Stori newyddion

Rhoi hwb i enw da Cymru mewn digwyddiad i hyrwyddo rhagoriaeth mewn Technoleg Ariannol (FinTech)

Llywodraeth y DU yn lansio ei strategaeth FinTech gyntaf mewn Cynhadledd FinTech Ryngwladol

FinTech

FinTech conference

Bydd busnesau o Gymru sy’n arloesi yn y sector technoleg ariannol yn ceisio mynd â dyheadau eu cwmni i’r lefel nesaf heddiw pan fyddant yn ymuno â chynulleidfa fyd-eang wrth arddangos eu datblygiadau arloesol a’u cynlluniau buddsoddi byd-eang yn y Gynhadledd FinTech Ryngwladol (22 Mawrth).

Bydd Ail Gynhadledd FinTech Ryngwladol Llywodraeth y DU yn dod â buddsoddwyr rhyngwladol a chwmnïau Fintech y DU at ei gilydd gydag arweinwyr y diwydiant, rheoleiddwyr a gwneuthurwyr polisi ar gyfer diwrnod o sgyrsiau a sesiynau sy’n hyrwyddo’r cyfleoedd i fuddsoddi’n fyd-eang o fewn sector Fintech y DU.

Yng Nghymru, mae’r economi ddigidol gwerth tua £8.2 biliwn ac yn cyflogi dros 44,000 o bobl.

Bydd enw da Caerdydd fel lle i feithrin rhai o gwmnïau FinTech blaenllaw y DU yn cael ei amlygu yn y gynhadledd drwy gwmnïau newydd fel Wealthify, MYPINPAD a Delio.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wrthi’n archwilio potensial cynyddol cysylltiadau masnach Cymru-Asia yn y Gŵyl Arloesi Fawr yn Hong Kong.

Drwy sôn am statws cynyddol y sector FinTech yng Nghymru, dywedodd:

Naill ai’n tapio’ch cerdyn banc i dalu am eich coffi boreol, neu’n defnyddio eich ffôn clyfar i edrych ar eich cyfrif banc gyda’r nos, mae’n debygol iawn eich bod chi’n ddefnyddiwr rheolaidd o ddiwydiannau uchelgeisiol a chyffrous FinTech ym Mhrydain.

Bydd y gynhadledd hon yn gyfle i ddangos a dathlu diwydiant sydd wedi gwneud cymaint i gyfrannu at wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd y wlad hon, gan gryfhau statws y DU fel canolfan ariannol fyd-eang.

Ac rwy’n falch iawn o weld cwmnïau FinTech o Gymru yn cymryd rhan heddiw – a phob un ohonyn nhw’n awyddus i ddangos yr arloesedd sydd yma yng Nghymru, ac yn elwa o glasbrint ar gyfer yr ecosystem FinTech gorau’n y byd, wedi’i feithrin yma yn y DU.

Un o’r cwmnïau Cymreig sydd wedi cael gwahoddiad i arddangos eu technoleg yn y gynhadledd yw Wealthify. Wedi’i lansio yng Nghaerdydd yn 2016, mae’n wasanaeth buddsoddi ‘robo’ isel o ran cost sy’n gwneud y broses o ddod yn fuddsoddwr yn haws, yn gyflymach ac yn fwy fforddiadwy.

Dywedodd Richard Theo, Prif Weithredwr Wealthify:

Mae’r Gynhadledd Fintech Ryngwladol yn gyfle cyffrous i rai o gwmnïau fintech gorau a disgleiriaf y DU ddod at ei gilydd ar gyfer trafodaethau perthnasol a safonol, gan arwain at gydweithio ystyrlon gyda busnesau eraill, gwneuthurwyr polisi a buddsoddwyr posibl o bob cwr o’r byd. Rydym wedi’n plesio gyda safon y sefydliadau eraill sydd ar y rhestr gynadledda ar gyfer IFC2018 – mae’n cynnwys holl enwau mawr sector fintech y DU.

Lansiwyd Wealthify yn 2016 gyda’r nod o ddefnyddio technoleg i chwyldroi a democrateiddio buddsoddi drwy ei gwneud hi’n syml, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb. Mae digwyddiadau fel yr IFC yn gweithredu fel fforwm pwysig ar gyfer busnesau Fintech tebyg i gyfarfod, cyfnewid profiadau a syniadau a chymryd rhan mewn trafodaeth sy’n helpu i wthio cynnydd yn y sectorau sy’n datblygu. Beth sy’n gwneud y Gynhadledd yn wahanol i ddigwyddiadau eraill rydym wedi’u mynychu yw’r cyfle unigryw ac amhrisiadwy i gynnal y trafodaethau hollbwysig hyn ym mhresenoldeb gwneuthurwyr polisi a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn San Steffan, a gall eu cefnogaeth nhw sbarduno newid positif ar gyfer sector y DU a thu hwnt.

