Bydd Cymru’n rhoi croeso cynnes i Gwpan Ryder, meddai Cheryl Gillan
Gyda llai na 10 wythnos nes bydd Cymru’n croesawu Cwpan Ryder, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymweld a Gwesty’r Celtic …

Gyda llai na 10 wythnos nes bydd Cymru’n croesawu Cwpan Ryder, mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymweld a Gwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd i weld y paratoadau a’r cyfleusterau.
Ymwelodd Mrs Gillan a Twenty Ten, y clwb newydd pwrpasol sydd wedi’i adeiladu’n arbennig ar gyfer Cwpan Ryder 2010 - ac o’r fan hon y bydd tim Ewrop a thim America yn cystadlu yn ystod y twrnamaint tri diwrnod. Bu Mrs Gillan hefyd o amgylch y cwrs 18 twll rhagorol, sef y cwrs cyntaf erioed i gael ei gynllunio a’i adeiladu yn arbennig ar gyfer cynnal Cwpan Ryder.
Gwelodd hefyd y gwaith sy’n mynd rhagddo ar y cyfleusterau VIP corfforaethol a’r ganolfan ar y safle ar gyfer y wasg a’r cyfryngau, a fydd yn darlledu i gynulleidfa deledu o oddeutu biliwn o bobl ar draws y byd.
A hithau’n siarad yng nghlwb Twenty Ten, dywedodd Mrs Gillan: “Mae Cwpan Ryder yn un o’r digwyddiadau golff mwyaf blaenllaw yn y byd. Bydd dros 45,000 o bobl yn heidio i Westy’r Celtic Manor i wylio pob diwrnod o’r twrnamaint fis Hydref, a biliwn arall yn gwylio’r cyfan ar y teledu ar hyd a lled y byd. Mae hwn yn gyfle heb ei ail i Gymru ddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig.
“Ar ol gweld y seilwaith a’r cyfleusterau sydd gyda’r gorau yn y byd, rwy’n ffyddiog y bydd Gwesty’r Celtic Manor yn cynnal digwyddiad gwych a fydd yn bendant yn destun balchder i Gymru.
“O’r cwrs golff penigamp yng nghefn gwlad godidog Cymru, i glwb Twenty Ten, bydd Cwpan Ryder yn dangos i bawb bod y Celtic Manor yn un o’r llefydd gorau yn y byd i chwarae golff.
“Ond rhaid gwneud yn siŵr nad yw’r manteision yn dod i ben ar ol y twrnamaint. Mae Cronfa Etifeddiaeth Cwpan Ryder eisoes yn trefnu prosiectau a chynlluniau a fydd yn adeiladu ar lwyddiannau Cwpan Ryder 2010 ar hyd a lled Cymru, gan sicrhau y bydd Cymru’n ennill ei phlwyf yn rhyngwladol fel gwlad sy’n cynnig y cyfleusterau golff gorau.”