Press release

Welsh guide to legislation

Canllaw i ddeddfwriaeth Yr enw ffurfiol ar ddeddf yw Deddf Seneddol. Cyn y daw unrhyw un o bolisiau'r llywodraeth yn ddeddf, rhaid iddo'n gyntaf gael ei osod allan ar ffurf Mesur, neu Ddeddf ar ffurf ddrafft. Bydd ASau ac aelodau o Dy'r Arglwyddi yn trafod y Mesur ac yn awgrymu newidiadau yn y [...]

This was published under the 2005 to 2010 Labour government

Canllaw i ddeddfwriaeth

Yr enw ffurfiol ar ddeddf yw Deddf Seneddol. Cyn y daw unrhyw un o bolisiau’r llywodraeth yn ddeddf, rhaid iddo’n gyntaf gael ei osod allan ar ffurf Mesur, neu Ddeddf ar ffurf ddrafft. Bydd ASau ac aelodau o Dy’r Arglwyddi yn trafod y Mesur ac yn awgrymu newidiadau yn y Senedd cyn i Fesur ddod yn gyfraith. Mae’n rhaid i Fesur fynd trwy sawl gwahanol gam yn y Senedd cyn y caiff dderbyn Cydsyniad y Frenhines a dod yn gyfraith. Mae modd cyflwyno Mesurau yn Nhy’r Cyffredin neu yn Nhy’r Arglwyddi.

Y broses

Gall gwneud cyfraith fod yn broses hir a chymhleth. Os oes angen ymgynghori a phobl a chyrff ynglyn a’r syniad, rhaid gwneud hynny yn y ffordd gywir; rhaid i’r Mesur gael ei lunio mewn ffordd sy’n dderbyniol i’r Senedd; ac yna rhaid ei drafod yn drylwyr.

Bydd pleidleisio ar wahanol rannau (neu gymalau) o’r Mesur ac wedyn gwneir newidiadau; mae’n bosibl y bydd rhagor o drafod a chyd-drafod rhwng Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi cyn y caiff y Mesur ei gytuno a’i anfon ymlaen i dderbyn Cydsyniad y Frenhines.

Gall deddfwriaeth sylfaenol gymryd cyfnod rhwng ychydig fisoedd a llawer blwyddyn i ddod yn gyfraith, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw, a’r gwrthwynebiad i Fesurau yn y Senedd.

Y syniad cychwynnol

Gall y syniad, neu ysbrydoliaeth, am ddeddfwriaeth benodol godi o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol (a hynny’n rhan o’u maniffesto etholiadol, yn aml) ac adrannau’r llywodraeth, grwpiau a diddordebau penodol a chyrff ymchwil, cymdeithasau masnach neu gymdeithasau defnyddwyr neu gyrff arbenigol. Weithiau bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno er mwyn gwneud cytundeb rhyngwladol neu Gyfarwyddeb gan yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig.

Bydd Adrannau’r llywodraeth hefyd yn meddwl ymlaen trwy gomisiynu ymchwil, edrych ar y ffordd y bydd gwledydd eraill yn mynd i’r afael a phroblemau tebyg, a chynnal trafodaethau gyda chyrff perthnasol yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol.

Y Cabinet sy’n penderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer pob sesiwn ddeddfwriaethol. Bydd sesiwn yn para tua blwyddyn, gan gychwyn tua mis Tachwedd fel arfer. Lle ar gyfer nifer gyfyngedig yn unig o Fesurau pwysig sydd ar amserlen y Senedd ym mhob sesiwn, rhyw 15-20 fel arfer.

Mae’n rhaid i’r Cabinet gydbwyso ymrwymiadau a wnaed mewn maniffestos, gofynion adrannau unigol y llywodraeth a blaenoriaethau eraill. Wedi cymryd y penderfyniad i fwrw ymlaen gyda chynnig penodol, gall y cam nesaf, sef llunio’r Mesur, gychwyn.

