Stori newyddion

Cronfa fuddsoddi gwerth £40biliwn ar gael i prosiectau seilwaith

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog cwmniau yng Nghymru i helpu i roi hwb i economi Cymru ac i hawlio’u siar o £40bn o gyllid…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn annog cwmniau yng Nghymru i helpu i roi hwb i economi Cymru ac i hawlio’u siar o £40bn o gyllid sydd wedi’i sicrhau ar gyfer prosiectau seilwaith.

O dan Gynllun Gwarantu y DU a lansiwyd gan y Canghellor George Osborne ym mis Gorffennaf eleni, bydd hyd at £40bn o gyllid yn cael ei warantu ar gyfer prosiectau seilwaith sydd wedi’u gohirio yn dilyn anawsterau wrth geisio codi arian gan fuddsoddwyr preifat.Mae’r Bil Seilwaith (Cymorth Ariannol) a gyhoeddwyd heddiw yn caniatau’r Llywodraeth i warantu prosiectau seilwaith mawr sy’n ein chael yn anodd cael arian mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth, cyfleustodau, ynni, cyfathrebu, ac addysg. Bydd rhaid i brosiectau cymwys gyrraedd meini prawf gan gynnwys gallu cychwyn gwaith o fewn 12 mis, a phrofi y bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar dwf economaidd, yn ogystal a darparu gwerth da i drethdalwyr.

Bydd y Llywodraeth yn ystyried y math mwyaf effeithiol o warantu ar sail achos-wrth-achos, gan ddefnyddio proses asesu a chymeradwyo gadarn.

Ac yntau wedi datgan ei fwriad i wneud popeth o fewn ei allu i geisio adfer cydbwysedd economi Cymru, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i gymryd mantais o’r arian sydd ar gael a helpu i adnewyddu prosiectau seilwaith Cymru a’r cyfalaf sydd ei angen arnynt i dyfu.
Dywedodd Mr Jones: 

“Mae Cynllun Gwarantu y DU yn dystiolaeth bellach o pa mor bwysig ydi datblygu seilwaith i agenda twf y Llywodraeth hon.  ”Yn ystod fy amser yn Swyddfa Cymru, rydw i wedi clywed pa mor anodd y  mae wedi bod i gwmniau gychwyn eu prosiectau. Bydd Cynllun Gwarantu y DU yn eu helpu i gael cyllid a chychwyn eu prosiectau. ”Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yr amgylchedd economaidd yn addas ar gyfer busnes, ac i wneud Cymru yn gyrchfan fuddsoddi deniadol sy’n creu swyddi a thwf y sector preifat. Mae Cynllun Gwarantu y DU yn gyfle i gryfhau ein hasedau economaidd yng Nghymru. Gallai gyflymu buddsoddiad mawr mewn seilwaith yn sylweddol ac rwy’n annog cwmniau yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu siar o’r gronfa fuddsoddi sylweddol hon.”

 NODIADAU I OLYGYDDION 

  1. Lansiodd y Llywodraeth Gynllun Gwarantu y Du ar 18 Gorffennaf 2012 er mwyn cyflymu buddsoddiad mawr mewn seilwaith yn sylweddol ac i ddarparu cefnogaeth i allforwyr y DU http://www.hm-treasury.gov.uk/press_62_12.htm

  2. Mae’r Bil Seilwaith yn awdurdodi Trysorlys ei Mawrydi neu Ysgrifennydd Gwladol (gyda chaniatad Trysorlys ei Mawrhydi) i achosi gwariant mewn perthynas a darparu gwarantau a mathau eraill o gymorth ariannol addas. Mae angen awdurdod statudol ar gyfer y math hwn o wariant yn unol a Choncordat 1932 rhwng y Llywodraeth a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

  3. Mae Cynllun Gwarantu y DU yn ffurfio rhan o’r gwaith o wneud defnydd llawn o fantolen y Llywodraeth, a gyhoeddodd y Prif Weinidog yn ystod ei araith i Sefydliad y Cyfarwyddwyr ym Manceinion ar 17 Mai 2012. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: http://www.number10.gov.uk/news/pm-economy-speech/.

Gosododd Cynllun Seilwaith Cenedlaethol 2011 strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni gofynion seilwaith economi’r DU, gan gynnwys nodi cynllun clir ar gyfer 500 o brosiectau seilwaith (http://www.hmtreasury.gov.uk/national_infrastructure_plan2011.htm).  Bydd gwerth hyd at £40bn o brosiectau sydd wedi eu nodi yn y cynllun yn gymwys i wneud cais.

  1. Mae rhagor o wybodaeth am warantau tai i’w chael yma: http://www.communities.gov.uk/housing/about/rentedhousing
Cyhoeddwyd ar 6 September 2012