Datganiad i'r wasg

Cymru i gael hwb o Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU

Ysgrifennydd Cymru yn lansio'r Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghampws Airbus yng Nghasnewydd

Industrial Strategy

Industrial Strategy

  • Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol fodern.
  • Ysgrifennydd Cymru yn nodi’r lansiad yn ystod ymweliad â Champws Airbus yng Nghasnewydd
  • Strategaeth Ddiwydiannol i sbarduno twf ar draws y Deyrnas Unedig i gyd, gan roi hwb i sgiliau a gwella cynhyrchiant a seilwaith.

Heddiw (dydd Llun 27 Tachwedd) lansiodd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol y llywodraeth. Mae’n disgrifio’r weledigaeth hirdymor ar gyfer sut gall Prydain adeiladu ar ei chryfderau economaidd, mynd i’r afael â’i pherfformiad o ran cynhyrchiant, coleddu newid technolegol a hybu gallu pobl ledled y DU i ennill arian.

Mae gan Gymru enw da ledled y byd yn y sectorau awyrofod, dur, technoleg a gwyddorau bywyd, a thrwy’r Strategaeth Ddiwydiannol bydd Llywodraeth y DU yn adeiladu ar sail y cryfderau hyn ac yn creu cyfleoedd newydd.

A hithau ag uchelgais glir i sbarduno cynhyrchiant a thwf economaidd, mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn cynnwys nifer o gyhoeddiadau a fydd yn dod â budd i Gymru gan gynnwys:

  • cynyddu’r gwariant ar ymchwil a datblygu yn genedlaethol i 2.4 y cant erbyn 2027, gan roi hwb i gryfder Cymru ym maes ymchwil ac arloesi
  • ‘bargeinion’ sector ar gyfer gwyddorau bywyd, adeiladu, moduro a deallusrwydd artiffisial
  • gwella’r cysylltiad 5G ar gyfer busnesau bach a chanolig hanfodol Cymru
  • darparu Bargeinion Dinesig a Thwf a choridorau twf trawsffiniol i gryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr
  • cyhoeddiadau Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer gweddnewid meysydd adeiladu, amaeth a chynhyrchiant

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wedi nodi lansiad y Strategaeth Ddiwydiannol yng nghampws Airbus yng Nghasnewydd, cwmni sy’n helpu’r DU i fod ar flaen y gad yn y chwyldro data a deallusrwydd artiffisial.

Dywedodd:

Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol hon yn cyflawni mewn perthynas â’r sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda busnesau a chyflogeion ar draws Cymru.

O’r coridorau twf a fydd yn hwyluso gweithio trawsffiniol, i’r ymrwymiadau i archwilio’r posibilrwydd o fargeinion Dinesig a Thwf ar gyfer pob rhan o’r wlad, dyma strategaeth sy’n manteisio ar ein cryfderau economaidd ac yn rhoi sylw i rai o’r heriau mawr rydym yn eu hwynebu.

Bydd Cymru hefyd yn elwa o fuddsoddiadau mawr mewn seilwaith ac ymchwil, gan gynnwys y gronfa arloesi seiliedig ar leoedd a’r ‘bargeinion’ sector ar gyfer deallusrwydd artiffisial, gwyddorau bywyd ac adeiladu - meysydd lle mae gennym arbenigedd neilltuol ar hyd a lled Cymru.

Mae hyn yn ddechrau partneriaeth gyffrous a thymor hir gyda diwydiant, academia, cymdeithas sifil a busnes. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd Cymru yn arwain y byd yn y meysydd y byddwn yn dewis cystadlu ynddynt a chymryd rôl allweddol yn sbarduno cynhyrchiant a ffyniant ar draws y DU.

Dywedodd Greg Clark, yr Ysgrifennydd Busnes:

Bydd ein Strategaeth Ddiwydiannol newydd ac uchelgeisiol yn adeiladu ar gryfderau’r DU, bydd yn hybu cynhyrchiant a’r gallu i ennill arian, a bydd hefyd yn sicrhau y byddwn yn un o’r mannau mwyaf cystadleuol yn y byd i ddechrau a datblygu busnes.

Rydym yn cydnabod nad oes dwy economi yr un fath yn y DU - ymysg cryfderau Cymru y mae awyrofod, amaethyddiaeth a bwyd a diod. Ond, rydym hefyd yn cydnabod nad rhywbeth sy’n cael ei wneud i fusnes yw ein Strategaeth Ddiwydiannol ond yn hytrach rhywbeth sy’n cael ei wneud gan fusnes a gyda busnes. Mae’r strategaeth hon yn ymwneud â chwmnïau o bob rhan o’r DU yn dod at ei gilydd ac yn gweithio gyda’r llywodraeth i adeiladu economi well a mwy cynhyrchiol i’r DU - yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae Cymru yn enwog ar draws y byd am ei diwydiant dur, ac mae gan y DU enw da am arloesi ym maes dur ar sail ymchwil a datblygu rhagorol a threftadaeth ddiwydiannol gref, ac mae’r Ganolfan Gwyddor Dur yn rhan o Fargen Rhanbarth Dinesig Bae Abertawe sy’n werth £1.3 biliwn.

Mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant dur i fapio gallu presennol y sector ac i drafod nifer o gynigion sydd wedi cael eu datblygu ers cyhoeddi Adeiladu ein Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd y llywodraeth yn anelu at bennu cyfleoedd ar gyfer marchnadoedd dur ac adeiladu ar yr asedau arloesi hyn ar draws y DU. Bydd hefyd yn parhau i ymgysylltu â’r diwydiant, a hefyd â’r undebau, y gweinyddiaethau datganoledig a phartneriaid eraill i ddatblygu cynnig sy’n gynaliadwy’n fasnachol mewn marchnad fyd-eang gystadleuol.

Cyhoeddwyd ar 27 November 2017