Datganiad i'r wasg

Enwi a chodi cywilydd ar fusnesau o Gymru am beidio a rhoi isafswm cyflog i’w gweithwyr

10 gyflogwr o Gymru wedi’u henwi yn y rhestr

  • Canfuwyd gwerth £1.1 miliwn o dandaliadau i 9,200 o weithwyr ledled y DU a ddylai fod wedi bod yn cael eu talu ar gyfradd yr isafswm cyflog cenedlaethol
  • 179 o gyflogwyr ledled y DU wedi’u henwi, ac wedi cael dirwyon o £1.3 miliwn yn sgil rhoi tâl rhy isel
  • Daw’r cylch enwi hwn cyn i gyfraddau’r isafswm cyflog godi ar 1 Ebrill

Heddiw (9 Mawrth) mae Llywodraeth y DU wedi enwi a chodi cywilydd ar 182 o gyflogwyr y DU – gan gynnwys 10 yng Nghymru – am roi tâl rhy isel i dros 9,000 o weithwyr sy’n cael yr isafswm cyflog, â chyfanswm y tandaliad yn £1.11 miliwn.

Yng Nghymru cafodd 10 o gyflogwyr eu henwi am roi tandaliadau gwerth cyfanswm o £74,659 i 159 o weithwyr, ac roedd cyfanswm y dirwyon a gawsant yn £87,396.

Yn ogystal ag adennill ôl-daliadau cyflog i 9,200 o weithwyr, rhoddodd y Llywodraeth hefyd ddirwyon gwerth cyfanswm o £1.3 miliwn i’r cyflogwyr, i’w cosbi am dorri cyfreithiau isafswm cyflog cenedlaethol. Y sectorau oedd yn torri’r gyfraith fwyaf mynych yn y cylch hwn oedd manwerthwyr, busnesau lletygarwch a thrinwyr gwallt.

Daw hyn cyn y cynnydd nesaf yn y gyfradd ar 1 Ebrill, pan fydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £7.50 i £7.83 yr awr. Bydd prentisiaid iau na 19 oed a’r rhai sydd ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaethau yn cael cynnydd o 5.7%, sy’n record.

Yn ddiweddarach y mis hwn bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r cyfraddau newydd ac i annog gweithwyr i siarad â’u cyflogwr os ydynt o’r farn nad ydynt yn cael y cyflog sy’n ddyledus iddynt.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae gan bob gweithiwr yn y DU yr hawl i gael yr isafswm cyflog neu’r cyflog byw cenedlaethol o leiaf, a bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau eu bod yn ei gael.

Dyna pam rydym wedi enwi a chodi cywilydd ar y cyflogwyr hyn sydd wedi methu talu’r isafswm cyfreithiol, gan anfon neges glir i gyflogwyr y byddant yn sicr o gael eu cosbi am beidio â chydymffurfio â’r isafswm cyflog.

Yn ôl y Gweinidog Busnes, Andrew Griffiths:

Mae byd gwaith yn newid ac rydym wedi amlinellu ein cynlluniau i roi gwell hawliau i filiynau o weithwyr, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu talu a’u trin yn deg yn y gweithle.

Nid oes unrhyw esgus dros dwyllo gweithwyr. Mae hon yn llinell goch gadarn i’r Llywodraeth a bydd cyflogwyr sy’n ei chroesi yn cael eu dal – byddant nid yn unig yn cael eu gorfodi i ad-dalu pob ceiniog, ond hefyd yn cael dirwy o hyd at 200% o’r cyflogau sy’n ddyledus.

Mae’r cylch enwi heddiw yn ffordd effeithiol o atgoffa cyflogwyr i roi trefn ar bethau cyn i gyfradd yr isafswm cyflog godi ar 1 Ebrill.

Meddai Bryan Sanderson, Cadeirydd y Comisiwn Cyflogau Isel:

Gan fod cyfraddau’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn codi ar 1 Ebrill, mae’n holl bwysig fod gweithwyr yn deall eu hawliau, a bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau.

Mae’r Comisiwn Cyflogau Isel yn falch o weld bod y Llywodraeth yn cynnal momentwm ei hymdrechion i orfodi’r isafswm cyflog.

Mae’r cyhoeddiad diweddar y bydd gan bob gweithiwr yr hawl i gael slip tâl yn nodi’r oriau y mae wedi’u gweithio – syniad a gynigiwyd gan y Comisiwn yn wreiddiol – yn gam cadarnhaol.

Daw’r 14eg cylch enwi hwn wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi ei chynllun ‘Good Work y mis diwethaf, gan gyflwyno’r hawl i bob gweithiwr gael slip tâl. Mae’r gyfraith newydd yn debygol o fod er budd i tua 300,000 o weithwyr yn y DU nad ydynt yn cael slip tâl ar hyn o bryd.

