Cartref newydd i Swyddfa Cymru yng Nghaerdydd
Mae Swyddfa Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod yn symud o’i lleoliad presennol, yn Discovery House, i Caspian Point sydd gerllaw. Rydym yn symud…

Mae Swyddfa Cymru yn falch o gyhoeddi ei bod yn symud o’i lleoliad presennol, yn Discovery House, i Caspian Point sydd gerllaw. Rydym yn symud i swyddfa debyg o ran maint, ond sy’n fwy amgylcheddol gyfeillgar, gan fod les 10 mlynedd yr Adran ar gyfer yr adeilad yn Discovery House yn dod i ben ddechrau 2013.
Byddwn yn symud rhwng diwedd mis Gorffennaf a chanol mis Awst.
Dyma fydd ein cyfeiriad newydd yng Nghaerdydd: Swyddfa Cymru, 1 Caspian Point, Caspian Way, Caerdydd CF10 4DQ
Bydd y rhifau ffon presennol i gyd yn aros yr un fath.
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae’r swyddfa 5,749 troedfedd sgwar yn Discovery House yn rhan o ystad Awdurdod Glannau Caerdydd, a roddwyd ar les i Swyddfa Cymru yn 2003. Mae’r swyddfa newydd 5,452 troedfedd sgwar yn Caspian Point hefyd yn rhan o ystad Glannau Caerdydd.
- Mae adeilad Caspian Point wedi cael sgor BREEAM ‘Ardderchog’. BREEAM yw’r system sgorio a’r dull mwyaf blaenllaw yn fyd-eang ar gyfer cynnal asesiad amgylcheddol ar adeiladau, ac mae’n gosod y safon o ran arferion gorau wrth ddylunio, adeiladu a gweithredu adeiladau cynaliadwy. Mae wedi dod yn un o’r mesuriadau mwyaf cynhwysfawr o berfformiad amgylcheddol adeilad, sy’n cael ei gydnabod yn eang.