Datganiad i'r wasg

Cymru yn dechrau 2017 gyda chynnydd o un flwyddyn i'r llall yn y lefel cyflogaeth

Cymru yn dechrau 2017 gyda chynnydd o un flwyddyn i'r llall yn y lefel cyflogaeth

Mae lefelau cyflogaeth ar ddechrau 2017 yn uwch nag yr oeddynt ar ddechrau 2016. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel cyflogaeth 24,000 yng Nghymru ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 1.9 pwynt canran. Gostyngodd y lefel cyflogaeth 15,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.0 pwynt canran.
Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau hefyd wedi gostwng 1,200 yng Nghymru rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 1,500 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.1 pwynt canran.
Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw fel a ganlyn:

  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i lawr 18,000 dros y chwarter i 1.440 miliwn ac mae’r gyfradd i lawr 1.0 pwynt canran i 72.5 y cant. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 24,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 1.9 pwynt canran.

  • Mae lefel diweithdra i fyny 1,000 dros y chwarter i 66,000 a’r gyfradd i fyny 0.1 pwynt canran i 4.4 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 15,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.0 pwynt canran.

  • Roedd y nifer sy’n hawlio budd-daliadau 1,200 (2.9 y cant) yn llai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr a 1,500 (3.4 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd yn 2.8 y cant. Ar gyfer y DU, cafwyd 10,100 o ostyngiad yn y nifer sy’n hawlio budd-daliadau (1.3 y cant) dros y mis a chafwyd 26,900 (3.5 pwynt canran) o gynnydd dros y flwyddyn a’r nifer yn awr yn 797,800. Mae cyfradd y DU yn 2.3 y cant.

  • Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi cynyddu 18,000 dros y chwarter i 459,000 a’r gyfradd wedi codi 1.0 pwynt canran i 24.1 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 21,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.1 pwynt canran. Ar gyfer y DU, cafwyd 85,000 o gynnydd mewn anweithgarwch economaidd (0.2 pwynt canran) dros y chwarter ond gostyngodd 63,000 (0.2 pwynt canran) dros y flwyddyn a’r nifer yn awr yn 8.894 miliwn. Mae’r gyfradd anweithgarwch yn y DU erbyn hyn yn 21.7 y cant;

  • Roedd cyfanswm cyflogaeth ar gyfer y DU wedi disgyn 9,000 dros y chwarter i 31,802 miliwn. Gostyngodd y gyfradd 0.1 pwynt canran i 74.5 y cant. Dros y flwyddyn, cafwyd 294,000 o gynnydd yn y lefel ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 0.4 pwynt canran.
  • Roedd cyfanswm diweithdra’r DU wedi disgyn 52,000 dros y chwarter i 1.604 miliwn, nid oedd y gyfradd wedi newid ac mae’n dal yn 4.8 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 81,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n wych bod Cymru wedi cychwyn 2017 gyda lefelau cyflogaeth uwch na’r un amser y llynedd. Mae ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur yn dangos bod gan fusnesau yng Nghymru y gallu i ffynnu a manteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaen. Mae busnesau Cymru wedi dangos eu bod yn hyderus am y dyfodol ac yn ddigon uchelgeisiol am 2017.

Mae’r ffigurau hyn yn cyd-fynd â chyhoeddiadau diweddar, megis y penderfyniad i sefydlu canolfan atgyweirio byd-eang ar gyfer y rhaglen F-35 yng ngogledd Cymru a chyfleuster gweithgynhyrchu newydd Aston Martin yn Sain Tathan. Maent hefyd yn dangos bod Cymru yn dal yn lle gwych i gynnal busnes.

Cyhoeddwyd ar 18 January 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 January 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.