Datganiad i'r wasg

Cynghorau yng Nghymru yn cael cannoedd ar filoedd o gyllid gan Lywodraeth y DU er mwyn cael mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan

Bydd naw awdurdod lleol yn gosod cyfleusterau gwefru mewn meysydd parcio ac ardaloedd preswyl

Mae naw awdurdod lleol ledled Cymru ar fin cael cannoedd ar filoedd o bunnoedd gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) Llywodraeth y DU i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio ac ardaloedd preswyl.

Bydd pum cyngor yng Ngwent yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen yn cael £458,724.50 eleni i osod 73 o bwyntiau gwefru gyda 146 o socedi unigol ledled y rhanbarth. Mae cynghorau Caerdydd, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe wedi gwneud cais am gyllid gwerth miloedd o bunnoedd, a bydd y symiau’n cael eu cadarnhau maes o law.

Yn ôl y dystiolaeth, mae’n well gan y rhan fwyaf o berchenogion cerbydau trydan wefru eu cerbydau gartref, ond mae gan sawl ardal yn y DU fannau preswyl lle nad yw parcio oddi ar y stryd yn opsiwn, sy’n rhwystro pobl rhag gallu defnyddio cerbydau trydan.

Nod y cyllid yw cynyddu faint o opsiynau gwefru fforddiadwy a hygyrch sydd ar gael, a fydd yn allweddol i gynyddu nifer y cerbydau trydan sydd ar gael yn y DU. Dyblodd Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, y cyllid sydd ar gael drwy’r cynllun pwyntiau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer 2019/20 £2.5m.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd ein diwydiant trafnidiaeth yn trawsnewid dros yr ychydig ddegawdau nesaf ac felly mae’n hollbwysig bod gyrwyr cerbydau trydan yn teimlo’n hyderus bod pwyntiau gwefru ar gael ger eu cartrefi ac ar hyd eu siwrneiau.

Bydd sicrhau bod mwy o bwyntiau gwefru ar gael yn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth wyrddach, a fydd yn arwain at fanteision amgylcheddol sylweddol.

Dyna pam bod Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i ddarparu’r cyllid hwn i awdurdodau lleol ledled Cymru a byddwn yn annog mwy o gynghorau i wneud cais er mwyn creu’r seilwaith sydd ei angen i’n helpu i gyrraedd ein targed o ddim allyriadau net.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (EST) yn gweinyddu’r cynllun ar ran OLEV a gall roi cyngor a chanllawiau i Awdurdodau Lleol ar y broses o baratoi cais cymwys a llwyddiannus.

  • Mae’r Cynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl Ar y Stryd yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol sy’n awyddus i osod pwyntiau gwefru ar gyfer trigolion heb le i barcio oddi ar y stryd. Ers cychwyn yn 2017, mae 51 awdurdod lleol wedi gwneud cais am gyllid. Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2019, mae 25 o awdurdodau lleol wedi cael bron £1.4 miliwn a darparwyd 700 o bwyntiau gwefru. Mae’r cynllun wedi bod yn fwy poblogaidd na’r disgwyl ac ers mis Ebrill 2019 mae 27 o Awdurdodau Lleol wedi cael mwy na £3 miliwn gyda chynlluniau ar y gweill i osod dros 1300 o bwyntiau gwefru.

Cyhoeddwyd ar 25 September 2019