Datganiad i'r wasg

Pwysir ar entrepreneuriaid Cymru i fynd amdani a bachu'r 'Benthyciad i Gychwyn'.

Lledaenu cynllun a noddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Secretary of State for Wales visited successful start up business, Smart Solutions Recruitment in Newport earlier this month. (L-R, Nathan Bowles, Steffan Edwards, Ieuan Rosser, John Hayward of Smart Solutions and David Jones MP).

Secretary of State for Wales visited successful start up business, Smart Solutions Recruitment in Newport earlier this month. (L-R, Nathan Bowles, Steffan Edwards, Ieuan Rosser, John Hayward of Smart Solutions and David Jones MP).

Heddiw (15 Hydref) mae Ysgrifennydd Cymru ac arweinyddion busnes yng Nghymru wedi croesawu cynllun sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i roi’r arfau angenrheidiol i unigolion mentrus lwyddo yn eu busnes.

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Gychwyn wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau lledaenu cynllun hynod lwyddiannus y ‘Benthyciadau i Gychwyn’ i ymgeiswyr ledled Cymru.

Mae’r cwmni’n cynnig cymorth hollbwysig ar ffurf benthyciad ad-daladwy ynghyd â mentor busnes i entrepreneuriaid drwy’r wlad.

Ar ôl dileu’r cap oedran ar gyfer benthyciadau, a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Prydain ym mis Mehefin; o heddiw ymlaen, bydd cyw entrepreneuriaid yng Nghymru, ni waeth faint yw eu hoed, bellach yn gallu manteisio ar gyllid a mentora dan y cynllun Benthyciadau i Gychwyn.

Hyd yn hyn, mae’r cynllun hwn sy’n cael ei noddi gan y llywodraeth, dan gadeiryddiaeth James Caan, wedi helpu dros 8,000 o fusnesau’r Deyrnas Unedig i gychwyn arni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable:

Y llynedd dechreuwyd mwy o fusnesau newydd nag erioed o’r blaen yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ategu ein hymdrechion ni i sicrhau mai dyma’r lle gorau yn y byd i ddechrau busnes newydd a’i ddatblygu.

Mae’r cynllun benthyciadau i gychwyn yn dal i ffynnu, ac mae 8,000 o fenthyciadau gwerth £45 miliwn eisoes wedi’u darparu. Mae estyn y cynllun i Gymru fel hyn i’w groesawu a bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd eto i gyw entrepreneuriaid gael gafael ar arian a chael cymorth mentor busnes proffesiynol i’w helpu i ddechrau a chynnal menter lwyddiannus.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrh. David Jones:

Mae’n hollbwysig rhyddhau’r potensial sydd gan entrepreneuriaid Cymru a’n busnesau bach er mwyn gweld yr economi’n camu ymlaen ar ei thaith ac ymadfer ar ôl ei hachub.

O’r Village Bakery yn Wrecsam (enillydd gwobr Twf Cyflym 50) i Smart Solutions Recruitment yng Nghasnewydd (enillydd gwobr Twf Cyflym 50), mae perchnogion busnesau bach ar hyd ac ar led Cymru wedi bod yn ffrwyno’r egni a’r uchelgais sydd eu hangen i ehangu ac i greu swyddi newydd. Mae’n amlwg bod cyfle go iawn i fentro yng Nghymru - ac i lwyddo.

Bydd lledaenu’r cynllun Benthyciadau i Gychwyn yng Nghymru’n rhoi’r cyfle i lawer mwy o’n cyw entrepreneuriaid ymuno â’r llwyddiant hwn. Byddwn yn eu hannog i fachu ar y cymorth sydd ar gael, mynd amdani, a throi eu syniadau’n fusnesau hyfyw, llwyddiannus y dyfodol.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle newydd, bydd Benthyciadau i Gychwyn yn creu partneriaeth gyda phump o ddarparwyr allweddol drwy Gymru sydd â phrofiad o gynnal cynlluniau menter lleol.

Yr Athro Dylan Jones-Evans a greodd Twf Cyflym 50 - seremoni wobrwyo sy’n anrhydeddu’r busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Dywedodd:

Fel rhan o’r Adolygiad ‘Mynediad at Gyllid’ rwy’n ei gynnal ar ran Llywodraeth Cymru, un o’m hargymhellion oedd y dylid lledaenu’r cynllun Benthyciadau i Gychwyn yng Nghymru. Rwy’n falch bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi cytuno bod modd bwrw ymlaen â’r ariannu hwn, gan ddisgwyl y bydd mwy o entrepreneuriaid yn sefydlu eu busnesau yn y blynyddoedd nesaf.