I’r rhai sy’n cael eu talu fesul awr, bydd yn rhaid i slipiau tâl hefyd nodi faint o oriau y mae’r gweithiwr yn cael ei dalu ar eu cyfer, gan ei gwneud hi’n haws deall tâl a’i herio os nad yw’n gywir. Mae’r cam yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, sef ei chynllun hirdymor i greu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol drwy helpu busnesau i greu gwell swyddi sy’n talu’n well ym mhob rhan o’r DU.

Er 2013 mae’r cynllun wedi canfod dros £9 miliwn mewn ôl-daliadau i tua 67,000 o weithwyr, gyda dros 1,700 o gyflogwyr yn cael dirwyon gwerth cyfanswm o £6.3 miliwn. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo £25.3 miliwn ar gyfer gorfodi’r isafswm cyflog yn 2017/18.

Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n talu llai na’r isafswm cyflog i weithwyr nid yn unig dalu ôl-daliadau cyflog sy’n ddyledus i’r gweithiwr ar gyfradd bresennol yr isafswm cyflog, ond hefyd wynebu cosbau ariannol o hyd at 200% o’r ôl-daliadau, wedi eu capio ar £20,000 fesul gweithiwr.

Am ragor o wybodaeth am eich tâl, neu os credwch nad ydych yn cael y tâl sy’n ddyledus ichi, cewch gyngor ac arweiniad ar www.gov.uk/checkyourpay. Gall gweithwyr hefyd ofyn cyngor Acas sy’n arbenigwyr ar y gweithle.

NODIADAU I OLYGYDDION

Dyma rhestr o’r cwmniau o Gymru:-

Name of Employer Company/Trading Name Partial Postcode Government Office Region (employer trading address) Local Authority (employer trading address)
Seashells Limited   LL29 Wales Conwy
Mr Akbor Miah Dil Indian Cuisine NP15 Wales Monmouthshire
Davies Security Limited   SA1 Wales Swansea
Oakfield Caravan Park Limited   LL18 Wales Denbighshire
A1 Care Services Limited   NP4 Wales Torfaen
SB Patel Ltd Porth Stores CF46 Wales Merthyr Tydfil
Arcadis Consulting (UK) Limited   CF3 Wales Cardiff
Bush House Pembroke Limited   SA71 Wales Pembrokeshire
Rainbow Brite Cleaning Services Limited   NP20 Wales Newport
NTCDucting.com Limited   SA7 Wales Swansea

Dan y cynllun hwn, bydd y Llywodraeth yn enwi’r holl gyflogwyr sydd wedi cael Hysbysiad Tandalu (NoU), oni bai bod cyflogwyr yn cwrdd ag un o’r meini prawf eithriadol neu bod ganddynt ôl-ddyledion o £100 neu lai o ran taliadau. Bu i bob un o’r 179 o achosion sy’n cael eu henwi heddiw (9 Mawrth 2018) fethu talu cyfraddau cywir yr isafswm cyflog neu’r cyflog byw cenedlaethol ac roedd ganddynt ôl-ddyledion taliadau o dros £100.

Mae gan gyflogwyr 28 diwrnod i apelio yn erbyn yr Hysbysiad Tandalu (mae’r hysbysiad hwn yn amlinellu’r cyflogau sy’n ddyledus ac y mae angen i’r cyflogwr eu talu, ynghyd â’r gosb am beidio â chydymffurfio â chyfraith isafswm cyflog). Os na fydd y cyflogwr yn apelio neu os bydd yn apelio’n aflwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad hwn, bydd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystyried ei enwi. Yna bydd gan y cyflogwr 14 diwrnod i gyflwyno sylwadau i’r Adran yn amlinellu a ydyw’n cwrdd ag unrhyw rai o’r meini prawf eithriadol:

  • Byddai cael ei enwi gan yr Adran yn peri risg o niwed personol i unigolyn neu i’w deulu;
  • Mae risgiau i ddiogelwch cenedlaethol yn gysylltiedig ag enwi yn yr achos hwn;
  • Ffactorau eraill sy’n awgrymu na fyddai enwi’r cyflogwr er lles y cyhoedd.

Cyfraddau’r Cyflog Byw a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol:-

Dyddiad 25 a hŷn 21 i 24 18 i 20 Dan 18 Prentisiaid
Ebrill 2017 £7.50 £7.05 £5.60 £4.05 £3.50
Ebrill 2018 £7.83 £7.38 £5.90 £4.20 £3.70

Sectorau lle ceir cyflogau isel:-

  • Lletygarwch: 43 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 5,726 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £460,459
  • Trin gwallt: 19 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 152 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £43,938
  • Manwerthu: 18 o gyflogwyr wedi’u henwi am roi tâl rhy fychan i 85 o weithwyr, a chyfanswm y tandaliad yn £27,332
Cyhoeddwyd ar 9 March 2018