Datganiad i'r wasg

Rydym ni'n byw mewn cyfnod anarferol - ond mae’n fusnes fel arfer i gwmnïau Cymru

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud bod agwedd gadarnhaol busnesau Cymru yn dilyn pleidlais refferendwm yr UE wedi cael argraff arno.

Roedd yn sioc seismig i’r genedl. Ond mae’r refferendwm drosodd erbyn hyn, a - gan beryglu peidio â chydnabod yn llawn arwyddocâd yr hyn sydd newydd ddigwydd - mae angen i ni ymateb i’r sefyllfa newydd.

Mae pyndits a sylwebyddion wedi treulio diwrnodau yn ymdrybaeddu yn y canlyniad. Ar y llaw arall, mae’r arweinwyr busnes, cynghorau a phrifysgolion rwyf wedi cwrdd â nhw yng Nghymru yr wythnos hon wedi bod yn iachusol o bragmatig ac ymarferol.

Ymhlith y grwpiau cwrddais â nhw oedd Sefydliad y Cyfarwyddwyr a CBI Cymru. Roedd eu hagwedd yn drawiadol - yn barod yn troi i feddwl sut gallai llwybr deuol mynediad at farchnad Ewropeaidd sengl ac ymchwilio i gyfleoedd mewn mannau eraill fod o fudd i Gymru. Weithiau rydyn ni’n anghofio fod newid yn golygu cyfle i entrepreneuriaid, ac mae cyfleoedd ar gael.

Mae gan ein sector prifysgolion yng Nghymru gysylltiadau cryf ag Ewrop, ond mae ein harbenigedd hefyd yn atyniadol i fyfyrwyr ac ymchwilwyr ledled y byd ehangach. Mae penaethiaid prifysgolion eisoes yn troi eu meddyliau at sut bydd eu model busnes yn gweithio yn y ffurfafen newydd hon.

Efallai ein bod ni’n byw mewn cyfnod anarferol, ond yn sicr yn achos cwmnïau Cymru, mae’n achos o ‘fusnes fel arfer’.

Fy ngwaith i, fel Ysgrifennydd Gwladol, yw darparu arweinyddiaeth gadarnhaol a gobeithiol. Yr hyn nad yw byd busnes yn ei hoffi yw ansicrwydd. Yr hyn y mae’n ei hoffi yw’r Llywodraeth yn hyrwyddo prosiectau a buddsoddiadau uchelgeisiol, gan ddangos bod Cymru yn agored i fusnes.

Yr hyn a oedd hefyd yn amlwg yn sgil fy nghyfarfodydd yr wythnos hon oedd y gred, o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, nad yw mandad y refferendwm yn golygu y dylem yn awr ruthro i sbarduno Erthygl 50 a sbarduno ymadawiad ffurfiol Prydain â’r Undeb Ewropeaidd. Mae angen i ni edrych mewn ffordd gall a phwyllog ar ba fath o drefniadau masnach neu gydweithio sy’n gweithio orau i Brydain a Chymru.

Pa un ai a fydd Prydain yn dewis mabwysiadu model Canada, y Swistir neu Norwy, ni fydd y broses gymhleth hon yn elwa ar frys gormodol. Nid oes unrhyw ruthr yn y Cyngor Ewropeaidd i ni lofnodi erthygl 50 ar frys mawr. Yn lle hynny, mae yna gydnabyddiaeth - er bod yr Undeb Ewropeaidd yn dymuno gweld glasbrint Prydain - y dylai hwnnw fod yn gynnyrch astudiaethau gofalus. Bydd llawer o’r gwaith yn cael ei ysgwyddo gan yr uned UE newydd sy’n cael ei sefydlu gan Lywodraeth y DU i archwilio’r pwyntiau niferus - o statws Prydeinwyr dramor hyd at gytuniadau masnachu - sy’n deillio o bleidlais 23 Mehefin. Ni fydd bywyd bob dydd ym Mhrydain yn newid nes byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Cymru yn parhau i gael y cyllid a’r holl fuddion eraill y mae ganddi hawl i’w cael yn sgil aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Rydyn ni’n dechrau ar y trafodaethau helaeth hyn gydag economi mewn cyflwr da - fel y dywedodd y Canghellor, fe wnaethom atgyweirio’r to tra’r oedd yr haul yn tywynnu. Mae Cymru’n mwynhau economi sy’n fwyfwy deinamig a chyfradd cyflogaeth sy’n gwella’n gynt nag yng ngweddill Prydain.

