Stori newyddion

Gweinidog Swyddfa Cymru yn croesawu gostwin TAW ar gyfer carafanau statig

Yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i ddiwygio’r cynnig yn y Gyllideb ynghylch TAW a charafanau statig, mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i ddiwygio’r cynnig yn y Gyllideb ynghylch TAW a charafanau statig, mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi croesawu’r manteision a ddaw i’r diwydiant carafanau yng Nghymru yn sgil hyn.

Bydd cyfradd TAW ostyngol newydd o 5% yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill. Bydd ymateb llawn y Trysorlys i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi pan fydd y Senedd yn ail-ddechrau.

Dywedodd Mr Jones:

“Mae’r penderfyniad hwn yn dangos bod y Llywodraeth wedi gwrando. Bydd y newyddion am y gostyngiad yn y TAW a godir yn cael ei groesawu gan gwmniau twristiaeth ledled Cymru. Mae’r sector parciau gwyliau a’r rheini sy’n dibynnu ar werthu carafanau yn rhannau pwysig o’n diwydiant twristiaeth yng Nghymru, ac roedd yn bwysig ystyried sut byddai newidiadau yn effeithio ar economiau lleol.

“Yn y Gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor gynlluniau i fynd i’r afael ag anghysondebau yn y system TAW. Rydym yn parhau i ystyried y pwyntiau a godwyd yn yr ymgynghoriad, ac mewn ymateb uniongyrchol i hyn, rydym yn gwneud rhywfaint o newidiadau i’r ffordd yr ymdrinnir a hwy. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r diwydiant, a all bellach ddechrau paratoi ar gyfer y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno.  Rwy’n falch bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi cael y cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Rhoddwyd nifer o sylwadau i mi, ac yn sicr, roedd y mater hwn yn ysgogi teimladau cryf yng Nghymru.”

Cyhoeddwyd ar 29 May 2012