Rhaid Meithrin Ysbryd Mentergarwch er mwyn I Gwmni Cymru Ffynnu, medd Ysgrifennydd Cymru wrth Arweinwyr Busnes
Bydd meithrin ysbryd mentergarwch a rhyddhau busnesau o hualau biwrocratiaeth yn rhoi hwb i’r adferiad economaidd yng Nghymru, yn denu mewnfuddsoddiad…
Bydd meithrin ysbryd mentergarwch a rhyddhau busnesau o hualau biwrocratiaeth yn rhoi hwb i’r adferiad economaidd yng Nghymru, yn denu mewnfuddsoddiad ac yn galluogi Cwmni Cymru i ffynnu, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth aelodau Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd.
Tynnodd Mrs Gillan sylw at bwysigrwydd annog cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid a busnesau yng Nghymru, ond pwysleisiodd hefyd y rol bwysig y bydd y sector preifat yn ei chwarae wrth gyflawni hyn.
Wrth siarad yng Nghlwb 2010, a fydd yn croesawu Cwpan Ryder ymhen tair wythnos, dywedodd Mrs Gillan: “Drwy weddnewid economi Cymru, cawn swyddi a chyflogau uchel, busnesau llewyrchus, a gwell safon byw. Fodd bynnag, ni all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun, a dyna pam yr hoffwn weld y sector preifat yn gweithio gyda ni i arwain Cymru i’r adferiad. Rydym am greu amgylchedd lle gall busnesau ffynnu, ac mae angen i ni gael deialog barhaus a busnesau er mwyn cyflawni hynny.
“Mae gan Gymru lawer i’w gynnig, a gall yr amryfal fusnesau sydd wedi penderfynu ymsefydlu yma gadarnhau hynny. Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi denu buddsoddiad gan gwmniau mawr a bach, gan gynnwys rhai o gwmniau mwyaf y byd a’r mwyaf creadigol. Y llynedd yn unig, cafodd dros 3,400 o swyddi newydd eu creu mewn 65 prosiect yng Nghymru drwy fuddsoddiadau tramor, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd heriol. Mae hyn yn well na’r flwyddyn flaenorol, ond mae angen i ni wneud mwy.
“Credaf y gellir gwneud rhagor i annog cwmniau tramor i ymsefydlu yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni ddangos i’r cwmniau hyn bod gan Gymru’r amgylchedd priodol iddynt fuddsoddi ynddo. Ac mae gennym yr amgylchedd priodol. Ochr yn ochr a’r seilwaith sy’n datblygu, mae gan Gymru weithlu medrus a chymwys dros ben ynghyd a chysylltiadau rhagorol a sefydliadau academaidd Cymru, ac mae hyn wedi cyfrannu at ymchwil a sgiliau gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf.
“Mae’r wlad hon yn gwneud enw da i’w hun fel lleoliad Ewropeaidd blaenllaw ar gyfer twf a llwyddiant, a dyna pam mae cynifer o frandiau byd-eang wedi symud yma. Fodd bynnag, ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, ac mae angen i ni geisio annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i gyflawni eu huchelgais a llwyddo.
“Mae angen i ni edrych ar y genhedlaeth nesaf sydd ar fin dechrau eu bywyd gwaith; mae angen i ni roi cyfleoedd i’r bobl ifanc hyn wella eu sgiliau, dysgu crefftau newydd a bod yn gaffaeliad i gwmniau ac i’r wlad. Mae angen i fusnesau ym mhob cwr o Gymru ystyried pobl ifanc, a rhoi cyfle iddynt.
“Mae Cymru yn lle gwych i gwmniau ymsefydlu, a’n gwaith ni yw dal ati i hyrwyddo Cymru a pharhau i weithio i ddenu buddsoddiad tramor i’r wlad hon. Hoffwn annog rhagor o gwmniau i adleoli, er mwyn dangos bod gan Gymru’r sgiliau, yr wybodaeth a’r brwdfrydedd i symud ymlaen a datblygu, ac y bydd yn parhau felly. Drwy hyrwyddo twf y sector preifat a denu mewnfuddsoddiad, gallwn sicrhau’r adferiad economaidd yn ogystal a dyfodol llewyrchus a chynaliadwy i Gymru.”