Datganiad i'r wasg

Cynnydd mewn allforion nwyddau o Gymru gan 7.1% i £16.4bn

Ffigurau gan Gyllid a Thollau EM newydd yn dangos cynnydd yng ngwerth allforion ym mis Mawrth 2018 o gymharu â'r 12 mis blaenorol

Dengys data newydd fod bob rhan o’r DU wedi gweld cynnydd yn eu hallforion nwyddau, diolch i fwy o gyfleoedd drwy’r byd.

Darganfu dadansoddiad cadarnhaol a ryddhawyd gan CThEM heddiw (dydd Iau, 7 Mehefin) fod y nifer o fusnesau sy’n allforio nwyddau a gofrestrwyd ar gyfer TAW yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn 109,000 – codiad o 4.1 y cant o’r flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu: * y bu cynnydd o 6.5% i £244.6 biliwn yn y nwyddau sy’n cael eu hallforio o Loegr; * yn yr Alban, bu cynnydd o 12.1% i £28.8 biliwn yn y nwyddau sy’n cael eu hallforio; * yng Nghymru, bu cynnydd o 7.1% i £16.4 biliwn yn y nwyddau sy’n cael eu hallforio; * yng Ngogledd Iwerddon, bu cynnydd o 4.9% i £8.5 biliwn yn y nwyddau sy’n cael eu hallforio;

Yn ystod misoedd cyntaf 2018, gwerth y nwyddau a allforiwyd ar gyfartaledd fesul allforwr oedd £750,000.

Roedd busnesau yn ogystal yn manteisio ar ddiddordeb byd-eang fel yr oedd y nifer a oedd yn allforio i wledydd nad ydyn nhw’n rhan o’r UE wedi codi dros 47,000. Mae’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd nad oedden nhw’n rhan o’r UE yn cynnwys yr Unol Daleithiau, ac roedd 19.2% o allforwyr wedi gwerthu nwyddau iddi, Awstralia (7.3%) a’r Swistir (7.2%)

O gymharu’r flwyddyn â’r flwyddyn flaenorol, daeth y twf mewn allforion nwyddau o ranbarthau ar draws y DU, gyda Dwyrain Canolbarth Lloegr yn gweld y codiad mwyaf yng ngwerth yr allforion (hyd at 15.2%) ac yna’r Alban (12.1%) a De-orllewin Lloegr (8.8%).

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn hwb pellach i’r wlad fel y mae’r cawr e-fasnach byd-eang, Amazon, yn cyhoeddi y bydd yn creu mwy na 2,500 o swyddi yn y DU eleni gan ei fod yn parhau yn ymrwymedig i ehangu ym Mhrydain ar ôl Brexit.

Dywedodd, yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Liam Fox:

Wrth inni barhau ar ein llwybr tuag at Brexit, mae’r ffigyrau diweddaraf gan CThEM yn dangos yn glir bod bob rhan o’r DU yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd drwy’r byd wrth i allforion nwyddau godi drwy’r wlad. Mae mwy na 100,000 o fusnesau yn ymestyn eu gorwelion ac yn gwneud y mwyaf o’r galw am nwyddau Prydeinig o ansawdd.

I rai, nid diwedd y ffordd yw hyn, ond dechrau eu siwrnai allforio. Wrth iddyn nhw ddatblygu eu rhwydweithiau a chreu swyddi a ffyniant ar draws y DU, mae fy adran economi rhyngwladol yn eu cefnogi nhw drwy ein cynghorwyr masnach ryngwladol profiadol a’r ymgyrch Mae Allforio yn WYCH.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae ffigyrau heddiw yn dangos bod cwmnïau o Gymru yn cystadlu yn uniongyrchol â’u cyfatebwyr rhynglwadol, gan chwilio am gwsmeriaid, gyda thwf cyflymach yn cael ei ddangos mewn marchnadoedd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, oherwydd y galw byd-eang sy’n bodoli am eu nwyddau a’u gwasanaethau ansawdd uchel.

Ond rydym ni angen parhau i fod yn uchelgeisiol dros Gymru, a’m swyddogaeth i yw cefnogi busnesau i dyfu a chael mynediad i farchnadoedd newydd dramor. Mae gan Lywodraeth y DU amrediad eang o gefnogaeth ar gael i helpu cwmnïau ddatblygu eu brand dramor, a thrwy ein Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol, rydym yn sicrhau bod y DU yn parhau yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i fasnachu.

Wrth inni adael yr UE, ein nod yw creu economi gref a bywiog yng Nghymru, ac mae’n galonogol fod cymaint o fusnesau yng Nghymru eisoes yn dangos eu hyder drwy greu cysylltiadau newydd a masnachu o gwmpas y byd i gyd.

Mae ffigyrau ar wahân a ryddhawyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol yn tynnu sylw at y ffaith fod busnesau Prydeinig yn teimlo bod allforion o’r DU am barhau ar gromlin sy’n cynyddu’n gyson wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fusnesau Cofrestredig (NSRB) 2017, a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi cynnal arolwg o 3,000 o fusnesau ar draws y DU.

