Stori newyddion

Gweinidogion Swyddfa Cymru i nodi Sul y Cofio

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn achub ar y cyfle i fyfyrio ynghylch ymroddiad ac aberth y dynion a’r menywod sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn achub ar y cyfle i fyfyrio ynghylch ymroddiad ac aberth y dynion a’r menywod sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd, yn y digwyddiadau Sul y Cofio a gynhelir yng Nghaerdydd ac yn Llundain y penwythnos hwn (dydd Sul 11 Tachwedd).

Bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol yn y seremoni wrth y Gofadfail yn Llundain. Bydd y Farwnes Jenny Randerson, yr Is-ysgrifennydd Seneddol, yn bresennol mewn Gwasanaeth Cofio ac yn gosod torch wrth y gofadfail ym Mharc Cathays, Caerdydd, tra bydd Is-ysgrifennydd Seneddol, Stephen Crabb yn bresennol mewn seremoniau yn Aberdaugleddau a Nefyn yn Sir Benfro.

Dywedodd Mr Jones:

“Hwn fydd fy Sul y Cofio cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a bydd yn fraint i mi gynrychioli Cymru wrth y Gofadfail yn Llundain.

“Yn ystod y cyfnod o dawelwch, byddaf yn cofio am y dynion a’r menywod o Gymru a’r rheini sydd wedi gwasanaethu yn Unedau Cymru, gan roi eu bywydau neu gael eu hanafu wrth wasanaethu ein gwlad, boed hynny dramor neu gartref.

“Byddaf hefyd yn cofio am y rheini sy’n parhau i gyflawni eu dyletswyddau ar hyd a lled y byd, boed hynny ar y rheng flaen yn Affganistan, ar Ynysoedd Falkland neu ar y mor. Efallai y caiff ambell un ohonynt egwyl o’u dyletswyddau i sefyll mewn tawelwch, ond tra byddwn ni’n cael eiliad i feddwl a myfyrio, bydd y rhan fwyaf yn parhau a’u gwaith yn ein hamddiffyn ni.   

“Ers i mi ddod i’r Llywodraeth, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd a nifer o aelodau o’r lluoedd arfog. Rwy’n gwybod pa mor falch ydynt o wasanaethu. Yr wythnos hon, cefais gyfle i ymweld ag RAF y Fali, a gweld yr hyfforddiant a’r gwaith anhygoel sy’n digwydd yno. O’r gwasanaeth Chwilio ac Achub i’r hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd, mae hyn oll yn helpu i’n cadw ni’n ddiogel.

“Rydw i, fel sawl un arall, yn ddiolchgar i’r rheini sy’n peryglu eu bywydau eu hunain er ein mwyn ni, ac i’r rheini sydd wedi colli eu bywydau i sicrhau bod y wlad hon, a’r byd hwn, yn lle mwy diogel i fyw.  Mae Sul y Cofio yn gyfle i ni ddangos parch, ac fe fydda i’n falch o wneud hynny ar ran Cymru ddydd Sul.”

Dywedodd y Farwnes **Randerson:**

“Ar Sul y Cofio, dylai pawb, boed hen neu ifanc, achub ar y cyfle i feddwl am eiliad am aberth dynion a menywod ein Lluoedd Arfog - aberth y maent yn dal i’w wneud er mwyn diogelu ein ffordd o fyw a sicrhau ein rhyddid.

“Pan fyddwn yn plygu pen i fyfyrio, byddwn yn uno i gofio am aelodau Lluoedd Arfog Prydain, yn y gorffennol a heddiw, ac yn dangos ein parch at eu gwaith.  Mae hwnnw’n waith anodd yn aml iawn ac yn waith sy’n aml yn eu cadw oddi wrth eu teuluoedd, a hynny yn rhai o’r amgylchiadau mwyaf anodd y gellir eu dychmygu. Fodd bynnag, gall pob un ohonom ymfalchio ym mhroffesiynoldeb ac yn ymroddiad aelodau’r Lluoedd Arfog bob dydd o amgylch y byd.      

“Rwy’n meddwl am y rheini sydd wedi colli eu hanwyliaid a’r rheini sy’n parhau i wasanaethu heddiw.”

Cyhoeddwyd ar 11 November 2012