Stori newyddion

Y cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed yng Nghymru

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu’r ystadegau swyddi diweddaraf sy’n nodi bod y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru nawr ar y lefel uchaf erioed, sef 74.0%

Image of cartoon silhouettes
  • Mae’r lefel cyflogaeth yng Nghymru 5,000 yn uwch dros y chwarter a 12,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth bellach ar ei lefel uchaf erioed, sef 74.0%, sy’n uwch na’r gyfradd uchaf flaenorol, sef 73.5%.
  • Mae’r lefel diweithdra yng Nghymru 1,000 yn is dros y chwarter a 1,000 yn is dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd diweithdra nawr yn 4.5%, sy’n uwch na chyfartaledd y DU (sef 4.2%).
  • Mae cyfanswm cyflogaeth y DU 137,000 yn uwch dros y chwarter a 388,000 yn uwch dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd cyflogaeth nawr ar ei lefel uchaf erioed, sef 75.7%, sy’n uwch na’r gyfradd uchaf flaenorol, sef 75.6%.
  • Mae cyfanswm diweithdra’r DU 12,000 yn is dros y chwarter ac 84,000 yn is dros y flwyddyn. Y gyfradd diweithdra yw 4.2% o hyd.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed yng Nghymru a gyhoeddwyd heddiw yn brawf o ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu’r amgylchiadau cywir ar gyfer twf economaidd a swyddi yng Nghymru.

Mae’r penderfyniad i ddiddymu tollau’r Hafren ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfleoedd allforio Cymru, er enghraifft, wedi hybu twf swyddi yn ogystal â chreu lefelau cyflogaeth cynaliadwy sy’n codi bob blwyddyn.

Fodd bynnag, rhaid i ni gofio bod mwy i’w wneud o hyd i ostwng y lefelau diweithdra. Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i ddangos cryfder economi Cymru i fusnesau dros y byd i gyd, gan hyrwyddo mewnfuddsoddiad a sbarduno’r gwaith o greu rhagor o swyddi ledled Cymru.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 17 July 2018