Llunio’r Mesur

Gweinidogion a’u gweision sifil sy’n gyfrifol am gynnwys Mesurau. Gweinidogion sy’n pennu rhychwant cyffredinol unrhyw Fesur; gweision sifil sy’n gyfrifol am drefnu’r manylion. Cyfreithwyr y Llywodraeth, neu Gwnselwyr Seneddol, sy’n drafftio’r Mesur. Mae’n rhaid iddynt wneud hynny mor fanwl ac mor eglur a phosibl fel bod pawb yn deall yr ystyr ac fel na fydd y Mesur yn cynnwys unrhyw fannau gwan.

Cyn cychwyn drafftio Mesur, bydd y llywodraeth yn aml yn trefnu cyfnod o ymgynghori ffurfiol. Cyhoeddir naill ai ‘Papur Gwyrdd’ neu ‘Bapur Gwyn’, ac mae modd i’r cyhoedd yn gyffredinol a chyrff sydd a diddordeb gyflwyno eu sylwadau a’u hawgrymiadau. Mae Papur Gwyn yn ddatganiad o fwriadau deddfwriaethol gweddol bendant. Mae Papur Gwyrdd (neu ddogfen ymgynghorol) yn fwy ymchwiliol, ac yn aml caiff un o’r rhain ei gyhoeddi os nad yw’r llywodraeth wedi penderfynu pa gamau i’w cymryd. Weithiau bydd Papur Gwyn yn dilyn Papur Gwyrdd ac efallai y trafodir y ddau Bapur yn y Senedd cyn i’r llywodraeth symud ymlaen i greu deddfwriaeth.

Nid mewn gwagle y caiff Mesur ei lunio. Bydd Gweinidogion a gweision sifil yn gwneud llawer o waith ymgynghorol anffurfiol i sicrhau ei fod yn cynnwys pob dim ac yn gweithio yn ymarferol. Bydd y bobl a’r cyrff y byddant yn ymgynghori a hwy yn amrywio yn ol pwnc y Mesur. Fel arfer byddant yn cynnwys arbenigwyr, cyrff masnachu, undebau, ASau a gwleidyddion eraill, y Trysorlys ac adrannau eraill y llywodraeth ac asiantaethau rhyngwladol.

Gall Mesur dadleuol fynd i’r Cabinet neu i un o’i Bwyllgorau, i’w drafod ymhellach. Caiff Mesurau eu cyhoeddi fwyfwy ar ffurf ddrafft i ganiatau rhagor o amser ar gyfer craffu cyhoeddus ac ymgynghori.

Ar ol i’r Mesur gael ei ddrafftio, ei gytuno gan Weinidogion, ac i’r gwaith ymgynghorol ddod i ben, mae’n barod i gael ei gyflwyno i’r Senedd ar gyfer ei ddarlleniad cyntaf.

Y Darlleniad cyntaf

Wedi’r holl waith paratoadol nid ‘drafft cyntaf’ yw’r Mesur sy’n cael ei gyflwyno i’r Senedd ar gyfer ei ddarlleniad cyntaf. Mae’n fersiwn goeth, y fersiwn y mae’r llywodraeth am weld y Senedd yn ei derbyn. Dyma pam, mewn sawl achos, cymharol ychydig o newidiadau polisi a wneir yn ganlyniad i’r trafodaethau yn y Senedd.

Mae modd cyflwyno mesurau’r Llywodraeth naill ai yn Nhy’r Cyffredin neu yn Nhy’r Arglwyddi. Bydd y rhan fwyaf o Fesurau dadleuol, a’r holl Fesurau sy’n ymwneud a chyllid, yn cychwyn ar eu taith yn Nhy’r Cyffredin. Mae’r disgrifiad hwn o’r weithdrefn ddeddfwriaethol yn cymryd mai yn Nhy’r Cyffredin y cafodd y Mesur ei gyflwyno.

Gelwir y broses o gyflwyno Mesur i’r Senedd yn ddarlleniad cyntaf. Cyflwyniad cwbl ffurfiol yw hwn, heb unrhyw drafodaeth, ac yna caiff y Mesur ei argraffu. Mae wedyn yn barod i gael ei ail ddarlleniad.

