Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn nodi Sul y Cofio

Gweinidogion Swyddfa Cymru Alun Cairns a Guto Bebb yn cymryd rhan mewn gwasanaethau Dydd y Cofio yng Nghaerdydd ac yn Llundain

Poppy Field

Poppy Field

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns a Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb yn cymryd rhan mewn gwasanaethau yng Nghaerdydd ac yn Llundain fel rhan o ddigwyddiadau Dydd y Cofio.

Ar ddydd Mercher 9 Tachwedd, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Guto Bebb yn mynd i wasanaeth ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru yng Nghastell Caerdydd, lle bydd yn darllen ‘The Exhortation’ yn Gymraeg.

Ar Sul y Cofio, 13 Tachwedd, bydd Alun Cairns yn mynd i Wasanaeth Cofio Cenedlaethol yn y Senotaff yn Whitehall yn Llundain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar Sul y Cofio, myfyriwn ar yr aberth a wnaed mewn rhyfeloedd ledled y byd ac achubwn ar y cyfle yma i gofio am ddewrder ac ymroddiad ein milwyr. Mae’n anrhydedd ac yn fraint i mi gynrychioli pobl Cymru yn y Senotaff.

Byddaf yn cofio am y dynion a’r merched o Gymru sydd wedi tyngu llw i wasanaethu ein gwlad, dramor neu gartref. Dylem dalu teyrnged i broffesiynoldeb ac ymrwymiad y milwyr hyn bob dydd wrth wasanaethu ac amddiffyn ein gwlad.

Dywedodd Guto Bebb:

Mae’n bwysig i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch am yr aberth a gaiff ei wneud bob dydd ar ein rhan gan gynifer o ddynion a merched dewr ledled y byd a dangos ein gwerthfawrogiad iddyn nhw.

Dylem dalu teyrnged i’r holl filwyr, yn awr ac yn y gorffennol, sydd wedi gwasanaethu’r wlad yma mor rhagorol. Mae’n ddyletswydd arnon ni i gofio ac anrhydeddu’r meirwon ac mae heddiw yn gyfle i ni wneud hynny.

Cyhoeddwyd ar 9 November 2016