Sefydlwyd Smart Solutions Recruitment gan Nathan Bowles bum mlynedd yn ôl, ac mae ei fusnes wedi tyfu o ddau aelod o staff mewn swyddfa ym Mhont-y-pŵl i dîm o 111 o weithwyr amser llawn sy’n gweithredu mewn 26 o leoliadau ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r pencadlys erbyn hyn ym Mharc Busnes Langstone yng Nghasnewydd. Mae trosiant Smart ar hyn o bryd yn fwy na £42m y flwyddyn ac mae’n dod o hyd i waith i fwy na 4,500 o staff hyblyg bob wythnos. Y cwmni hwn a enillodd y wobr am y cwmni a oedd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50 2010. Dyma’r flwyddyn hefyd pan gafodd Nathan wobr Entrepreneur y Flwyddyn gan Siambr Fasnach De Cymru. Dywedodd:

Rwy wedi bod yn ffodus iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae ‘na gyngor gwych ar gael i entrepreneuriaid, ond, yn y pen draw, cael gafael ar yr arian iawn i roi cychwyn i’ch syniad yw’r her fwyaf.

Dyma’r union fath o gymorth amserol sydd ei angen ar entrepreneuriaid yng Nghymru gan y llywodraeth, ac mae’n hollbwysig eu bod yn cael eu mentora er mwyn iddynt ddatblygu cynllun busnes sy’n ariannol gadarn. Bydd hyn yn help i sicrhau eu bod yn llwyddo i’r eithaf, yn helpu Cymru i dyfu allan o’r dirwasgiad, gan adeiladu economi gryfach i’r dyfodol.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle newydd, bydd Benthyciadau i Gychwyn yn creu partneriaeth gyda phump o ddarparwyr allweddol drwy Gymru sydd â phrofiad o gynnal cynlluniau menter lleol. Dathlodd y cwmni ei ben-blwydd cyntaf yn ddiweddar a dyfarnwyd £34m arall iddo.

Dywedodd Prif Weithredwr Benthyciadau i Gychwyn, Tim Sawyer:

‘Rwy wrth fy modd o gyhoeddi’r bartneriaeth gyda’n cyfeillion yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at greu perthynas gref gyda’n partneriaid a chydag entrepreneuriaid. Rwy yr un mor falch o weld y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys pobl o bob oed. Erbyn hyn, fe allwn ni helpu unrhyw unigolyn mentrus sydd â syniad busnes cryf, a’r penderfyniad i fwrw’r maen i’r wal”.

Gall busnesau wneud cais am gymorth drwy www.startuploans.co.uk

Nodiadau i olygyddion

*Cynllun gwerth £151.5m a noddir gan y llywodraeth yw Benthyciadau i Gychwyn a hynny ar ffurf benthyciad ad-daladwy ynghyd â mentor busnes i entrepreneuriaid drwy Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

*Fe’i sefydlwyd gan yr Arglwydd Young, Cynghorydd Menter Prif Weinidog Prydain, ac fe grëwyd Benthyciadau i Gychwyn yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau.

*Nod penodol £14m o’r arian a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 12 Medi yw cefnogi pobl sy’n ymuno o’r newydd â chynllun Lwfans Menter Newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau o 1 Hydref ymlaen. Bydd y rhai sy’n ymuno â’r cynllun hwn ar ôl y dyddiad hwnnw’n gallu manteisio ar Fenthyciadau i Gychwyn yn hytrach nag ar fenthyciadau’r Lwfans Menter Newydd, fel y byddent gynt.

*Gan na wnaeth Benthyciadau i Gychwyn ond ddechrau rhoi benthyciadau 12 mis yn ôl, bydd angen disgwyl tan haf 2014 i’r portffolio benthyciadau aeddfedu a chyrraedd lefel sefydlog o ddiffygio o ran ad-dalu benthyciadau. Er mai’r gyfradd darparu bresennol yw oddeutu 5% o gyfanswm gwerth y benthyciad, tybiwyd yn yr achos busnes mai uchafswm y gyfradd diffygio fyddai 40%. Ar sail ein profiad hyd yn hyn, credwn y bydd y gyfradd diffygio ddisgwyliedig yn sefydlogi o gwmpas 30% sy’n gyson â chyfraddau diffygio benthycwyr cymunedol sydd â phortffolios benthyca tebyg o ran eu nodweddion.

*Un o blith nifer o gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth yw Benthyciadau i Gychwyn, a’r rheini’n werth cyfanswm o £2.9 biliwn ac yn cael eu dwyn ynghyd o dan gynllun y Banc Busnes. Bydd y Banc Busnes yn rhoi £1 biliwn arall o gyfalaf newydd ar waith mewn partneriaeth â’r sector preifat i gynyddu eto swm y cyllid a fydd ar gael a sicrhau bod mwy o ddewis ar gael i fusnesau o ran darparwyr cyllid.

*Cyhoeddodd y Prif Weinidog ar 5 Mehefin y bydd benthyciadau ar gael hefyd i ymgeiswyr dros 30 oed.

Cyhoeddwyd ar 15 October 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 October 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.