Yr her i ni yw cynnal y twf hwnnw wrth i ni baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, a pheidio â gadael i’r heriau sydd o’n blaenau dynnu’r gwynt o’n hwyliau ni. Mae Cymru yn fuddiolwr net o arian yr Undeb Ewropeaidd, ac yn anochel mae llawer o’r sylwadau gan y cyhoedd hyd yma wedi cyfeirio at sut bydd y bwlch yn cael ei lenwi. Byddaf yn gweithio fy ffordd o amgylch y bwrdd cabinet ac yn parhau â’m trafodaethau gyda’r Prif Weinidog i ddiogelu buddiannau Cymru.

Fodd bynnag, credaf fod cydnabyddiaeth gynyddol nad oedd y model blaenorol yn gynaliadwy. Mae angen i’r ddadl fod ar lefel uwch yn hytrach na dim ond chwilio am gyfres o warantau i danategu’r arian mae Cymru yn ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd. Byddai gwneud dim mwy nag ailadrodd y model a oedd yn ei le cyn 23 Mehefin yn methu’r pwynt. Nid oedd cronfeydd strwythurol - er mor ddefnyddiol oedden nhw - bob amser yn cyflawni ar obeithion ac addewidion. Roedd rhai o’r amodau yn amheus a’r canlyniadau yn aneglur. Mae gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol a’r sector preifat yn allweddol i gynigion yn y dyfodol.

Mae angen i ni symud ymlaen a pharhau i feithrin yr economi ddeinamig entrepreneuraidd rydyn ni’n ei gweld yn awr ar draws y wlad, gan annog crewyr swyddi i fuddsoddi yma a defnyddio’r camau diwygio lles i annog rhagor o bobl i ddychwelyd i’r gwaith. Ar nodyn cyffredinol, mae llawer o sylw wedi ei roi i’n hwyliau cenedlaethol afreolus yn y dyddiau diwethaf. Nid oes amheuaeth bod ymgyrch y refferendwm ar adegau wedi arwain at lefelau annisgwyl o gas o fitriol, pwyntio bys a galw enwau, llawer ohono’n cael ei chwyddo gan siambr adlais swnllyd y cyfryngau cymdeithasol. Mae canlyniad y refferendwm yn cael ei weld gan rai fel tystiolaeth o wlad wedi ei rhannu ar sail oedran, dosbarth, a daearyddiaeth. Mae awyrgylch twymynol yng ngwleidyddiaeth San Steffan, wedi ei gyfuno ag adroddiadau am droseddau casineb - rhywbeth mae arweinwyr cynghorau Cymru wedi sylwi arno - wedi ychwanegu at ymdeimlad cyffredinol o anobaith dros y wlad.

Mae’n bryd yn awr i ni ddweud: digon yw digon. Mae’r refferendwm wedi cynhyrchu canlyniad na ellir ei ailystyried, ac mae angen i ni gadw ato. Yr her yw sicrhau bod y trefniadau newydd yn gweithio i bobl Cymru - pa un ai a wnaethon nhw bleidleisio dros adael neu aros - a chael y canlyniad gorau i Gymru.

Mae’r rhain yn gwestiynau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â nhw dros y misoedd nesaf.

Nid oes amheuaeth bod pleidleiswyr wedi cymryd cam a synnodd y pyndits a llunwyr polau piniwn ar 23 Mehefin, wedi troi’r sefydliad gwleidyddol ben i waered ac wedi arwain at sgil-effeithiau drwy’r gymdeithas ehangach.

Ond mae’r Cymry wedi dangos dro ar ôl tro eu bod nhw’n gallu gwrthsefyll newid mawr. Wrth i ni fynd ar hyd y llwybr newydd hwn, fy nghred i yw y bydd synnwyr o undod yn ein harwain ni eto.

Cyhoeddwyd ar 4 July 2016