Ail ddarlleniad

Mae’r drafodaeth ar yr ail ddarlleniad yn un gyffredinol ac eang sy’n son am egwyddorion a rhychwant y Mesur. Fel arfer bydd y drafodaeth yn para am ddiwrnod cyfan - rhyw chwe awr i bob pwrpas - er y bydd ASau weithiau yn trafod mesurau cymhleth a dadleuol am ddau neu dri diwrnod.

Gweinidogion a’u cymheiriaid yn yr Wrthblaid sy’n traddodi’r areithiau sy’n agor ac yn cloi’r drafodaeth. Mae gweddill y drafodaeth yn cynnwys areithiau gan ASau cyffredin o’r naill ochr a’r llall i’r Ty. Bydd ASau sydd a diddordeb arbennig yn y pwnc yn cyfrannu, ac felly hefyd ASau y mae’r Mesur yn effeithio ar eu hetholaethau.

Os yw’r Mesur yn un dadleuol mewn unrhyw ffordd, bydd y drafodaeth yn gorffen gydag Ymraniad, neu bleidlais. Anaml iawn y caiff Mesur Llywodraethol ei drechu ar yr ail ddarlleniad. Gan fod y Mesur yn adlewyrchu polisi’r llywodraeth, gellir dibynnu bron yn ddieithriad ar ASau’r llywodraeth i’w gefnogi.

Rhaid i’r Mesur wedyn fynd ymlaen at y cam pwyllgor.

Y cam pwyllgor

Archwiliad manwl, cymal-wrth-gymal o gynnwys y Mesur yw’r cam pwyllgor. Fel arfer caiff hyn ei wneud gan bwyllgor sefydlog, a benodwyd yn arbennig, o rhwng 18 a 25 AS a ddewiswyd yn unol a chryfderau’r gwahanol bleidiau yn Nhy’r Cyffredin. Bydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Mesur a’r aelodau sy’n cyfateb iddo ef neu hi o blith y gwrthbleidiau bob amser yn aelodau, ac weithiau gweinidogion iau hefyd. Mae yna ddau Chwip (ASau sy’n sicrhau bod eu cyd-aelodau yn pleidleisio gydag arweinyddiaeth y blaid), un yr un o blith pleidiau’r llywodraeth a’r wrthblaid. Aelodau mainc-gefn o’r naill ochr a’r llall i’r Ty yw gweddill yr aelodau, ac yn aml mae ganddynt arbenigedd neu ddiddordeb arbennig yn y pwnc sydd dan sylw.

Gall y cam hwn bara rhwng un cyfarfod a sawl mis. Ar Fesur Llywodraethol pwysig bydd y pwyllgor sefydlog yn cyfarfod o leiaf deg neu ddeuddeg tro dros gyfnod o ryw chwe wythnos. Bydd aelod hyn o’r meinciau cefn - nid un o’r blaid sy’n rheoli o angenrheidrwydd - yn cadeirio’r pwyllgor ac yn gwbl ddiduedd yn ystod y trafodaethau. Os yw Mesur yn un hir, yn aml penodir dau aelod o’r meinciau cefn (un o’r naill ochr a’r llall i’r Ty) i gadei
rio’r pwyllgor.

Beth fydd y pwyllgor yn ei wneud?

Gwaith pwyllgor sefydlog yw trafod a chymeradwyo pob cymal yn y Mesur. Nid yw’n trafod ei bwrpas na’i rychwant cyffredinol. Sail y drafodaeth fel arfer yw newidiadau i gymalau unigol. Mae hawl gan unrhyw aelod o’r pwyllgor i gynnig diwygiad. Mae’n bosibl y bydd yr Wrthblaid, neu aelodau mainc-gefn o’r naill ochr neu’r llall i’r Ty, am newid rhyw ran benodol o’r Mesur; efallai y bydd y llywodraeth am ymateb i welliannau a awgrymwyd yn ystod y drafodaeth ar yr ail ddarlleniad, neu i ddadleuon a gyflwynwyd gan gyrff allanol neu grwpiau a diddordebau penodol, a phenderfynu ei hun i wneud newidiadau.

