Stori newyddion

Mae cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru yn hollbwysig i sicrhau cyfleoedd masnachu

Heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn croesawu gall y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru a'i haelodau

Heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn datgan y gall y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru a’i haelodau helpu Cymru i sicrhau rhai o’r cyfleoedd masnachu a fydd yn ein helpu i ffynnu ar ôl Brexit.

Wrth siarad mewn digwyddiad y bydd yn ei gynnal yn Nhŷ Gwydyr, Whitehall ar gyfer y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru, bydd Ysgrifennydd Cymru yn dweud wrth y gwesteion bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o sicrhau y bydd y DU yn gryfach, yn decach, yn fwy unedig a byd-eang ei meddwl nag erioed o’r blaen yn y cyfnod hwn o newid cenedlaethol i’r Deyrnas Unedig.

Bydd yn dweud nad yw ein perthnasoedd cryf â’r Cymdeithasau Consylaidd a phobl bwysig dramor erioed wedi bod mor bwysig er mwyn sicrhau ein bod yn dod yn Brydain Fyd-eang.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae enw da Cymru yn tyfu’n rhyngwladol. Mae’n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda’n cyfeillion yn y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru i sicrhau cyfleoedd masnachu a hyrwyddo Cymru sy’n hyderus ac yn gryf i’r byd.

Mae adeiladu ar hen berthnasau a meithrin rhai newydd yn hanfodol os ydym am sicrhau cysylltiadau masnachu ac archwilio marchnadoedd newydd sy’n dod i’r amlwg. Bydd hyn yn helpu i yrru economi sy’n gweithio i bawb.

Dywedodd Raj Aggarwal, Llywydd y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru a Chonswl Anrhydeddus India yng Nghymru:

Mae angen y Gymdeithas Gonsylaidd yng Nghymru ar y wlad fwy nag erioed o’r blaen i gryfhau perthnasoedd a chysylltiadau â’u gwledydd unigol yn yr UE a gweddill y byd. Bydd arbenigedd, rhwydwaith a gwybodaeth y Consyliaid Anrhydeddus yn creu cysylltiadau cryfach.

Maent yn cynrychioli gwledydd sydd â marchnadoedd anferth a galw ffyniannus gan ddefnyddwyr am gynnyrch o safon o Gymru. Ein nod yw denu’r Byd i Gymru a mynd â Chymru i’r Byd.

Cyhoeddwyd ar 26 January 2017