Datganiad i'r wasg

Rhagor o hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru yn dod yn fos arnynt eu hunain

Mwy na 4,000 o fusnesau wedi cael eu cychwyn gan ddefnyddio Lwfans Menter Newydd

Entrepreneur

Entrepreneurs

Mae mwy na 4,000 o fusnesau newydd wedi cael eu cychwyn gan hawlwyr budd-daliadau di-waith yng Nghymru yn ôl ystadegau swyddogol newydd a ryddhawyd heddiw gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae’r ffigyrau’n datgelu bod cyfanswm o 4,070 o fusnesau newydd yng Nghymru wedi cael eu creu gan ddefnyddio Lwfans Menter Newydd ers i hwnnw gael ei gyflwyno yn Ebrill 2011. Mae hyn wedi cyfrannu at greu cyfanswm o 73,000 o fusnesau newydd drwy’r cynllun ym Mhrydain.

Yng Nghymru, dyma’r pum awdurdod lleol lle crëwyd y nifer fwyaf o fusnesau newydd (hyd at Fehefin 2015):

  1. Caerdydd 540
  2. Abertawe 410
  3. Sir Gaerfyrddin 350
  4. Sir Benfro 290
  5. Caerffili 270

Mae’r Lwfans Menter Newydd yn rhoi cymorth ariannol a mentor busnes i hawlwyr budd-daliadau sydd â syniad busnes cadarn.

Dywedodd Priti Patel, y Gweinidog dros Gyflogaeth:

Rydym eisiau i bawb ymhob rhan o’r DU elwa ar y cyfleoedd sy’n cael eu creu gan ein heconomi sy’n tyfu. Rydym yn cefnogi pobl, ni waeth beth fo’u cefndir nac o ble maent yn dod, os ydynt eisiau gweithio’n galed a llwyddo.

Mae’r cynllun hwn yn helpu hawlwyr budd-daliadau sydd â syniad busnes da i fod yn fos arnynt eu hunain er mwyn iddynt allu eu cefnogi eu hunain a’u teuluoedd, a gweddnewid eu bywydau.

Y DU yw’r lle gorau yn Ewrop ac un o’r llefydd gorau yn y byd i gychwyn busnes, ond mae’r Llywodraeth eisiau gweld mwy o bobl o gymunedau difreintiedig yn cael cyfle i wireddu eu breuddwyd o fod yn fos arnynt eu hunain.

Mae’r Llywodraeth wedi lansio adolygiad dan arweiniad yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yn cael ei gynnal gan Michelle Mone OBE, yr entrepreneur a’r wraig fusnes, ynglŷn â ffyrdd o gefnogi pobl o’r ardaloedd hyn i sefydlu eu busnes eu hunain.

Gall cymunedau difreintiedig gynnwys ardaloedd lle mae lefel uchel o ddiweithdra, diweithdra wedi hen ymwreiddio, neu lefelau is o addysg.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r llywodraeth hon yn cefnogi pawb sydd ag uchelgais, a hynny ar bob cam o’r ffordd.

Mae’r Lwfans Menter Newydd yn helpu miloedd o bobl yng Nghymru i ddewis rhoi terfyn ar fyw ar fudd-daliadau, dechrau eu busnes eu hunain a bod yn rhan o genhedlaeth fentrus newydd.

Dyma gyflogwyr y dyfodol - y rhai a fydd yn trawsnewid ein heconomi, yn creu rhagor o swyddi ac yn creu dyfodol llewyrchus i Gymru.

Mae’r Lwfans yn helpu pobl sy’n chwilio am waith, rhieni sengl a phobl ar fudd-daliadau salwch sydd â syniad da i sefydlu eu busnesau eu hunain. Mae pobl sydd ar y cynllun yn cael cymorth arbenigol a chyngor gan fentor busnes a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu syniad busnes a llunio cynllun busnes. Os caiff y cynllun busnes ei gymeradwyo, maent yn gymwys i gael cymorth ariannol sy’n daladwy drwy lwfans wythnosol am 26 wythnos hyd at gyfanswm o £1,274.

Astudiaeth achos

Rudi Thomas

Cafodd Rudi Thomas, y dyn busnes o Brestatyn, ei gefnogi gan y Lwfans Menter Newydd pan oedd yn wynebu dyfodol ansicr oherwydd anaf hirdymor ar ei fraich a oedd yn golygu na allai barhau i weithio fel gyrrwr lori. Gyda chymorth y cynllun, penderfynodd fynd yn hunangyflogedig ac mae wedi sefydlu caffi llwyddiannus ar lan y môr yn y gogledd o’r enw “Crofter’s Pantry”. Erbyn hyn, mae Rudi yn ennill bywoliaeth dda drwy ei fenter fusnes ac mae hefyd yn cyflogi myfyrwyr yn y caffi.

Mae’r Lwfans wedi cefnogi Rudi drwy’r broses o gychwyn y busnes, ac mae ei fentoriaid wedi rhoi cyngor amhrisiadwy iddo ym maes cyfrifeg a busnes.

Dywedodd Rudi:

Dwi’n wirioneddol falch o ran yr elw dwi wedi’i wneud ac o ran boddhad y cwsmeriaid. Yn gyffredinol, mi fyddwn i’n argymell y Lwfans Menter Newydd yn fawr gan ei fod yn ffordd wych o’ch cefnogi chi yn ystod camau cyntaf y busnes.

Meurig Davies

Entrepreneur arall sydd wedi cael cymorth gan y Lwfans Menter Newydd yw Meurig Davies, un o gyn-weithwyr Parciau a Gerddi Ceredigion. Mae Meurig wedi mynd o dorri glaswellt i werthu trysorau o’r gorffennol gyda chymorth y cynllun.

Bu’r tad i dri yn gofalu am barciau a gerddi Ceredigion am bedair blynedd cyn colli ei waith yn 2014, ond gyda chymorth gan y Lwfans Menter Newydd mae Meurig wedi agor Harbourside Antiques and Collectibles.

Dywedodd Meurig:

Mae gen i ddiddordeb mewn hen bethau ers rhyw ugain mlynedd ac rwy’n gwybod llawer. Does dim siopau hen bethau yn yr ardal felly pan ddaeth eiddo masnachol ar gael ar bwys fy nghartref, gwnes ymchwil i agor un. Mae wedi bod yn gymorth mawr. Roeddwn yn nerfus ac wedi cyffroi pan wnaethom agor ar Ebrill 1. Mae gennym lif cyson o ymwelwyr ond wrth aros i dymor yr ymwelwyr ddechrau rwyf wedi bod yn defnyddio pob ceiniog sy’n mynd i’r til i dalu biliau a phrynu stoc. Mae grant y Lwfans Menter Newydd wedi gofalu fy mod yn gallu dod i ben.

Mae’n teimlo’n wych i fod yn fos arnaf fy hun a chael gwneud rhywbeth rwy’n ei garu. Rydym yn mynd i’r cyfeiriad iawn ac rwy’n teimlo’n ffyddiog am y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Lwfans Menter Newydd ar gael i’r canlynol:

  • pobl dros 18 mlwydd oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
  • pobl sy’n hawlio Cymhorthdal Incwm fel rhiant sengl neu sy’n sâl
  • pobl ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n gymwys

Darllenwch yr ystadegau llawn yma

Cyhoeddwyd ar 24 September 2015