Gan y byd ASau fel arfer yn pleidleisio gyda’u pleidiau, bydd mwyafrif cynhenid y llywodraeth yn sicrhau fel arfer mai dim ond y diwygiadau hynny sy’n dderbyniol iddi hi a gaiff eu derbyn. Ar y cyfan, bydd y rhain yn cynnwys ail feddyliau gan y llywodraeth, diwygiadau technegol fel gwelliannau i’r geiriad, a man oddefiadau ar fanylion. Dim ond pan fydd aelodau o’r gwrthbleidiau yn cyfuno ag aelodau mainc-gefn sy’n anghytuno a’u llywodraeth y mae modd gwneud newidiadau o bwys.

Pwy arall gaiff gymryd rhan?

Weithiau, cymerir y cam pwyllgor ‘ar y llawr’, mewn ‘Pwyllgor o’r Ty Cyfan’, sy’n galluogi pob AS i gymryd rhan yn y drafodaeth. Fel arfer dim ond ar gyfer rhai adrannau yn y Mesur Cyllid blynyddol a Mesurau sy’n ymwneud a materion cyfansoddiadol arwyddocaol y defnyddir y drefn araf deg hon. Anfonir Mesur y mae angen ei dderbyn ar frys i ‘Bwyllgor o’r Ty Cyfan’, er mwyn osgoi treulio amser yn sefydlu pwyllgor sefydlog. Mae’n bosibl i rannu Mesur, fel bod modd ymdrin a rhai o’i ddarpariaethau mewn Pwyllgor o’r Ty Cyfan, gyda’r gweddill yn mynd at bwyllgor sefydlog.

Unwaith i’r Mesur fynd trwy’r broses drwyadl hon, gall symud ymlaen i’r cam adroddiad.

Y cam adroddiad

Arolwg manwl o Fesur fel y mae wedi iddo gael ei ddiwygio gan bwyllgor yw’r cam hwn (a elwir hefyd ‘yr Ystyriaeth’). Y tro hwn, caiff unrhyw AS gymryd rhan yn y drafodaeth. Trafodir diwygiadau a chymalau newydd a phleidleisir arnynt. Cyflwynir llawer o’r rhain gan y llywodraeth yn ymateb i ymrwymiadau a wnaed yn ystod y cam pwyllgor. Ni chaiff diwygiadau a wrthodwyd eisoes mewn pwyllgor eu trafod eto fel arfer. Gall y cyfnod adroddiad bara unrhyw gyfnod rhwng ychydig funudau a sawl diwrnod.

Bydd y Mesur wedyn yn mynd yn ol i lawr Ty’r Cyffredin ar gyfer y trydydd darlleniad.

Trydydd darlleniad

Trafodaeth derfynol yw hon ar gynnwys y Mesur diwygiedig yn gyffredinol. Yn aml mae’n fyr iawn a chaiff ei chynnal yn aml yn union wedi’r cam adroddiad.

Ar ol y trydydd darlleniad mae’r Mesur yn symud ymlaen yn ol y drefn i Dy’r Arglwyddi.

Ty’r Arglwyddi

Yn Nhy’r Arglwyddi, cynhelir y drafodaeth mewn modd digon tebyg. Wedi darlleniad cyntaf ffurfiol bydd trafodaeth gyffredinol fawr yn dilyn yr ail ddarlleniad. Wedyn ceir trafodaethau manwl gyda diwygiadau yn ystod y camau pwyllgor ac adroddiad, gyda dadl i gloi ar ol y trydydd darlleniad.

Ond ceir nifer o wahaniaethau pwysig yng ngweithdrefnau’r ddau Dy. Er enghraifft bydd y cam pwyllgor yn Nhy’r Arglwyddi bob amser bron yn cael ei gynnal ar lawr y Ty, ac nid mewn pwyllgor sefydlog, fel bod modd i unrhyw un o Arglwyddi’r Deyrnas lefaru neu awgrymu newidiadau.

