Datganiad i'r wasg

Guto Bebb: “Mae cefnogaeth glir y Prif Weinidog i’r Northern Powerhouse yn newyddion gwych i Ogledd Cymru"

Bydd y Northern Powerhouse yn cryfhau’r cysylltiadau hanesyddol a ffyniannus sydd eisoes yn bodoli â’r dinasoedd gogleddol y tu hwnt i ffin Cymru.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru:

“Mae cefnogaeth glir y Prif Weinidog i’r Northern Powerhouse yn newyddion gwych i Ogledd Cymru.

“Bydd y Northern Powerhouse yn cryfhau’r cysylltiadau hanesyddol a ffyniannus sydd eisoes yn bodoli â’r dinasoedd gogleddol y tu hwnt i ffin Cymru.

“Ar hyn o bryd rydym yn trafod cynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru â’r gymuned fusnes, arweinwyr cynghorau ac eraill. Bydd cefnogaeth y Prif Weinidog i’r Northern Powerhouse - a’i hymrwymiad i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni tebyg ym mhob cwr o’r wlad yn gymorth mawr i sbarduno’r broses honno.”

Cyhoeddwyd ar 18 August 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 August 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.