Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn rhoi “cefnogaeth lwyr” i ddiwydiant olew Cymru

Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ymweld â Phurfa Valero ym Mhenfro

Heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r diwydiant olew yn ystod ei ymweliad â sir Benfro heddiw (19 Chwe).

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â phurfa Valero ym Mhenfro ac yn cael taith o’i chwmpas. Yno bydd yr Is-lywydd a’r rheolwr cyffredinol, Edward Tomp, yn rhoi gwybod iddo am sut mae’r cwmni’n gweithio.

Wedyn, bydd yn mynd ar daith o gwmpas y safle i weld y cyfleuster yn agos. Mae’r burfa’n cynhyrchu 220,000 baril y diwrnod, a dyma un o’r gweithgynhyrchwyr tanwydd mwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop, ac un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal.

Gyda gweithlu o fwy na 500 o bobl, a channoedd o rai eraill yn cael eu cyflogi fel contractwyr, mae purfa Valero yn chwarae rôl allweddol yn ffyniant economi gorllewin Cymru.

Gan siarad cyn ei ymweliad, bydd Alun Cairns yn pwysleisio bod buddsoddiad parhaus y cwmni yn ei safle ym Mhenfro yn dystiolaeth o gadernid ei bobl a’r hyder sydd ganddo yn yr amgylchedd busnes yng Nghymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r diwydiant olew yn hanfodol i’n strategaeth ddiwydiannol traws-lywodraeth yn ogystal ag i’r economi ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r DU yn y dyfodol.

Mae cyfraniad purfa Valero i’r economi ranbarthol ac i’r economi ehangach yng Nghymru ac yn y DU yn amhrisiadwy. Mae Valero yn chwarae rhan allweddol ym mywydau’r bobl sy’n byw yn yr ardal hon, boed hynny drwy greu swyddi neu drwy ymgysylltu â’r gymuned.

Rwyf am ddatgan yn glir fod gan y diwydiant hwn gefnogaeth lwyr Llywodraeth y DU.

Gan mai dyma un o sectorau diwydiannol mwyaf Cymru ac un o’r gweithluoedd mwyaf medrus yn y byd, rydym yn benderfynol o ddal ati i gydweithio i sicrhau ei lwyddiant dros y tymor hir.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod gennym ni’r polisïau priodol i greu’r buddsoddiad angenrheidiol yn y seilwaith ynni a sicrhau bod buddsoddwyr pwysig fel Valero yng Nghymru ac yng ngweddill y DU yn aros yn gystadleuol.

Dywedodd Edward Tomp, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Purfa Valero ym Mhenfro:

Mae Valero yn falch iawn o groesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i Burfa Penfro, er mwyn iddo weld â’i lygaid ei hun y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud bob dydd yng ngorllewin Cymru yn y diwydiant hollbwysig hwn. Mae Valero yn gyfrifol am 15% o allforion Cymru, ac mae’n rhan bwysig o’r economi yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r sector olew is, sy’n allweddol o ran twf economaidd, cyflogaeth a diogelu ffynonellau ynni ar gyfer Cymru a’r DU.

Cyhoeddwyd ar 19 February 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 February 2018 + show all updates
  1. Translation added

  2. First published.