Annog Awdurdodau Lleol Cymru i fachu cyfran o’r gronfa £6 miliwn i ariannu datrysiadau ynni arloesol
Annog Awdurdodau Lleol Cymru i gyflwyno cynigion arloesol i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau gwres newydd.
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS, yn galw ar Awdurdodau Lleol Cymru i fanteisio i’r eithaf ar raglen grant newydd, werth £6 miliwn, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau gwresogi ac oeri newydd.
Mae’r rhaglen yn cael ei lansio gan y Gweinidog Ynni a Newid yn yr Hinsawdd, Greg Barker, heddiw a gofynnir i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gyflwyno cynigion uchelgeisiol ac arloesol i ddatblygu a chyflenwi rhwydweithiau gwresogi sy’n defnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy, cynaliadwy neu adferadwy.
Gallai hyn gynnwys unrhyw system lle mae gwres yn cael ei gynhyrchu oddi ar y safle gan ffynonellau adnewyddadwy neu adferol megis gwres gwastraff o ddiwydiant, ynni o orsafoedd gwastraff a gwres a phŵer cyfun biomas. Mae sawl campws prifysgol, datblygiadau masnachol a phreswyl cymysg newydd a fflatiau uchel yn defnyddio’r systemau hyn i gynhyrchu gwres.
Dywed Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, AS:
Mae’n rhaid harneisio i’r eithaf yr holl adnoddau sydd gennym at ein defnydd, a gwneud hyn yn rhan anhepgor o’n diogelwch ynni i’r dyfodol, wrth i ni anelu at leihau ein dibyniaeth ar y ffynonellau ynni mwy traddodiadol.
Mae angen i ni asesu yn gyson sut rydyn ni’n defnyddio ynni, sut rydyn ni’n meddwl am ynni ac o ble y cawn ein hynni. O’r herwydd, byddwn yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i fanteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu rhwydweithiau carbon isel sy’n fwy masnachol hyfyw.
Dim ond trwy wneud hyn y gallwn fynd yr ail filltir honno i helpu Cymru i hawlio ei lle ar flaen y trawsnewid i economi carbon isel.
Mae’r broses bidio i wneud cais am gyllid grant yn dechrau heddiw (20 Medi 2013), a bydd yn parhau am 18 mis drwy gyfres o chwe rownd bidio.
Nodiadau i Olygyddion:
*I gael mwy o wybodaeth am y gronfa, cysylltwch â swyddfa’r wasg yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd ar 0300 068 5570 neu ymwelwch â https://www.gov.uk/government/policies/increasing-the-use-of-low-carbon-technologies/supporting-pages/heat-networks
*Rheolir y gronfa gan yr Uned Cyflenwi Rhwydweithiau Gwres yn yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. Datblygwyd yr Uned i helpu Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr i gyflawni dadgarboneiddio trefol, twf lleol, gwell effeithlonrwydd ynni a llai o dlodi tanwydd drwy gynyddu’r defnydd o rwydweithiau gwres.
*Asesir y bidiau yn erbyn meini prawf tryloyw a chadarn. Mae’r rhain yn cynnwys eu potensial ar gyfer datblygu masnachol, cyfraniad tuag at amcanion carbon isel a lleihau ynni, cydnawsedd ag agendau carbon isel a thwf ehangach (lle bo hynny’n berthnasol) ac ymrwymiad amlwg i reolaeth a llywodraeth gadarn dros y prosiect.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 September 2013 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
First published.