Neges gan yr Ysgrifennydd Gwladol i dîm pêl-droed Cymru
Neges gan yr Ysgrifennydd Gwladol i dîm pêl-droed Cymru

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae tîm pêl-droed Cymru nid yn unig wedi ysbrydoli ein cenedl ni, ond y Deyrnas Unedig gyfan hefyd gyda’i gynnydd ffantastig drwy bencampwriaethau Ewro 2016.
Dan arweiniad rheolwr gwych, mae’r tîm hwn wedi cyflawni perfformiadau angerddol sydd wedi rhoi gwefr i bawb ohonom ni ac wedi codi calon y wlad. Mae’n rhaid troi at fuddugoliaeth stori tylwyth teg Clwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr am rywbeth yr un modd ysbrydoledig. Mae’r tîm hwn o Gymru wedi creu hanes o ddifrif.
Heno, bydd y tîm unwaith eto’n cynnal gobeithion y genedl wrth i’r bechgyn wynebu Portiwgal. Pob lwc, ac ewch yr holl ffordd i’r rownd derfynol.