Bydd MYPINPAD yn ymuno â Wealthify yn y gynhadledd – cwmni o Gaerdydd sy’n arbenigo mewn meddalwedd dilysu taliadau a sefydlwyd yn 2012 ac sydd bellach â swyddfeydd yn Llundain, Hong Kong a Jakarta.

Dywedodd Allan Syms, Prif Swyddog Gweithredol MyPinPad:

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis i arddangos yn y Gynhadledd FinTech Ryngwladol eleni fel ‘un o gwmnïau FinTech mwyaf cyffrous y DU’. Mae MYPINPAD yn gwmni byd-eang sy’n arwain y gwaith o ddatblygu meddalwedd i ddatrys yr atebion i ddilysu taliadau.

Mae ein technolegau patent yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel nag erioed o’r blaen i fasnachwyr a PSP i dderbyn taliadau cerdyn ar-lein ac yn y siop i fodloni’r galw cynyddol am atebion arloesol ar gyfer dulliau symudol o dalu.

Mae ein nod o dyfu nifer y mannau sy’n derbyn cerdyn ar draws y byd o 46m i 460m yn ystod y 5 mlynedd nesaf yn ein gwthio tuag at y nod o droi pob dyfais clyfar yn declyn sy’n gallu derbyn taliadau. Rydym yn edrych ymlaen at ddangos ein technolegau a meddalwedd dilysu taliadau chwyldroadol i fuddsoddwyr rhyngwladol, arbenigwyr yn y diwydiant a gwneuthurwyr polisi domestig yn ystod y digwyddiad eleni.

Mae’r gynhadledd yn cyd-fynd â lansiad Strategaeth Sector FinTech Llywodraeth y DU - cynllun a ddatblygwyd i danlinellu cefnogaeth barhaus y Llywodraeth i’r diwydiant, gan ymateb yn uniongyrchol i un o nodau allweddol y Strategaeth Ddiwydiannol i wneud y DU yn un o’r llefydd gorau i ddechrau a thyfu busnes.

Bydd Strategaeth y Sector Fintech yn cynnwys:

  • tasglu Crypto-asedau sy’n cynnwys Trysorlys Ei Mawrhydi, Banc Lloegr a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Bydd hyn yn helpu’r DU i fod ar flaen y gad o ran harneisio manteision posib y dechnoleg sylfaenol, tra’n gwarchod rhag risgiau posib.
  • cynlluniau peilot ‘robo-reoleiddio’ i helpu cwmnïau fintech newydd, a’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn ehangach, i gydymffurfio â rheoliadau drwy ddatblygu meddalwedd fyddai’n sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau yn awtomatig, gan arbed amser ac arian iddynt.
  • penodi tri Cennad Fintech Rhanbarthol newydd i sicrhau bod manteision fintech yn cael eu gweld ledled y DU.
  • creu cyfres o safonau diwydiannol fydd yn galluogi cwmnïau fintech i weithio mewn partneriaeth â banciau cyfredol yn haws.
  • helpu cwmnïau bach newydd i ddarparu gwasanaethau ariannol cymhleth, ac felly, tyfu eu busnesau a chyrraedd cwsmeriaid newydd. Bydd y diwydiant a’r llywodraeth yn cydweithio i greu ‘llwyfannau ar y cyd’ fydd yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu’r cwmnïau hyn wrth sefydlu systemau newydd.
  • Rhaglen ‘Cyswllt â Byd Gwaith’ a ddatblygwyd gan Banel Gweithredu Fintech y llywodraeth er mwyn helpu cwmnïau fintech i fanteisio ar weithlu amrywiol y DU.

Yn y gynhadledd bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock, hefyd yn cyhoeddi bod Tech City UK yn adeiladu Rhaglen Fintech sydd gyda’r gorau yn y byd ar draws y wlad. Bydd yn cefnogi cwmnïau newydd yn y sector ar draws y DU i ddod yn gwmnïau fintech byd-eang y dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol a Diwylliant Matt Hancock:

Rydym yn benderfynol o wneud Prydain y lle gorau i ddechrau a thyfu busnes digidol, tra’n rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr o ran rheoli eu harian. Bydd y rhaglen fintech newydd yma ar draws y wlad yn helpu cwmnïau newydd ledled y wlad i ffynnu yn y dyfodol a lledaenu manteision y dechnoleg arloesol hon.

Mae’r Gynhadledd yn ddigwyddiad sy’n rhan o Wythnos Fintech y DU 2018, sy’n cael ei chynnal rhwng 19 a 23 Mawrth.

Cyhoeddwyd ar 22 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 March 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.