Datganiad i'r wasg

Cymru i elwa o fargen sector twristiaeth newydd

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi bargen wrth i Gymru dderbyn bron i filiwn o ymwelwyr rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf

  • Y fargen gyntaf ar gyfer y sector twristiaeth yn paratoi Prydain ar gyfer 9 miliwn o ymweliadau ychwanegol y flwyddyn, gydag ymrwymiad i adeiladu 130,000 o ystafelloedd newydd mewn gwestai erbyn 2025
  • Lansio cynllun gwerth £250,000 i wella cysylltedd band eang mewn canolfannau cynhadledd ledled y DU
  • Hyb data twristiaeth newydd a fydd yn helpu busnesau i gael gwell dealltwriaeth o ymwelwyr tramor
  • Ffocws o’r newydd ar chwalu rhwystrau mynediad ar gyfer ymwelwyr ag anableddau

Heddiw (Dydd Gwener y 28ain o Fehefin), cyhoeddodd y Prif Weinidog y fargen gyntaf erioed ar gyfer y sector twristiaeth yn y DU, gan atgyfnerthu rôl ryngwladol y DU fel cyfrannwr allweddol i’r diwydiant.

Drwy greu Hyb Data Twristiaeth, bydd y fargen newydd yn chwyldroi’r ffordd mae data’n cael ei ddefnyddio gan y sector. Bydd yr hyb yn casglu data sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gan ddangos y tueddiadau a’r gwariant diweddaraf, fel bod busnesau’n gallu targedu ymwelwyr o dramor yn well.

Mae’r fargen hefyd yn cynnwys cynllun gwerth £250,000 i wella cysylltedd band eang mewn canolfannau cynhadledd ledled y DU.

Y llynedd, ymwelodd tua 38 miliwn o bobl â’r DU, gan gyfrannu £23 biliwn i’r economi leol. Erbyn 2025, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd 9 miliwn yn ychwanegol yn ymweld â’r DU. Mae’r fargen newydd yn ymrwymo i adeiladu 130,000 o ystafelloedd ychwanegol mewn gwestai er mwyn ymateb i’r cynnydd hwn yn y galw am ehangu’r seilwaith.

Mae’r fargen hefyd yn amlinellu uchelgais y Llywodraeth i wneud y DU yn un o’r cyrchfannau mwyaf hygyrch ar gyfer ymwelwyr anabl, drwy wella cyfleusterau i bobl anabl a mynediad i gyrchfannau ledled y DU.

Meddai’r Prif Weinidog Theresa May:

Fel un o’r gwledydd sy’n denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr yn y byd, mae’r DU yn arweinydd rhyngwladol mewn twristiaeth fyd-eang, felly mae’n hanfodol ein bod yn parhau’n gystadleuol er mwyn ymateb i’r galw cynyddol.

Dyna pam fy mod yn falch o gyhoeddi heddiw y fargen gyntaf erioed ar gyfer y sector twristiaeth yn y DU, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi, yn rhoi hwb i gysylltedd a chynhyrchiant economaidd, ac yn chwalu’r rhwystrau i ymwelwyr ag anableddau.

Mae’r fargen hon yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth, nawr ac i’r dyfodol, wrth dynnu sylw at yr hyn sydd gennym i’w gynnig fel gwlad.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae twristiaeth yn fusnes pwysig yng Nghymru, a’n huchelgais yw y bydd yn parhau i gynnig cyflogaeth gynaliadwy ac yn cefnogi ein heconomi genedlaethol.

Bydd y fargen hon yn golygu y bydd Cymru yn fwy hygyrch ac yn gwella’r amodau ar gyfer ymwelwyr domestig a rhyngwladol, fel y gallant fanteisio i’r eithaf ar ein golygfeydd ysblennydd a’n diwylliant Cymreig byd-enwog.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd ar gyfer y Sector Twristiaeth ar wefan y DCMS.

Lluniwyd y fargen ar gyfer y sector mewn partneriaeth ag Awdurdod Twristiaeth Prydain a’r diwydiant, ac mae’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Fodern Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi twf parhaus y sector twristiaeth ac er mwyn sicrhau bod y DU yn dal i fod yn gystadleuol yn rhyngwladol fel un o’r cyrchfannau gorau yn y byd i dwristiaid.

Meddai Steve Ridgway CBE, Cadeirydd Awdurdod Twristiaeth Prydain:

Mae’r fargen hon yn mynd i drawsnewid twristiaeth, sef un o ddiwydiannau allforio mwyaf gwerthfawr y DU, gan greu newid sylweddol er gwell yn y modd rydym yn cefnogi twristiaeth. Bydd nawr ar flaen y gad fel un o’r diwydiannau pwysicaf yng nghynlluniau economaidd Llywodraeth y DU i’r dyfodol.

Bydd hefyd yn chwyldroi’r economi, gan dyfu gwerth y diwydiant a chreu mwy o gyflogaeth mewn twristiaeth, gan fynd i’r afael â heriau o ran sgiliau a chynhyrchedd, ehangu’r tymor gwyliau drwy’r flwyddyn, datblygu cyrchfannau twristiaeth cryfach ar hyd a lled y DU, a chynnig profiadau bythgofiadwy ar gyfer ymwelwyr domestig a rhyngwladol.

Twristiaeth yw un o’r diwydiannau mwyaf cystadleuol yn y byd, a bydd y fargen hon yn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gystadlu’n rhynwgadol fel un o’r cyrchfannau gorau ar gyfer ymwelwyr, gan yrru twf economaidd sylweddol ledled y DU i gyd.

NODIADAU I OLYGYDDION:

  • Mae nifer y gweithwyr yn y sector twristiaeth wedi cynyddu 17% ers 2011. Mae hyn yn fwy na dwbl y tueddiadau cyflogaeth cyffredinol yn y DU.
  • Yn 2018, cafwyd mwy na 940,000 o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru. Roedd yr ymwelwyr hyn wedi gwario £404.6 miliwn yn 2018.
  • Ar gyfartaledd, roedd ymwelydd rhyngwladol i Gymru yn treulio 6.5 noson yma. Y cyrchfan twristaidd mwyaf poblogaidd oedd Gerddi Bodnant a Chaerdydd oedd y ddinas fwyaf poblogaidd.
Cyhoeddwyd ar 28 June 2019