Datganiad i'r wasg

Trefi glan y môr yng Nghymru’n cael eu hannog i fanteisio ar y gronfa adfywio arfordirol

Annog trefi glan y môr i hawlio eu cyfran o gronfa i roi hwb i ddatblygiad economaidd cymunedau arfordirol

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Penarth Pier

Penarth Pier

Mae trefi glan y môr yng Nghymru’n cael eu hannog i hawlio eu cyfran o gronfa gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi’i dylunio i roi hwb i ddatblygiad economaidd cymunedau arfordirol. Mae modd defnyddio’r arian i gynnal a datblygu seilwaith twristiaeth neu hyd yn oed i gefnogi mentrau cymdeithasol arfordirol.

Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd y cyfanswm ar gyfer rownd nesaf y Gronfa Cymunedau Arfordirol yn cynyddu i £29 miliwn. Mae’r cynllun wedi’i ymestyn tan 2015/16 hefyd, er mwyn i hyd yn oed rhagor o gymunedau o bob cwr o’r DU wneud cais am gyfran o’r cyllid ar gyfer cynlluniau trefi glan y môr a fydd yn hybu twf.

Yng Nghymru, bydd cymunedau arfordirol yn gallu cael mynediad at £1.55 miliwn o gyllid i gefnogi cyfleoedd newydd sy’n gallu gwneud i’w trefi ffynnu.

Mae cyllid o dros £50,000 ar gael i brosiectau sy’n para am hyd at ddwy flynedd, fel y rheini sy’n cefnogi elusennau, yn gwella sgiliau neu’n diogelu’r amgylchedd. Dewisir prosiectau ar sail eu gallu i gefnogi twf cynaliadwy a swyddi mewn cymunedau arfordirol.

Mae trefi glan y môr ledled Cymru eisoes wedi cael hwb ariannol mawr ar gyfer prosiectau sydd wedi helpu i gynnal a chreu swyddi a dod â chyfleoedd busnes newydd i’w cymunedau. Y llynedd, roedd prosiectau fel Bay Leisure yn Abertawe a phrosiect Coastal Hawks yng Nghonwy ymysg pum cais llwyddiannus a dderbyniodd gyllid.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

O ddatblygu canolfan hebogyddiaeth yng Nghonwy i dalu am brosiect marchnata a gweithgareddau sy’n ymwneud ag adfer Pafiliwn Pier Penarth, mae’r Gronfa Cymunedau Arfordirol wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau bychan ledled Cymru yn barod.

Rhaid i ni ddal ati i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd gennym i droi ein trefi glan y môr yn straeon llwyddiant drwy gydol o flwyddyn. Gobeithio y bydd llawer mwy o brosiectau cymunedau arfordirol yng Nghymru’n cyflwyno cynigion creadigol eu hunain er mwyn manteisio ar y gronfa hon, a helpu i greu swyddi a hybu sgiliau a fydd o fudd i’r gymuned gyfan.

Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:

Mae Cronfa Cymunedau’r Arfordir yn rhoi cyfle go iawn i’n trefi a phentrefi glan môr dyfu wrth i’r wlad elwa o’n hadnoddau morol. Gwnaethom ofyn i brosiectau fod yn greadigol ac mi ymatebon nhw i’r her - ym mlwyddyn un, roedd pob un o’r 51 prosiect a gafodd arian yn ymateb unigryw i’r heriau yn yr ardal honno, o greu harbwr modern ar Ynys Barra, i adnewyddu rheilffordd hanesyddol Gogledd Efrog, a sicrhau mai Wadebridge yng Nghernyw yw’r dref gyntaf ym Mhrydain sy’n cael ei phweru ag ynni solar.

Bydd y Gronfa’n cefnogi oddeutu 5000 o swyddi ac mae wedi creu cannoedd o gyfleoedd ar gyfer prentisiaid lleol mewn cynlluniau menter gymdeithasol, entrepreneuraidd neu elusennol newydd. Mae cyllid refeniw morol cynyddol o Ystad y Goron wedi caniatáu inni ychwanegu pump y cant at y gronfa, ac rwy’n annog prosiectau i gael eu ceisiadau’n barod ar gyfer Rownd 3 pan fydd yn agor flwyddyn nesaf. Cafodd y Gronfa ei chreu gan y Llywodraeth i alluogi ardaloedd arfordirol i gael cyfran o’r enillion a geir o’n hadnoddau morol, a dyna’n union beth rydym yn ei wneud.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Lansiodd Llywodraeth y DU y Gronfa Cymunedau Arfordirol yn 2012 er mwyn rhoi arian i drefi glan y môr yn y DU i helpu i dalu am brosiectau sy’n gallu trawsnewid ac arallgyfeirio economïau glan y môr.

  • Caiff y Gronfa Cymunedau Arfordirol ei chyllido gan y llywodraeth o incwm o asedau morol Stad y Goron. Mae cyllid ar gael yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

  • Mae’r Llywodraeth ganol a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn dyrannu’r cyllid mewn partneriaeth â’r Gronfa Loteri Fawr.

  • I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr http://www.bigfund.org.uk/global-content/programmes/uk-wide/coastal-communities

  • Ymholiadau’r Wasg: Cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204

Cymru – Cyllid Blwyddyn 1

ENW’R YMGEISYDD DISGRIFIAD O’R PROSIECT A’R CANLYNIADAU DYFARNIAD
Cwmni Budd Cymunedol Strategaeth Dinas y Rhyl Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chynyddu microfusnesau, hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth yn yr ardal. £300,000.00
Bay Leisure Limited Cynllun yn Abertawe sydd â’r nod o greu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Chwaraeon Dŵr i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan ddefnyddio asedau naturiol y traeth a’r glannau. £140,000.00
Menter Y Felin Uchaf Cyf Prosiect dwy flynedd ar Benrhyn Llŷn i greu adnodd parhaol ar gyfer hyfforddi pobl leol gyda sgiliau arbenigol i ddatblygu mentrau twristiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli gwyrdd a diwylliannol. £ 204,000.00
Penarth Arts and Crafts Limited Prosiect dwy flynedd a fydd yn cefnogi Swyddfa Marchnata a Gweithgareddau ar gyfer Pafiliwn Penarth. £199,000.00
Cwmni Budd Cymunedol Prosiect Coastal Hawks Mae’r prosiect blwyddyn hwn, sydd wedi’i leoli yng Nghonwy yn ceisio trawsnewid yr hen jyngl gloÿnnod byw ar Aber Afon Conwy yn ganolfan hebogiaid. £103,000.00

Delwedd drwy garedigrwydd Graeme Tozer ar Flickr

Cyhoeddwyd ar 23 August 2013