Gweinidogion Cymru yn dathlu 50 mlynedd o Ferched y Wawr
Aelodau o’r mudiad merched Cymraeg i fynychu derbyniad yn Nhŷ Gwydyr
Bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwahodd aelodau o Ferched y Wawr i ddigwyddiad yn Llundain heddiw (22 Tachwedd) i ddathlu 50 mlynedd o’r mudiad i ferched.
Bydd aelodau yn ymuno ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns a Guto Bebb mewn derbyniad diodydd yn Nhŷ Gwydyr, ble bydd cyflawniadau’r mudiad cymdeithasol iaith Gymraeg yn cael ei ddathlu.
Mae gan Ferched y Wawr dros 270 o ganghennau a chlybiau ledled Cymru, yn rhoi cyfle i fenywod o bob oedran i ddod at ei gilydd a chymdeithasu yn y Gymraeg, gyda chroeso i ddysgwyr hefyd.
Ffurfiwyd y mudiad ym 1967 gan ferched o ardal y Parc, Bala, fel mudiad Cymraeg eu hiaith i ferched, ac fe dyfodd yn un cenedlaethol yn gyfym iawn.
Eleni, aeth Merched y Wawr ar daith genedlaethol i ddathlu pum degawd o achlysuron cymdeithasol – yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Pierhead a lleoliadau eraill ar draws y wlad.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Merched y Wawr yn golofn diwylliant a chymdeithas Cymru ac yn croesawu menywod o bob ardal o’r wlad i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth nodi 50fed pen-blwydd y mudiad, yr wyf yn falch iawn o gael y cyfle i wahodd aelodau i Dŷ Gwydyr heddiw, ac i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad yr aelodau sy’n gwirfoddoli yn ddiflino i sicrhau llwyddiant y mudiad.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod yr iaith Gymraeg a’n diwylliant yn parhau i ffynnu, ac mae cyfraniad Merched y Wawr i’r ymdrech honno yn amhrisiadwy. Estynnaf fy llongyfarchiadau gwresog iddynt wrth gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Pob lwc ar gyfer y 50 mlynedd nesaf.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru:
Mae canghenau Merched y Wawr yn chwarae rôl hollbwysig o ran creu cymdeithasau bywiog mewn cymunedau ar draws Cymru, gan ‘rymuso marched a meithrin talent.
Mae heddiw yn gyfle i ddiolch i aelodau’r sefydliad am eu gwaith caled dros y 50 mlynedd diwethaf, yn enwedig am eu cyfraniad i’r iaith Gymraeg a hawliau menywod. Gobeithiaf y byddwn yn gweld mwy o’r gwaith gwych yma yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr:
Mae yn fraint aruthrol i gael bod yma yn cynrychioli Merched y Wawr, mae cymaint wedi cael eu gyflawni dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Rydym yn dal i gynnal dros 3,000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau yng Nghymru yn flynydddol. Eleni rydym wedi cynnal prosiect treftadaeth sydd wedi llwyddo i gasglu gymaint o atgofion ac wedi creu brwdfrydedd o’r newydd.
Diolchwn am y cyfle i gael dod i Dŷ Gwydyr i ddathlu ein penblwydd arbennig - profiad yr ydym yn gwerthfawrogi yn fawr.
DIWEDD