Stori newyddion

Enwebu cwnstabliaid ar gyfer yr 20fed Wobr am Ddewrder yr Heddlu ar ôl achub teulu o dân mewn tŷ yng Ngwent

Mae dau gwnstabl o Heddlu Gwent wedi ennill Gwobr ranbarthol Dewrder yr Heddlu am achub wyth o bobl o dân mewn tŷ yng Nghasnewydd.

Cyflwynwyd y wobr i PC Rhiannon Hurst a PC Owen Davies yn y seremoni yng nghanol Llundain mewn digwyddiad lle’r oedd pwysigion ym maes plismona, yr Ysgrifennydd Cartref a’r gweinidog plismona yn bresennol.

Yn wynebu’r swyddogion roedd tŷ pen tri llawr yn wenfflam. Roedd y sefyllfa’n anhrefn, ac roedd y gwasanaeth ambiwlans yno eisoes.

Aethant i mewn i’r tŷ llawn mwg a dechrau chwilio am y preswylwyr a chanfod nifer o oedolion mewn gwahanol rannau o’r tŷ. A’r tân yn ymledu, aeth yn fwyfwy anodd i’r swyddogion anadlu ac roedd y gwres yn annioddefol bron.

Daeth y swyddogion dewr â saith aelod o’r teulu allan o’r tŷ i ddiogelwch - ond wrth wneud hynny cawsant wybod bod plentyn anabl yn gaeth mewn ystafell yn yr atig. Aeth y ddau swyddog yn ôl i mewn i’r tŷ, a nesáu at ganolbwynt y tân.

Daethant o hyd i ddrws i’r atig ar y landin ar y llawr cyntaf, ond nid oeddent yn gallu ei agor. Yna, gadawodd PC Rhiannon Hurst i ofyn am ragor o gymorth tra’r oedd PC Owen Davies yn ceisio gwthio’r drws i’w agor ond yn ofer. Roedd hyn yn digwydd mewn sefyllfa anhrefnus, lle’r oedd perygl i’w diogelwch eu hunain.

Roedd sŵn y tân yn fyddarol, y gwres yn annioddefol a’r mwg yn llethol. Er gwaethaf hyn roedd PC Davies yn dal i geisio agor y drws. Yn sydyn, disgynnodd pren ar dân o’r nenfwd, gan gochi ei ddillad a’i esgidiau. Er hyn, parhaodd i geisio gwthio’r drws ond yn y diwedd roedd yn rhaid iddo ildio gan fod rhagor o bren ar dân yn disgyn o’r nenfwd.

Y tu allan, roedd y gwasanaeth tân wedi cyrraedd ac esboniwyd iddynt lle’r oedd y plentyn yn yr adeilad. Aeth y gwasanaeth tân i mewn gyda chyfarpar anadlu llawn a gwthio’u ffordd i’r ystafell yn yr atig.

Yn y cyfamser, roedd y plentyn wedi dringo i ben to’r adeilad, a gyda chymorth ysgolion llwyddwyd i’w achub. Yn ffodus, ni chafodd neb o’r cyhoedd na swyddogion yr heddlu eu hanafu’n ddifrifol gan y tân, ac yn ddiweddarach datgelwyd mai nam trydanol oedd wedi’i achosi.

Dywedodd Jeff Farrar, prif gwnstabl Heddlu Gwent: ‘Gweithredodd y ddau swyddog heb feddwl am eu diogelwch eu hunain i geisio atal anaf i breswylwyr y tŷ. Roedd eu gweithredoedd yn wirioneddol ddewr.’

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r dewrder diwyro a ddangoswyd gan PC Rhiannon Hurst a PC Owen Davies yn tystio i’r dewrder a ddangosir gan Swyddogion yr Heddlu ledled y wlad, sy’n rhoi eu diogelwch eu hunain mewn perygl er mwyn diogelu bywydau pobl eraill.

Mae’r holl swyddogion o Gymru sydd wedi cael eu henwebu am y wobr anrhydeddus hon wedi mynd ymhell y tu hwnt i alwad dyletswydd – maent wedi dangos dewrder neilltuol er mwyn amddiffyn ein cymunedau.

Hoffwn ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu i ddiolch i’n swyddogion dewr yn yr heddlu am eu hymroddiad arbennig.

Dywedodd Jeff Mapps, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Gwent:

Bu’r swyddogion hyn yn hynod ddewr mewn sefyllfa eithriadol o beryglus. Rhoesant eu diogelwch eu hunain o’r neilltu er lles pobl eraill. Penderfyniadau byw neu farw fel y rhain y mae swyddogion yn eu gwneud 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn.

Dywedodd Stephen Mann, Prif Weithredwr Police Mutual:

Mae Police Mutual yn eithriadol falch o noddi Gwobrau Dewrder yr Heddlu, i gydnabod dewrder swyddogion yr heddlu sy’n wynebu sefyllfaoedd heriol tu hwnt bob dydd er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel. Mae ein hymrwymiad hirdymor a pharhaus i gefnogi’r gwobrau hyn yn adlewyrchu’r parch anhygoel sydd gennym tuag at waith gwasanaeth yr heddlu.

Cyhoeddwyd ar 27 October 2015