Swyddfa Cymru i groesawu swyddog Comisiynydd y Gymraeg ar secondiad
Swyddfa Cymru i groesawu swyddog Comisiynydd y Gymraeg ar secondiad
Heddiw, cadarnhaodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd swyddog o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn mynd i weithio ar secondiad i Swyddfa Cymru fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws y Llywodraeth.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol benodi Guto Bebb AS yn ymgynghorydd i’r adran ar faterion iaith Cymraeg ym mis Rhagfyr y llynedd.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae Swyddfa Cymru, fel yr adran sydd â’r prif gyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth y DU, yn deall yn iawn pa mor hanfodol yw’r iaith i hunaniaeth a diwylliant Cymru.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn y Gymraeg pan fo galw am hynny, a gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn cyflawni hyn. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolydd ar secondiad o’i swydd, i edrych ar sut y gallwn ni wella’r gwasanaethau hynny ymhellach.”
Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:
“Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan adrannau Whitehall yn bwysig o ran yr iaith Gymraeg. Bydd y swyddog ar secondiad yn gweithio’n agos gyda’r adrannau hyn i sicrhau eu bod yn datblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn unol â’r fframwaith statudol perthnasol ar gyfer yr iaith Gymraeg er budd pobl Cymru.”
Cytunir ar fanylion pellach ynghylch cyfrifoldebau’r swyddog ar secondiad maes o law.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 October 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.