Datganiad i'r wasg

Tîm Gweinidogol Cymru yn ymuno â disgyblion Ysgol Pen-Y-Bryn yn Stryd Downing

Heddiw, ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, a disgyblion o Ysgol Pen-Y-Bryn ym…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cheryl Gillan a David Jones gyda disgyblion Ysgol Pen-Y-Bryn yn Stryd DowningHeddiw, ymunodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, a disgyblion o Ysgol Pen-Y-Bryn ym Mae Colwyn yn Stryd Downing.

Roedd y disgyblion yno i gyflwyno sgarff y maent wedi’i wneud er mwyn tynnu sylw at yr ymgyrch 1Nod - ymgyrch i  sicrhau bod holl blant y byd yn cael addysg.Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Ne Affrica a sbardunodd ddisgyblion yr ysgol i fynd ati i greu’r sgarff cefnogwyr 20 metr o hyd, gyda’r bwriad o’i gyflwyno  yn Rhif 10 cyn y trafodaethau y bydd y Prif Weinidog yn eu cael fis Medi ynghylch Nod Datblygu’r Mileniwm, sef y dylai pob plentyn gyflawni addysg o safon erbyn 2015.

Meddai Mrs Gillan: “Roedd yn bleser gennyf fynd i Stryd Downing gyda disgyblion Ysgol Pen-Y-Bryn er mwyn cyflwyno’r sgarff fendigedig. Mae’r ysgol gyfan wedi ymroi i dynnu sylw at yr ymgyrch hollbwysig hon, a dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.

“Mae addysg yn agor y drws at fyd o gyfleoedd a thrwy’r ymgyrch hon, mae’r bobl ifanc hyn wedi dysgu gwers werthfawr, sef bod llawer iawn o blant drwy’r byd i gyd yn llai ffodus na nhw, ac nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd. Rwy’n siŵr y bydd ganddynt atgofion melys o’u diwrnod yn Whitehall.”

Ar ol ymweld a Stryd Downing, dychwelodd y disgyblion i Dŷ Gwydyr i weld swyddfa’r Gweinidog, cyn mynd ymlaen i’r Senedd.

Dywedodd Mr Jones: “Mae disgyblion Ysgol Pen-Y-Bryn wedi bod yn gweithio’n galed i godi proffil yr ymgyrch werth chweil hon. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i’w gwahodd i Swyddfa Cymru yn Llundain, a pham yr oedd arnaf eisiau ymuno a nhw pan roedden nhw’n cyflwyno’r sgarff yn Stryd Downing. Rwy’n siŵr eu bod wedi mwynhau eu diwrnod ac y byddant yn mynd yn ol i Ogledd Cymru gyda llu o atgofion i’w rhannu gyda disgyblion eraill yr ysgol.”

Dywedodd Mrs Tabitha Sawyer, un o athrawon Ysgol Pen-Y-Bryn:  “Mae Ysgol Pen-Y-Bryn yn hynod o falch o’u disgyblion am feddwl am broblemau byd-eang ac am wneud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth ohonynt yn lleol. Maent hefyd yn ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Gweinidog am drefnu hyn er mwyn galluogi’r plant i gyfleu eu neges wrth un o arweinwyr y byd.”

Nodiadau** **

Mae’r Ymgyrch Fyd-eang dros Addysg wedi ymuno a chwaraewyr pel-droed enwog i lansio 1Nod, er mwyn sicrhau un peth arbennig ar ol i Bencampwriaeth Cwpan y Byd yn Ne Affrica ddod i ben, sef addysg i bob plentyn.

Yn y flwyddyn 2000, pan gytunwyd ar Nodau Datblygu’r Mileniwm, addawodd arweinwyr y byd y byddai pob plentyn yn cwblhau addysg o safon erbyn 2015. Gyda dim ond pum mlynedd ar ol tan hynny, mae 72 miliwn o blant nad ydynt yn gallu cael addysg gynradd, gyda miliynau ar filiynau ar ben hynny yn gorfod gadael ysgol cyn gorffen eu haddysg. 

Ym mis Medi eleni, cynhelir Uwchgynhadledd yn Efrog Newydd i adolygu Nodau Datblygu’r Mileniwm, gan gynnwys y targed ar gyfer sicrhau addysg gynradd drwy’r byd i gyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch yn:
http://www.join1goal.org/

Cyhoeddwyd ar 8 July 2010