbyn 2015 a bydd y strategaeth, a gefnogir gan fuddsoddiad o £830m, o gymorth i ni gyflawni ein gweledigaeth.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Y camau nesaf fydd i Gynulliad Cymru a swyddogion Broadband Delivery UK gyfarfod a thrafod yr agweddau amrywiol ar y cynlluniau peilot posibl er mwyn sicrhau bod gan Gymru gais cryf ar gyfer y rownd nesaf o gynlluniau band eang peilot yn 2011.

“Yn y cyfamser, bydd Swyddfa Cymru’n parhau i gynnig pob cymorth posibl a byddaf yn cynnal cyfarfod pellach o’r gweinidogion fis Chwefror, er mwyn trafod cynnydd ac i sicrhau bod y mater pwysig hwn yn aros ar frig yr agenda.”

Nodiadau

Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi £830 miliwn erbyn 2017, gan fuddsoddi £530 miliwn ohono erbyn 2015.

Mae copi o’r strategaeth ar gael yn:  http://www.bis.gov.uk/policies/business-sectors/telecommunications/broadband

Cyhoeddwyd ar 7 December 2010