Os bydd Mesur yn mynd trwy Dy’r Arglwyddi heb gael ei newid, caiff ei gyflwyno yn syth i dderbyn Cydsyniad y Frenhines. Ond, os gwnaed unrhyw newidiadau, bydd y mesur yn mynd yn ol i Dy’r Cyffredin lle trafodir pob un o newidiadau Ty’r Arglwyddi. Mae modd i Dy’r Cyffredin dderbyn y diwygiad, rhoi diwygiad o’i ddewis ei hun yn ei le, neu ei wrthod. Os bydd Ty’r Cyffredin yn cymryd unrhyw un o’r tri cham hwn, aiff y Mesur yn ol i Dy’r Arglwyddi unwaith eto, ynghyd a datganiad o’r ‘rhesymau’ dros y cam neu gamau a gymerwyd gan Dy’r Cyffredin.

Fel arfer, ar y pwynt hwn bydd Ty’r Arglwyddi yn derbyn y sefyllfa (a thrwy wneud hynny, gydnabod goruchafiaeth Ty’r Cyffredin). Ond nid dyma fydd yn digwydd bob tro, ac os bydd Ty’r Arglwyddi yn mynnu cadw unrhyw un o’i ddiwygiadau bydd y Mesur yn parhau i fynd yn ol ac ymlaen rhwng y ddau Dy nes deuir at gytundeb. Os bydd y ddau Dy yn methu a chytuno yn y pen draw, bydd y Mesur yn methu. Anaml iawn y mae hyn wedi digwydd er 1945.

Mae yna ddau gyfyngiad pwysig ar rym deddfwriaethol Ty’r Arglwyddi. Yn gyntaf, ni chaiff ddal Mesur yn ol yn hwy nag un sesiwn Seneddol. Bydd Mesur a gollwyd yn Nhy’r Arglwyddi mewn un sesiwn a’i dderbyn gan Dy’r Cyffredin yn y sesiwn ddilynol yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol fel mater o drefn hyd yn oed pe bai Ty’r Arglwyddi yn wrthwynebus iddo’r ail dro y daw ger ei fron. Yn ail, nid yw Ty’r Arglwyddi yn ystyried ‘Mesurau ariannol’ fel y’u gelwir, hynny yw Mesurau sy’n ymdrin a threthu neu sy’n pleidleisio dros roi arian i’r llywodraeth. Bydd y rhain yn cael eu derbyn yn ffurfiol trwy Dy’r Arglwyddi heb unrhyw drafodaeth. Mae’r ddau gyfyngiad hwn yn cadarnhau goruchafiaeth Ty’r Cyffredin, a’i aelodaeth etholedig, dros Dy’r Arglwyddi a’i aelodaeth anetholedig.

Wedi i’r Mesur gael ei dderbyn gan Dy’r Arglwyddi, caiff ei anfon i Balas Buckingham i dderbyn y Cydsyniad Brenhinol.

Y Cydsyniad Brenhinol

Yn rhinwedd y ffaith bod y Brenin neu’r Frenhines yn un o dair cangen y Senedd, mae’n cydsynio’n ffurfiol i’r Mesur, sydd bellach yn dod yn Ddeddf ac yn rhan o gyfraith gwlad. Defnyddir y geiriau Ffrangeg Normanaidd ‘La Reyne le veult’ (Mae’r Frenhines yn dymuno hyn’).

Cyn gynted ag y bydd y Frenhines wedi rhoi’r Cydsyniad Brenhinol, daw’r Ddeddf yn Ddeddf Seneddol. Yr unig gam sydd ar ol bellach yw gweithredu’r gyfraith.

Gweithredu’r gyfraith

Mae’r dyddiad y daw Deddf i rym yn dibynnu ar ei geiriad. Mewn ambell i achos, mae darpariaethau’r ddeddf mewn grym yn syth. Mewn achosion eraill, crybwyllir dyddiad cychwyn (neu ragor nag un dyddiad os bydd gwahanol rannau Deddf yn dod i rym ar wahanol adegau). Mewn achosion eraill, rhaid gwneud Gorchymyn Cychwyn er mwyn rhoi’r Ddeddf, neu rai rhannau ohoni, ar gychwyn.

Unwaith i’r Ddeddf gael ei gweithredu mae hi’n rhan o gyfraith gwlad. Mae’r broses hir a thrwyadl o ddeddfwriaethu wedi dod i ben o’r diwedd.

Adrannau eraill a allai fod o ddefnydd i chi

Published 24 August 2007