Darganfu:

  • bod bron i dri chwarter (73%) o fusnesau gyda throsiant blynyddol o £500,000 neu fwy yn dweud eu bod yn credu bod galw cryf am nwyddau a gwasanaethau Prydeinig o gwmpas y byd (i fyny o 68% yn 2015)



  • Roedd bron i hanner (47%) o holl fusnesau’r DU yn credu y bydd gwerth allforion y DU yn parhau i dyfu dros y bum mlynedd nesaf, mwy na dwbl y nifer a oedd yn meddwl i’r gwrthwyneb
  • Roedd bron i ddwy ran o dair (63%) o fusnesau gyda throsiant blynyddol o £500,000 neu fwy yn cytuno y gallai llawer mwy o fusnesau allforio (i fyny 55% yn 2016)
  • Wrth i’r Adran baratoi tuag at lansio ei Strategaeth Allforio, mae cymaint â 130,000 o gwmnïau wedi defnyddio cynnig y DIT i gael cefnogaeth gydag allforio

Mae’r ystadegau yn dangos newid mewn agwedd ymysg rhai busnesau at sefyllfa lle mae ganddyn nhw ddiddordeb cynyddol mewn allforio ac yn y buddiannau sy’n dod gyda gwerthu dramor.

Mae DIT yn dymuno elwa ar hyn, gyda’i Strategaeth Allforio sydd ar ddod, drwy amlinellu cynnig eglur i fusnesau o bob maint, nid yw o wahaniaeth pa gam o’r broses allforio y maen nhw ynddo ar hyn o bryd.

Un busnes sy’n elwa ar y galw byd-eang ar gyfer nwyddau’r DU yw Cloth Cat Animation o Gaerdydd

Cloth Cat yw’r stiwdio cynhyrchu animeiddio fwyaf yng Nghymru, sy’n arbenigo mewn prosiectau creadigol, dyfeisgar a chyfoethog eu dyluniad, gyda sail dechnegol gref ar gyfer pob cynulleidfa drwy gyfres ddarlledu, ffilm, hysbysebion, gemau a chynnwys gwe.

Mae ganddi’r gallu i gymryd prosiect o’i gysyniad hyd at ei ddarlledu ar-lein, y cwbl yn yr un adeilad.

Fel allforwr a phartner cyd-gynhyrchu, mae gwaith Cloth Cat wedi cael ei weld ar rwydweithiau drwy’r byd, ar sianelau yn cynnwys CBeebies, Disney, Cartoon Network, Sprout, Netflix, S4C a llawer mwy o sianeli drwy’r byd.

Mae Llywodraeth y DU wedi chwarae rhan allweddol i helpu Cloth Cat gyflawni ei lwyddiant byd-eang.

Bu Llywodraeth y DU yn cefnogi Cloth Cat yn ariannol i fynychu uwchgynadleddau cyfryngau a sioeau masnach, yn cynnwys yr uwchgynhadledd cyfryngau plant Kidscreen yn Miami a sioe fasnach P2P Llywodraeth y DU yn Shanghai.

Cafodd cydweithrediad diweddaraf Cloth Cat gyda chwmni Tseiniaidd o’r enw Magic Ball ar y gyfres Luo Bao Bei ei ddarlledu’r llynedd yn Tsieina, ac yn ddiweddar, cafodd ei lansio yn Awstralia a bydd yn cael ei ddangos ar sgriniau Prydeinig yn y dyfodol agos iawn.

Am fwy o wybodaeth ar sut gall Llywodraeth y DU eich helpu chi i allforio, ewch i great.gov.uk

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae ffigyrau CThEM ynglŷn â nifer yr allforwyr yn canolbwyntio ar Ch1 2018 (Ionawr - Mawrth) a’r gymhariaeth â Ch1 2017 (Ionawr - Mawrth). Mae ffigyrau CThEM ynglŷn â gwerth yr allforion yn cymharu’r flwyddyn hyd at Ch1 2018 â’r flwyddyn hyd at Ch1 2017.
  • Yn y DU yn 2018, roedd 20,963 o fusnesau yn allforio nwyddau i’r UDA, y mwyaf o unrhyw gyrchfan. Yr UDA oedd y gyrchfan uchaf ym mhob rhanbarth o Loegr ac yng Nghymru a’r Alban (roedd yn ail yng Ngogledd Iwerddon, a Gweriniaeth Iwerddon oedd y cyntaf), yn nhermau nifer yr allforwyr nwyddau.

Y 5 brif ffordd mae Llywodraeth y DU yn cefnogi busnesau i allforio:

  • great.gov.uk – llwyfan allforio sy’n rhestru miloedd o gyfleoedd allforio gwerth miliynau o bunnoedd. Mae hefyd yn rhoi cwmnïau mewn cysylltiad â phrynwyr byd-eang drwy glic llygoden.
  • Cyllid Allforio’r DU - Mae asiantaeth credyd allforio y DU yn darparu cymorth ariannol fel cymorth cyfalaf gweithio, er mwyn sicrhau nad yw unrhyw bargen allforio yn methu oherwydd diffyg cyllid ac yswiriant. Mae UKEF yn ddiweddar wedi partnerio â 5 o fanciau mwyaf y DU, i helpu busnesau bach i gael mynediad hwylus i gymorth ariannol a gefnogir gan y Llywodraeth.
  • Cefnogaeth wyneb yn wyneb i allforwyr yn Lloegr - a gyflwynir trwy rwydwaith o tua 250 o ymgynghorwyr masnach rhyngwladol (ITA). Rheolir yr ymgynghorwyr hyn gan 9 o bartneriaid darparu sy’n gweithredu ym mhob un o’r 9 rhanbarth yn Lloegr.
  • Sioeau masnach - mae DIT yn cefnogi sioeau masnach ledled y byd i arddangos y gorau o gwmnïau’r DU, o sectorau sy’n cynnwys gwyddorau bywyd, moduron a bwyd a diod.
  • Bwrdd Masnach - gyda chynrychiolwyr o’r gymuned fusnes i fod yn ‘llygaid a chlustiau’ busnesau modern. Mae’n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, drwy ei gylchdroi o amgylch y DU, gan sicrhau bod pob rhan o’r undeb yn cael cyfle i godi’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 7 June 2018